- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliad 7(4)
1. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “Cyfarwyddeb 2001/18/EC” (“Directive 2001/18/EC”) yw Cyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ryddhau’n fwriadol i’r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig a diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 90/220/EEC(1);
ystyr “gwahanol” (“distinct”) yw bod yr amrywogaeth yn amlwg yn wahanol, oherwydd un neu ragor o nodweddion sy’n deillio o genoteip penodol neu gyfuniad o genoteipiau, i unrhyw amrywogaeth arall y mae ei bodolaeth yn hysbys i bawb ar adeg y cais i gofrestru yn amrywogaeth;
ystyr “protocol priodol” (“appropriate protocol”) yw—
protocol a gyhoeddir gan Gyngor Gweinyddol Swyddfa Amrywogaethau Planhigion y Gymuned mewn perthynas â phrofion gwahanolrwydd, unffurfedd a sefydlogrwydd ar gyfer y genws penodol neu’r rhywogaeth benodol o dan sylw; neu
pan na fo protocol wedi ei gyhoeddi ar gyfer y genws perthnasol neu’r rhywogaeth berthnasol, canllawiau a lunnir gan UPOV mewn perthynas â chynnal profion gwahanolrwydd, unffurfedd a sefydlogrwydd; neu
pan na fo’r protocolau a grybwyllir ym mharagraff (a) na’r canllawiau a grybwyllir ym mharagraff (b) yn bodoli, protocol neu ganllawiau a sefydlir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r un materion;
ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003” (“Regulation (EC) No 1829/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid wedi eu haddasu’n enetig(2);
ystyr “sefydlog” (“stable”) yw bod nodweddion yr amrywogaeth, sydd wedi eu cynnwys yn yr archwiliad gwahanolrwydd, yn ogystal ag unrhyw nodweddion eraill a ddefnyddir ar gyfer y disgrifiad o’r amrywogaeth, yn parhau yn ddigyfnewid ar ôl lluosogi mynych neu, yn achos microluosogi, ar ddiwedd pob cylch o’r fath;
ystyr “unffurf” (“uniform”), yn amodol ar yr amrywiadau y gellir eu disgwyl yn sgil nodweddion penodol ei lluosogi, yw bod yr amrywogaeth yn ddigon unffurf o ran y nodweddion hynny sydd wedi eu cynnwys yn yr archwiliad gwahanolrwydd, yn ogystal ag unrhyw nodweddion eraill a ddefnyddir i ddisgrifio’r amrywogaeth.
2.—(1) Rhaid i gais i gofrestru amrywogaeth â disgrifiad swyddogol gael ei wneud yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ym mha bynnag ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i’r canlynol fynd gyda chais—
(a)unrhyw wybodaeth dechnegol (megis, ond heb fod yn gyfyngedig i, fanylion y genws a’r rhywogaeth y mae’r amrywogaeth yn perthyn iddynt, ei henw cyffredin, manylion y ceisydd, ac enw, tarddiad a nodweddion yr amrywogaeth) sy’n ofynnol o dan brotocol priodol sy’n berthnasol i’r rhywogaeth;
(b)gwybodaeth ynghylch a yw’r amrywogaeth wedi ei chofrestru’n swyddogol mewn man arall yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth arall, neu a yw’n destun cais cofrestru o’r fath;
(c)enw arfaethedig; a
(d)y cyfryw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.
(3) Pan fo’n gymwys, caniateir i gais fynd gyda manylion disgrifiad swyddogol a bennir gan awdurdod cyfrifol mewn man arall yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth arall.
3.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gofrestru amrywogaeth â disgrifiad swyddogol os ydynt wedi eu bodloni—
(a)bod yr amrywogaeth yn wahanol, yn unffurf ac yn sefydlog;
(b)bod sampl o’r amrywogaeth ar gael; ac
(c)mewn perthynas ag amrywogaethau a addaswyd yn enetig, fod yr organedd a addaswyd yn enetig sy’n ffurfio’r amrywogaeth wedi ei awdurdodi i’w dyfu yn unol â Chyfarwyddeb 2001/18/EC neu Reoliad (EC) Rhif 1829/2003.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru dderbyn bod amrywogaeth yn wahanol, yn unffurf ac yn sefydlog ar sail canlyniadau treialon tyfu yn unol â pharagraff 6.
(3) Nid yw’n ofynnol cynnal treialon tyfu pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, ar sail yr wybodaeth a gyflwynir gan y cais, fod disgrifiad swyddogol a bennir gan gorff swyddogol y tu allan i Gymru yn bodloni’r amodau cofrestru sy’n ofynnol gan is-baragraff (1).
(4) Caiff Gweinidogion Cymru gofrestru amrywogaeth sydd wedi ei marchnata o fewn yr Undeb Ewropeaidd cyn 30 Medi 2012 ar yr amod bod gan yr amrywogaeth ddisgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol.
4.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal a chyhoeddi cofrestr o amrywogaethau (“y gofrestr”).
(2) Rhaid i’r gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn ar gyfer pob amrywogaeth gofrestredig—
(a)enw’r amrywogaeth a’i chyfystyron;
(b)y rhywogaeth y mae’r amrywogaeth yn perthyn iddi;
(c)y dynodiad ‘official description’ neu ‘officially recognised description’, fel y bo’n briodol;
(d)y dyddiad cofrestru neu, pan fo’n gymwys, ddyddiad adnewyddu’r cofrestriad;
(e)dyddiad dod i ben dilysrwydd y cofrestriad.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd, mewn perthynas â phob amrywogaeth a gofrestrir, gadw ffeil sy’n cynnwys disgrifiad o’r amrywogaeth a chrynodeb o’r ffeithiau sy’n berthnasol i’w chofrestriad.
5.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw amrywogaeth y mae cynhyrchion sydd i’w defnyddio fel y pethau a ganlyn, neu yn y pethau a ganlyn, yn deillio ohoni—
(a)bwyd o fewn cwmpas Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 1829/2003; neu
(b)bwyd anifeiliaid o fewn cwmpas Erthygl 15 o Reoliad (EC) Rhif 1829/2003.
(2) Cyn cofrestru unrhyw amrywogaeth o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni bod y bwyd neu’r bwyd anifeiliaid wedi ei awdurdodi yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003.
(3) Pan fo’n ofynnol cynnal treial tyfu, rhaid cyflwyno sampl o ddeunyddiau’r amrywogaeth ar gais.
6.—(1) Caniateir cynnal treialon tyfu—
(a)gan Weinidogion Cymru;
(b)ar ran Gweinidogion Cymru yn unol â’r trefniadau ar gyfer mesurau swyddogol a wneir o dan reoliad 27; neu
(c)gan awdurdod cyfrifol mewn man arall yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth arall.
(2) Rhaid i dreialon tyfu—
(a)cadarnhau a yw amrywogaeth yn wahanol, yn unffurf ac yn sefydlog; a
(b)cael eu cynnal, o ran cynllun y treialon, yr amodau tyfu a nodweddion yr amrywogaeth o dan sylw, yn unol â’r protocol priodol.
7.—(1) Mae cofrestriad amrywogaeth yn ddilys—
(a)yn achos amrywogaeth a addaswyd yn enetig, am y cyfnod y mae’r organedd a addaswyd yn enetig sy’n ffurfio’r amrywogaeth wedi ei awdurdodi i’w dyfu yn unol â Chyfarwyddeb 2001/18/EC neu Reoliad (EC) Rhif 1829/2003; neu
(b)fel arall hyd at ddiwedd y 30ain blwyddyn galendr ar ôl y dyddiad derbyn.
(2) Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os yw’r cofrestriad—
(a)yn cael ei adnewyddu yn unol ag is-baragraff (3) neu (4) (fel y bo’n briodol);
(b)yn cael ei ddirymu yn unol â pharagraff 8.
(3) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru, ar sail cais ysgrifenedig, adnewyddu’r cofrestriad am gyfnod pellach o 30 o flynyddoedd—
(a)os yw’r amrywogaeth yn wahanol, yn unffurf ac yn sefydlog;
(b)os oes deunyddiau o’r amrywogaeth honno ar gael ar y farchnad.
(4) Yn achos amrywogaeth a addaswyd yn enetig—
(a)rhaid i unrhyw achos o adnewyddu cofrestriad fod yn ddarostyngedig i amod bod yr organedd a addaswyd yn enetig priodol yn parhau i fod wedi ei awdurdodi i’w dyfu yn unol â Chyfarwyddeb 2001/18/EC neu Reoliad (EC) Rhif 1829/2003;
(b)rhaid i’r cyfnod adnewyddu fod yn gyfyngedig i gyfnod awdurdodi’r organedd a addaswyd yn enetig o dan sylw.
(5) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru adnewyddu’r cofrestriad heb gais ysgrifenedig os ydynt wedi eu bodloni bod adnewyddu yn gwarchod amrywiaeth enetig a chynhyrchu cynaliadwy.
8.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru ddirymu cofrestriad amrywogaeth—
(a)os nad yw’n wahanol, yn unffurf neu’n sefydlog mwyach;
(b)os nad oes unrhyw ddeunydd o’r amrywogaeth honno ar gael mwyach sy’n ddigon unffurf neu sy’n cyfateb i’r disgrifiad o’r amrywogaeth ar yr adeg y’i cofrestrwyd;
(c)os darparwyd gwybodaeth anwir neu gamarweiniol sy’n berthnasol i gofrestru i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais i gofrestru;
(d)yn achos unrhyw amrywogaeth a addaswyd yn enetig, os yw’r organedd a addaswyd yn enetig sydd wedi ei gynnwys yn yr amrywogaeth yn peidio â bod yn awdurdodedig yn unol â Chyfarwyddeb 2001/18/EC neu Reoliad (EC) Rhif 1829/2003.
(2) Ond nid yw is-baragraff (1)(a) i (c) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y dylai’r amrywogaeth barhau ar y gofrestr er budd gwarchod amrywiaeth enetig amrywogaethau.
OJ Rhif L 106, 17.4.2001, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb (EU) 2015/412 (OJ Rhif L 68, 13.3.2015, t. 1).
OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t. 1; fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 298/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 97, 9.4.2008, t. 64).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys