4.—(1) Pan fo’n ymddangos i Weinidogion Cymru, wrth ystyried hysbysiad prynu—
(a)bod y cais perthnasol yn gais Atodlen 1 neu’n gais Atodlen 2, neu y byddai’n gais o’r fath; a
(b)mewn perthynas â’r datblygiad dan sylw—
(i)ni fu’n destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio; neu
(ii)bu’n destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio cyn y rhoddwyd caniatâd cynllunio neu cyn y’i haddaswyd i’r effaith nad yw’n ddatblygiad AEA; ac
(c)nad yw’r cais perthnasol yn dod gyda datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn mae paragraffau (3) a (4) o reoliad 7 yn gymwys fel pe bai’r gofyniad am gadarnhau’r hysbysiad prynu yn ofyniad gan y ceisydd yn unol â rheoliad 6(8).
(2) Pan fo rheoliad 7(3) yn gymwys yn rhinwedd paragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru, pan fo’n angenrheidiol, ac i’r graddau y mae’n angenrheidiol i sicrhau bod y ceisydd wedi darparu, yn achos—
(a)ceisiadau pan na wnaed unrhyw farn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio, yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(2); a
(b)ceisiadau eraill, yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(3),
ofyn am wybodaeth ychwanegol cyn dyroddi cyfarwyddyd sgrinio.