- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Mae Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(3) yn lle is-baragraff (c) rhodder—
“(c)y datganiad o’r effaith ar dreftadaeth sy’n ofynnol gan reoliad 6;”.
(3) Yn lle rheoliad 6 a’i bennawd rhodder—
6.—(1) Rhaid i unrhyw gais i awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth ddod gyda datganiad o’r effaith ar dreftadaeth.
(2) Mewn perthynas â chais am ganiatâd adeilad rhestredig, rhaid i ddatganiad o’r effaith ar dreftadaeth gynnwys—
(a)disgrifiad o’r gwaith arfaethedig (“y gwaith”), gan gynnwys egwyddorion a chysyniadau dylunio a rhestr o’r gwaith;
(b)esboniad o’r amcan y bwriedir ei gyflawni gan y gwaith a pham bod y gwaith yn ddymunol neu’n angenrheidiol;
(c)datganiad sy’n disgrifio diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yr adeilad y mae’r cais yn ymwneud ag ef a’i arwyddocâd, gan gyfeirio’n benodol at y rhan o’r adeilad y mae’r gwaith yn effeithio arni;
(d)asesiad o effaith y gwaith ar ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yr adeilad a’i arwyddocâd, gan gynnwys disgrifiad o unrhyw fanteision neu niwed posibl i’r diddordeb hwnnw;
(e)crynodeb o’r opsiynau a ystyriwyd at ddiben cyflawni’r amcan y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b) a’r rhesymau dros ffafrio’r cynigion y mae’r cais yn ymwneud â hwy; ac
(f)yn ddarostyngedig i baragraff (4), disgrifiad o sut yr ymdriniwyd ag unrhyw faterion sy’n ymwneud â mynediad sy’n codi mewn perthynas â’r gwaith.
(3) Mewn perthynas â chais am ganiatâd ardal gadwraeth, rhaid i ddatganiad o’r effaith ar dreftadaeth gynnwys—
(a)disgrifiad o’r gwaith arfaethedig (“y gwaith dymchwel”), gan gynnwys rhestr o’r gwaith;
(b)esboniad o’r amcan y bwriedir ei gyflawni gan y gwaith dymchwel a pham bod dymchwel yn ddymunol neu’n angenrheidiol;
(c)disgrifiad o sut y mae unrhyw adeilad y bwriedir ei ddymchwel yn cyfrannu at gymeriad neu olwg yr ardal gadwraeth;
(d)asesiad o effaith y gwaith dymchwel ar gymeriad neu olwg yr ardal gadwraeth, gan gynnwys disgrifiad o unrhyw fanteision neu niwed posibl i gymeriad neu olwg yr ardal;
(e)crynodeb o’r opsiynau a ystyriwyd at ddiben cyflawni’r amcan y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b) a’r rhesymau dros ffafrio dymchwel.
(4) Nid yw paragraff (2)(f) yn gymwys mewn perthynas â cheisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig ar gyfer gwaith a fyddai’n effeithio ar fynedfa i, neu o fewn, unrhyw ran o adeilad rhestredig a ddefnyddir fel annedd breifat.”
(4) Yn rheoliad 13(1) yn lle “o dan adrannau 28 neu 29 o’r Ddeddf,” rhodder “o dan adrannau 28, 29 neu 44D o’r Ddeddf,”.
(5) Ar ôl rheoliad 13(1) mewnosoder—
“(1A) Rhaid i gais am ddigolledu a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 28B o’r Ddeddf gael ei wneud yn ysgrifenedig, a rhaid iddo gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru drwy ei draddodi i swyddfeydd Gweinidogion Cymru, neu drwy ei anfon i’r swyddfeydd hynny drwy bost rhagdaledig.”
(6) Yng ngeiriau agoriadol rheoliad 13(2) yn lle “mharagraff (1)” rhodder “mharagraff (1) neu (1A)”.
O.S. 2012/793 (Cy. 108), y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys