- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
5.—(1) Ni chaiff cyflenwr farchnata deunyddiau planhigion onid yw—
(a)y cyflenwr wedi ei gofrestru yn unol â rheoliad 11; a
(b)y deunyddiau planhigion yn bodloni’r gofynion ym mharagraff (2).
(2) Rhaid i’r deunyddiau planhigion—
(a)bod yn ddeunyddiau planhigion ardystiedig neu’n ddeunyddiau CAC;
(b)bod yn amrywogaeth y caniateir ei marchnata yn unol â rheoliad 7;
(c)cael eu marchnata gan gyfeirio at yr amrywogaeth y mae’r deunyddiau planhigion yn perthyn iddi yn unol â rheoliad 8;
(d)mewn perthynas â deunyddiau planhigion ardystiedig, cael eu labelu, eu selio a’u pecynnu yn unol â rheoliad 10; ac
(e)mewn perthynas â deunyddiau CAC, mynd gyda dogfen y cyflenwr.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata deunyddiau planhigion o unrhyw wlad y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd os ydynt wedi eu bodloni bod y deunyddiau planhigion wedi eu cynhyrchu o dan amodau sy’n cyfateb i’r gofynion ar gyfer deunyddiau planhigion yn y Rheoliadau hyn.
(4) Mae paragraff (3) yn peidio â chael effaith ar 31 Rhagfyr 2018.
6. Nid yw rheoliad 5(1)(b) yn gymwys i farchnata deunyddiau planhigion a fwriedir ar gyfer—
(a)treialon neu at ddibenion gwyddonol;
(b)gwaith dethol;
(c)mesurau sydd â’r nod o warchod amrywiaeth enetig.
7.—(1) Mae deunyddiau planhigion o amrywogaeth y caniateir ei marchnata os yw’r amrywogaeth yn bodloni un neu ragor o ofynion paragraff (2).
(2) Rhaid i’r amrywogaeth—
(a)bod wedi cael hawliau amrywogaeth planhigion;
(b)bod yn gofrestredig fel amrywogaeth;
(c)bod yn destun cais am—
(i)hawliau amrywogaeth planhigion; neu
(ii)ei chofrestru fel amrywogaeth;
(d)bod wedi ei marchnata cyn 30 Medi 2012 o fewn yr Undeb Ewropeaidd a bod â disgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol; neu
(e)mewn perthynas ag amrywogaethau sydd o ddim gwerth cynhenid o ran cynhyrchu cnydau masnachol sy’n cael eu marchnata o fewn y Deyrnas Unedig—
(i)bod â disgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol; a
(ii)bod yn ddeunyddiau CAC.
(3) Rhaid i gyflenwr sy’n marchnata deunyddiau planhigion o amrywogaeth a ddisgrifir ym mharagraff (2)(e) sicrhau bod dogfen y cyflenwr yn mynd gyda’r deunyddiau planhigion, yn datgan eu bod yn cael eu marchnata yn unol ag ail baragraff Erthygl 7(2) o Gyfarwyddeb 2008/90/EC.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cofrestredig fel amrywogaeth” (“registered as a variety”) (ac mae “cofrestru” (“registration”) i’w ddehongli yn unol â hynny) yw—
(a)cofrestru fel amrywogaeth yng Nghymru yn unol ag Atodlen 4; neu
(b)cofrestru fel amrywogaeth y tu allan i Gymru gan yr awdurdod cyfrifol yn y wlad neu’r diriogaeth yn unol ag Erthygl 4 o Gyfarwyddeb 2014/97/EU.
8. Caiff deunyddiau planhigion eu marchnata gan gyfeirio at eu hamrywogaeth, os cânt eu marchnata, mewn perthynas ag—
(a)amrywogaeth o ddeunyddiau planhigion sy’n destun cais am roi hawliau amrywogaeth planhigion, drwy gyfeirio at gyfeirnod y bridiwr neu enw arfaethedig yr amrywogaeth;
(b)amrywogaeth gofrestredig, drwy gyfeirio at ei henw cofrestredig;
(c)amrywogaeth sy’n destun cais am gofrestriad o’r fath, drwy gyfeirio at gyfeirnod y bridiwr neu enw arfaethedig yr amrywogaeth;
(d)gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth, drwy gyfeirio at y rhywogaeth briodol neu’r cymysgryw rhyngrywiogaethol priodol.
9.—(1) Os bodlonir gofynion paragraff (2), rhaid i arolygydd—
(a)ardystio bod deunyddiau planhigion a gynhyrchir yng Nghymru—
(i)yn ddeunyddiau cyn-sylfaenol;
(ii)yn ddeunyddiau sylfaenol; neu
(iii)yn ddeunyddiau ardystiedig;
(b)dyroddi tystysgrif sy’n cadarnhau’r ardystiad (tystysgrif arolygu cnwd).
(2) Y gofynion yw y canfuwyd, mewn archwiliad swyddogol, fod y deunyddiau planhigion yn cydymffurfio â’r gofynion ardystio a nodir yn narpariaethau perthnasol Atodlen 5.
(3) Rhaid i gais am ardystio deunyddiau planhigion a gynhyrchir yng Nghymru gael ei wneud yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru a rhaid i unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru fynd gydag ef.
(4) Mae label swyddogol a ddyroddir yn unol â’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â deunyddiau planhigion ardystiedig yn dystiolaeth ddigonol fod arolygydd wedi ardystio bod deunyddiau planhigion y mae’r label swyddogol yn ymwneud â hwy yn ddeunyddiau planhigion ardystiedig.
10.—(1) Rhaid i ddeunyddiau planhigion ardystiedig, a gaiff eu marchnata, gael eu labelu, eu selio a’u pecynnu yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi neu gymeradwyo label (label swyddogol) os yw’r label hwnnw yn bodloni gofynion Rhan 1 o Atodlen 2.
(3) Ond nid oes angen i label a ddefnyddir wrth gyflenwi deunyddiau planhigion ardystiedig i’w manwerthu i ddefnyddiwr olaf nad yw’n broffesiynolyn, ond gynnwys gwybodaeth briodol am y cynnyrch, gan gynnwys enw’r awdurdod cyfrifol, enw neu rif cofrestru’r cyflenwr, yr enw botanegol ac enw’r amrywogaeth.
(4) Rhaid i label swyddogol fod ynghlwm wrth y deunyddiau planhigion ardystiedig.
(5) Pan fo deunyddiau planhigion ardystiedig yn rhan o’r un lot ac yn cael eu marchnata mewn pecyn, bwndel neu gynhwysydd, rhaid rhoi label swyddogol ynghlwm wrth y pecyn, y bwndel neu’r cynhwysydd hwnnw.
(6) Nid yw paragraffau (4) a (5) yn gymwys pan fo pasbort planhigion a ddyroddir yn unol â Chyfarwyddeb 2000/29/EC, sy’n cynnwys yr wybodaeth ym mharagraff 4 o Atodlen 2, yn mynd gyda deunyddiau planhigion ardystiedig.
(7) Ni chaiff cyflenwr farchnata deunyddiau planhigion ardystiedig mewn lotiau o ddau neu ragor o blanhigion neu rannau o blanhigion oni bai bod y lotiau hynny yn ddigon cydryw ac wedi eu pecynnu’n briodol.
(8) At ddibenion paragraff (7), ystyr “wedi eu pecynnu’n briodol” yw bod y planhigion neu’r rhannau o blanhigion—
(a)mewn pecyn neu gynhwysydd sydd wedi ei selio mewn modd sy’n atal y pecyn neu’r cynhwysydd rhag cael ei agor heb ddifrodi’r caead neu wneud y label swyddogol yn annilys; neu
(b)yn rhan o fwndel sydd wedi ei glymu yn y fath fodd fel na ellir gwahanu’r planhigion neu’r rhannau o blanhigion sy’n rhan o’r bwndel heb ddifrodi’r cwlwm neu’r clymau.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys