Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 8

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017, ATODLEN 8. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Rheoliad 55(2)

ATODLEN 8LL+CCeisiadau ROMP

Addasu darpariaethau ynglŷn â gwaharddiad ar roi caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynolLL+C

1.  Mae rheoliad 3 (gwaharddiad ar roi caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol heb ystyried gwybodaeth amgylcheddol) i’w ddarllen fel pe bai, ar ôl “datblygiad AEA” ei fod yn darllen “yn unol â chais ROMP”(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 8 para. 1 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Addasu darpariaethau mewn cais i awdurdod cynllunio lleol heb ddatganiad amgylcheddolLL+C

2.  Yn achos cais ROMP, rhaid i reoliad 11(4) (cais a wnaed i awdurdod cynllunio lleol heb ddatganiad amgylcheddol) gael ei ddarllen fel pe bai—

(a)“21 o ddiwrnodau” yn darllen “6 wythnos”; a

(b)ar ôl “yr hysbysiad”, ei fod yn darllen “, neu o fewn cyfnod arall y cytunir arno gyda’r awdurdod yn ysgrifenedig”.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 8 para. 2 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Datgymhwyso rheoliadau ac addasu darpariaethau ar gais a atgyfeiriwyd neu a apelwyd i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddolLL+C

3.—(1Yn achos cais ROMP, nid yw rheoliadau 11(6) ac (8), 12(7) ac (8), 13(8) a (9), a 61 yn gymwys.

(2Yn achos cais ROMP, rhaid darllen rheoliad 12(6) (cais a atgyfeiriwyd at Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol) a rheoliad 13(7) (apêl i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol) fel pe bai—

(a)“21 o ddiwrnodau” yn darllen “6 wythnos”; a

(b)ar ôl “yr hysbysiad” ei fod yn darllen “, neu o fewn unrhyw gyfnod arall y cytunir arno gyda Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig”.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 8 para. 3 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Amnewid cyfeiriadau at hawl i apelio o dan adran 78 o Ddeddf 1990 ac addasiadau i ddarpariaethau wrth apelio i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddolLL+C

4.—(1Yn achos cais ROMP, yn rheoliadau 13(1) a 20(1)(b), yn lle’r cyfeiriadau at “adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath)” darllener—

baragraff 5(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 9(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl i apelio).

(2Yn achos cais ROMP, darllener rheoliad 13(2) (apêl i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol) fel pe bai “, ac eithrio drwy wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol” wedi ei hepgor.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 8 para. 4 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Addasu darpariaethau ar lunio, cyhoeddusrwydd a gweithdrefnau wrth gyflwyno datganiadau amgylcheddolLL+C

5.—(1Yn achos cais ROMP, yn rheoliadau 14(10) a 15(9), yn lle’r geiriau “â chais am ganiatâd cynllunio neu gais dilynol ar gyfer” darllener “â chais ROMP sy’n ymwneud â chaniatâd cynllunio arall sy’n awdurdodi”.

(2Yn achos cais ROMP, yn rheoliad 18 (y weithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno i awdurdod cynllunio lleol) yn lle paragraff (4) darllener—

(4) Pan fo ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol i’r awdurdod yn unol â pharagraff (1), mae darpariaethau erthygl 12 o Orchymyn 2012 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio) ac Atodlen 3 iddo yn gymwys i gais ROMP o dan baragraff—

(a)2(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, a

(b)6(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995(2),

fel y maent yn gymwys i gais cynllunio sy’n dod o fewn paragraff (3A)(3) o erthygl 12 o Orchymyn 2012 ac eithrio bod “benderfynu’r amodau y mae cais cynllunio i fod yn ddarostyngedig iddynt” yn cael ei roi yn lle’r cyfeiriadau at “ganiatâd cynllunio” yn yr hysbysiad yn Atodlen 3 i Orchymyn 2012 a bod rhaid i’r hysbysiad gyfeirio at ddarpariaethau perthnasol Deddf 1991 neu Ddeddf 1995 y gwneir y cais yn unol â hwy.

(3Yn achos cais ROMP, yn rheoliad 19 (cyhoeddusrwydd pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno ar ôl y cais cynllunio)—

(a)ym mharagraff (2)(a) yn lle’r geiriau “bod cais yn cael ei wneud am ganiatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol” darllener—

bod cais yn cael ei wneud i benderfynu’r amodau y mae caniatâd cynllunio i fod yn ddarostyngedig iddynt, darpariaethau perthnasol Deddf 1991 neu Ddeddf 1995 y gwneir y cais yn unol â hwy ;

(b)yn lle paragraff (7) darllener—

(7) Pan fo ceisydd yn dynodi bod y ceisydd yn bwriadu darparu datganiad o’r fath ac o dan y fath amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (1), rhaid i’r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd, yn ôl y digwydd, ohirio ystyried y cais neu’r apêl hyd nes y dyddiad a bennir gan yr awdurdod neu gan Weinidogion Cymru ar gyfer cyflwyno’r datganiad amgylcheddol a chydymffurfio â pharagraff (6); a rhaid iddynt beidio â phenderfynu’r cais neu’r apêl yn ystod y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad diweddaraf y mae’r datganiad a’r dogfennau eraill a grybwyllir ym mharagraff (6) yn cael eu cyhoeddi yn unol â’r rheoliad hwn.

(4Yn achos cais ROMP, yn rheoliad 20(1) (darparu copïau o ddatganiadau amgylcheddol a gwybodaeth bellach i Weinidogion Cymru pe bai atgyfeiriad neu apelio)—

(a)yn is-baragraff (a) yn lle “adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol)” darllener “baragraff 7(1) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 13(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 8(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995”; a

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath)” darllener “baragraff 5(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1992, paragraff 11(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 9(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl apelio)”.

(5Yn achos cais ROMP, yn rheoliad 22 (argaeledd copïau o ddatganiadau amgylcheddol) ar ôl “Orchymyn 2012” darllener “(fel y’i cymhwysir gan reoliad 18(5) neu gan baragraff 9(5) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995),”.

(6Yn achos cais ROMP, yn rheoliad 24 (gwybodaeth bellach a thystiolaeth mewn cysylltiad â datganiadau amgylcheddol)—

(a)ym mharagraff (3)(a) yn lle’r geiriau “ceisydd am ganiatâd cynllunio neu am gydsyniad dilynol, neu’r apelydd (yn ôl y digwydd)” darllener—

person sydd wedi gwneud cais am benderfynu’r amodau y mae’r cais cynllunio i fod yn ddarostyngedig iddynt neu sydd wedi apelio mewn perthynas â hwy, darpariaethau perthnasol Deddf 1991 neu Ddeddf 1995 y gwneir y cais yn unol â hwy;

(b)ym mharagraff (7)(a) ar ôl y geiriau “cais neu’r apêl dros dro” darllener “hyd y dyddiad a bennir ganddynt ar gyfer cyflwyno’r wybodaeth bellach”.

(7Yn rheoliad 25 (ystyried pa un a ddylid rhoi caniatâd cynllunio), ym mharagraff (1)(d) darllener fel pe bai “os rhoddir caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol” wedi ei hepgor.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 8 para. 5 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Addasu darpariaethau wrth wneud cais i Uchel Lys a rhoi cyfarwyddydauLL+C

6.—(1Yn achos cais ROMP, yn lle rheoliad 59 (cais i’r Uchel Lys) darllener—

Cais i’r Uchel Lys

59.  At ddibenion Rhan 12 o Ddeddf 1990 (dilysrwydd penderfyniadau penodol), rhaid cymryd bod y cyfeiriad yn adran 288 o Ddeddf 1990, fel y’i cymhwysir gan baragraff 9(3) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 16(4) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 9(4) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995, nad yw gweithredoedd Gweinidogion Cymru o fewn pwerau Deddf 1990, yn ymestyn i benderfynu cais ROMP gan Weinidogion Cymru yn groes i reoliad 3.

(2Mae’r pŵer i roi cyfarwyddyd yn erthygl 18(2) o Orchymyn 2012 yn gymwys i ddatblygiad ROMP fel y mae’n gymwys i ddatblygiad y gwneir cais cynllunio mewn cysylltiad ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 8 para. 6 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Atal datblygiad mwynau dros droLL+C

7.—(1Pan fo’r awdurdod, Gweinidogion Cymru neu arolygydd yn ymdrin â chais ROMP neu apêl sy’n codi o gais ROMP ac yn hysbysu’r ceisydd neu’r apeliwr, yn ôl y digwydd, ei bod—

(a)yn ofynnol dan reoliad 11(1), 12(3) neu 13(5) i gyflwyno datganiad amgylcheddol, yna mae’n rhaid i hysbysiad o’r fath bennu’r cyfnod y mae’r datganiad amgylcheddol a chydymffurfiad â rheoliad 19(6) yn ofynnol; neu

(b)y dylai datganiad gynnwys gwybodaeth ychwanegol o dan reoliad 24(1), yna mae’n rhaid i hysbysiad o’r fath bennu’r cyfnod y mae’n rhaid darparu’r wybodaeth ynddo.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff y caniatâd cynllunio y mae’r cais ROMP yn ymwneud ag ef ond awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau (heblaw bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio i’r perwyl nad yw datblygiad ROMP yn ddatblygiad AEA) os yw’r ceisydd neu’r apelydd wedi—

(a)ysgrifennu at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru o fewn y 6 wythnos neu gyfnod arall y cytunir arno yn unol â rheoliadau 11(3) ac 11(4), 12(4) a 12(6) neu 13(7);

(b)cyflwyno datganiad amgylcheddol a chydymffurfio â rheoliad 19(6) o fewn y cyfnod a bennir gan yr awdurdod neu Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (1) neu o fewn unrhyw gyfnod estynedig y cytunir arno’n ysgrifenedig;

(c)darparu gwybodaeth ychwanegol o fewn y cyfnod a bennir gan yr awdurdod, Gweinidogion Cymru neu arolygydd yn unol â pharagraff (1) neu o fewn unrhyw gyfnod estynedig y cytunir arno’n ysgrifenedig; neu

(d)pan fo hysbysiad o dan reoliad 6(5), 7(3), 14(3) neu 15(3) wedi ei gael, ar yr amod bod yr wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani o fewn 21 o ddiwrnodau gan ddechrau â dyddiad yr hysbysiad, neu o fewn unrhyw gyfnod estynedig y cytunir arno’n ysgrifenedig.

(3Pan fo paragraff (2) yn gymwys, ni chaiff y caniatâd cynllunio awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd—

(a)y cyfnod perthnasol a bennir yn rheoliadau 11(3) a 11(4), 12(4) a 12(6) neu 13(7) neu gyfnod y cytunir arno yn unol â’r rheoliadau hynny; a

(b)y cyfnod a bennir neu y cytunir arno yn ysgrifenedig fel y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b), (c), a (d),

hyd nes bod y ceisydd wedi cydymffurfio â’r holl ddarpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) sy’n berthnasol i’r cais neu’r apêl dan sylw.

(4Rhaid i fanylion atal datblygiad mwynau dros dro a dyddiad y bydd yr ataliad hwnnw’n dod i ben gael eu nodi yn y rhan briodol o’r gofrestr(4) cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol.

(5Nid yw paragraff (2) yn effeithio ar unrhyw ddatblygiad mwynau a gynhelir o dan y caniatâd cynllunio cyn dyddiad atal y datblygiad mwynau dros dro.

(6At ddibenion paragraffau (2) i (5), ystyr “datblygiad mwynau” (“minerals development”) yw datblygiad sy’n cynnwys tynnu mwynau a gweithio ar fwynau, neu’n cynnwys gwaddodi gwastraff mwynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 8 para. 7 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Penderfynu ar amodau a hawl apelio wrth beidio â phenderfynuLL+C

8.—(1Pan mai cyfrifoldeb awdurdod cynllunio mwynau yw penderfynu ar gais Atodlen 1 neu gais Atodlen 2, nid yw paragraff 2(6)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 9(9) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 6(8) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 yn cael effaith fel bod yr awdurdod yn cael ei drin fel pe bai wedi penderfynu ar yr amodau y mae unrhyw ganiatâd cynllunio perthnasol i fod yn ddarostyngedig iddynt oni bai—

(a)bod yr awdurdod wedi mabwysiadu barn sgrinio; neu

(b)bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio i’r perwyl nad yw’r datblygiad ROMP dan sylw yn ddatblygiad AEA;

(2Pan mai cyfrifoldeb awdurdod cynllunio mwynau neu Weinidogion Cymru yw penderfynu ar gais Atodlen 1 neu Atodlen 2—

(a)mae adran 69 o Ddeddf 1990 (cofrestr o geisiadau etc.), ac unrhyw ddarpariaethau o Orchymyn 2012 a wnaed yn rhinwedd yr adran honno, yn cael effaith gydag unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol fel pe bai cyfeiriadau at geisiadau am ganiatâd cynllunio yn cynnwys ceisiadau ROMP o dan baragraff 9(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 6(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995(5); a

(b)pan nad yr awdurdod yw’r awdurdod y mae’n ofynnol iddo gadw’r gofrestr, rhaid i’r awdurdod ddarparu’r awdurdod y mae’n ofynnol iddo ei chadw gyda dogfennau a gwybodaeth o’r fath y mae ar yr awdurdod eu hangen i gydymffurfio ag adran 69 o Ddeddf 1990 fel y’i cymhwysir gan baragraff (a), gyda rheoliad 27 fel y’i cymhwysir gan reoliad 55, a chyda paragraff 7(4) o’r Atodlen hon.

(3Pan mai cyfrifoldeb yr awdurdod cynllunio mwynol neu Weinidogion Cymru yw penderfynu ar gais AEA a wnaed o dan baragraff 2(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 nid yw paragraff 4(4) o’r Atodlen honno yn gymwys.

(4Pan mai cyfrifoldeb yr awdurdod cynllunio mwynol yw penderfynu ar gais AEA, rhaid i’r awdurdod roi rhybudd o’i benderfyniad am y cais ROMP o fewn 16 wythnos gan ddechrau â’r dyddiad y y ceir cais ROMP gan yr awdurdod neu unrhyw gyfnod estynedig y cytunir arno’n ysgrifenedig rhwng y ceisydd a’r awdurdod.

(5At ddibenion paragraff (4), ceir cais ROMP gan awdurdod cynllunio mwynau pan fydd yn cael—

(a)dogfen y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn;

(b)unrhyw ddogfennau gofynnol i gyd-fynd â’r datganiad hwnnw; ac

(c)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae’r awdurdod wedi hysbysu’r ceisydd y dylai’r datganiad amgylcheddol ei chynnwys.

(6Pan fo paragraff (1) yn gymwys—

(a)mae paragraff 5(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 9(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl apelio) yn cael effaith fel pe bai hefyd hawl apelio i Weinidogion Cymru pan nad yw’r awdurdodd cynllunio mwynol wedi rhoi rhybudd o’i benderfyniad am y cais ROMP yn unol â pharagraff (4); a

(b)paragraff 5(5) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(2) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 9(2) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl apelio) yn cael effaith fel pe baent hefyd yn darparu ar gyfer hysbysiad am apêl i gael ei wneud o fewn 6 mis ar ôl i’r 16 wythnos ddod i ben neu gyfnod arall y cytunwyd arno yn unol â pharagraff (4).

(7Wrth benderfynu at ddibenion—

(a)paragraffau 2(6)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, 9(9) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a 6(8) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (penderfynu ar amodau); neu

(b)paragraff 5(5) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(2) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 9(2) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl apelio) fel y’u cymhwysir gan baragraff 8(6)(b) o’r Atodlen hon,

yr amser sydd wedi mynd heibio heb i’r awdurdod cynllunio mwynol hysbysu’r ceisydd am ei benderfyniad ynglŷn ag achos pan fo’r awdurdod wedi hysbysu ceisydd yn unol â rheoliad 11(1)bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol a bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd sgrinio mewn perthynas â’r datblygiad ROMP dan sylw, ni chaniateir ystyried unrhyw gyfnod cyn y dyroddwyd y cyfarwyddyd hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 8 para. 8 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Cais ROMP gan awdurdod cynllunio mwynolLL+C

9.—(1Pan fo awdurdod cynllunio mwynol yn bwriadu gwneud neu yn gwneud cais ROMP sy’n gais Atodlen 1 neu Atodlen 2 i Weinidogion Cymru o dan reoliad 11 (cydsyniadau eraill) o’r Rheoliadau Cyffredinol(6), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r cais neu’r cais arfaethedig hwnnw fel y maent yn gymwys i gais ROMP yr atgyfeiriwyd at Weinidogion Cymru o dan baragraff 7(1) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 13(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 8(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (atgyfeirio ceisiadau i Weinidogion Cymru) yn ddarostyngedig i’r addasiadau canlynol—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw rheoliadau 6 i 11, 13, 14, 15, 18 (ac eithrio at ddibenion rheoliadau 21(3) a (4)), 20 a 29(1) yn gymwys;

(b)yn rheoliad 5 (darpariaethau cyffredinol yn ymwneud â sgrinio), nid yw paragraffau (4) a (5) yn gymwys;

(c)mae rheoliad 12(3) (cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol), yn gymwys fel pe bai “a rhaid iddynt anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol” wedi ei hepgor;

(d)yn rheoliad 16 (gweithdrefn i hwyluso llunio datganiadau amgylcheddol)—

(i)ym mharagraff (3)(b) yn lle “11(4)(a), 12(6) neu 13(7)” darllener “12(6)”;

(ii)darllener paragraff (4) fel pe bai “awdurdod cynllunio perthnasol ac” ac “awdurdod neu’r” yn y ddau le y mae’n digwydd wedi eu hepgor;

(e)yn rheoliad 19(2) (cyhoeddusrwydd pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno ar ôl y cais cynllunio)—

(i)yn is-baragraff (a) darllener fel pe bai “ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol” wedi ei hepgor;

(ii)darllener fel pe bai is-baragraff (b) yn darparu—

(b)y dyddiad y gwnaed y cais a’i fod wedi ei wneud i Weinidogion Cymru o dan reoliad 11 o’r Rheoliadau Cyffredinol;;

(f)darllener rheoliad 21(2) (y weithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru), fel pe bai “a’r awdurdod cynllunio perthnasol” wedi ei hepgor;

(g)yn rheoliad 24(3) (gwybodaeth bellach a thystiolaeth mewn cysylltiad â datganiadau amgylcheddol)—

(i)darllener is-baragraff (a) fel pe bai “ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol” wedi ei hepgor;

(ii)darllener is-baragraff (b) fel pe bai’n darparu—

(b)y dyddiad y gwnaed y cais a’i fod wedi ei wneud i Weinidogion Cymru o dan reoliad 11 o’r Rheoliadau Cyffredinol;; a

(h)rheoliadau 25 (ystyried pa un a ddylid rhoi caniatâd cynllunio), 27 (argaeledd barnau, cyfarwyddyd etc. i’w harchwilio), 28(1) (gwybodaeth i ddod gyda phenderfyniadau) a 29(2) (dyletswyddau i hysbysu’r cyhoedd a Gweinidogion Cymru am y penderfyniadau terfynol) yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at awdurdod cynllunio perthnasol yn gyfeiriadau at awdurdod cynllunio mwynol.

(2Caiff awdurdod cynllunio mwynol sy’n bwriadu gwneud cais ROMP i Weinidogion Cymru o dan reoliad 11 o’r Rheoliadau Cyffredinol ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio, ac mae paragraffau (3) i (6) o reoliad 7 yn gymwys i gais o’r fath fel y maent yn gymwys i gais a wneir yn unol â rheoliad 6(8) ac eithrio fel pe bai ym mharagraff (5) “, hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gall am unrhyw rai o’r pwyntiau hynny” wedi ei hepgor.

(3Rhaid i ofyniad o dan baragraff (2) ddod gyda’r canlynol—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)disgrifiad o natur a diben y datblygiad ROMP, gan gynnwys yn benodol—

(i)disgrifiad o nodweddion ffisegol y datblygiad cyfan a, phan fo’n berthnasol, y gwaith dymchwel;

(ii)disgrifiad o leoliad y datblygiad, gan roi sylw penodol i sensitifrwydd amgylcheddol ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio;

(c)disgrifiad o’r agweddau ar yr amgylchedd sy’n debygol o gael eu heffeithio yn sylweddol gan y datblygiad;

(d)disgrifiad o unrhyw effeithiau sylweddol tebygol, i’r graddau bod gwybodaeth ar gael ar yr effeithiau hynny, y datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd o ganlyniad i—

(i)y gwaddodion a’r allyriadau disgwyliedig a’r gwastraff a gynhyrchir, pan fo’n berthnasol; a

(ii)y defnydd o adnoddau naturiol, yn enwedig pridd, tir, dŵr a bioamrywiaeth; ac

(e)y fath wybodaeth arall y gallai’r awdurdod ddymuno ei darparu gan gynnwys unrhyw nodweddion y datblygiad arfaethedig neu unrhyw fesurau a ragwelir i osgoi neu atal yr hyn a allai fod wedi bod fel arall yn effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

(4Rhaid i awdurdod sy’n gwneud cais o dan baragraff (2) anfon at Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth ychwanegol y caniateir iddynt ofyn amdani i wneud cyfarwyddyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 8 para. 9 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Ceisiadau ROMP: dyletswydd i wneud gorchymyn gwahardd ar ôl atal caniatad dros dro am ddwy flyneddLL+C

10.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys, mewn perthynas â datblygiad mwynau—

(a)os yw’r cyfnod o 2 flynedd yn dechrau ar y dyddiad atal wedi mynd heibio, a

(b)os yw’r camau a bennir ym mharagraff 7(2) heb eu cymryd eto.

(2Y “dyddiad atal” yw’r dyddiad y mae atal y pŵer i awdurdodi datblygiad mwynau (o fewn ystyr paragraff 7(6)) yn dechrau.

(3Mae paragraff 3 o Atodlen 9 i Ddeddf 1990 (gwahardd ailddechrau gwaith mwynau) (7) yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw ran o safle fel y mae’n cael effaith mewn perthynas â’r safle cyfan.

(4Mae is-baragraff (1) o’r paragraff hwnnw yn cael effaith fel pe bai “the mineral planning authority may by order” i’r diwedd yn darllen—

the mineral planning authority—

(i)must by order prohibit the resumption of the winning and working or the depositing; and

(ii)may in the order impose, in relation to the site, any such requirement as is specified in sub-paragraph (3).

(5Yn is-baragraff (2)(a) a (b) o’r paragraff hwnnw, rhaid darllen cyfeiriadau at dynnu a gweithio neu waddodi fel cyfeiriadau at dynnu a gweithio neu waddodi lle nad yw caniatâd wedi ei atal yn unol â pharagraff 7(3).

(6Mae paragraff 4(7) o Atodlen 9 i Ddeddf 1990 yn cael effaith fel pe bai “have effect” yn darllen “authorise that development”.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 8 para. 10 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

(1)

Ar gyfer ystyr “cais ROMP” a “ROMP” gweler rheoliad 55(1).

(2)

Mae darpariaethau Gorchymyn 2012 yn gymwys i geisiadau o dan baragraff 9(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 yn rhinwedd paragraff 9(5) o’r Atodlen honno.

(3)

Mewnosodir paragraff (3A) yng Ngorchymyn 2012 gan baragraff 1(3)(c) o Atodlen 9 i’r Rheoliadau hyn.

(4)

Gweler paragraff 8(2) o’r Atodlen hon.

(5)

Mae’r darpariaethau hyn yn gymwys i geisiadau o dan baragraff 2(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 fel y’u cymhwysir gan baragraff 9 o Atodlen 2 i Ddeddf 1991.

(6)

Diwygiwyd rheoliad 11 gan O.S. 1999/1810 ac O.S. 1999/1892.

(7)

Diwygiwyd paragraff 3 gan Ddeddf 1991, Atodlen 1, paragraff 15(6).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill