Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynllunio Gofal ac Adolygu Achosion (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2017

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

4.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)yn y lle priodol mewnosoder—

“mae i “corff partneriaeth” (“partnership body”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 1(4) o’r Rheoliadau Partneriaeth;

ystyr “y Rheoliadau Partneriaeth” (“the Partnership Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015(2);”; a

(b)

yn lle’r diffiniad o “tîm integredig cymorth i deuluoedd” rhodder y canlynol—

“ystyr “tîm integredig cymorth i deuluoedd” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd sydd wedi ei sefydlu gan gorff partneriaeth yn unol â’r Rheoliadau Partneriaeth(3);”.

(3Yn rheoliad 41 (ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt)—

(a)ym mharagraff (1) yn lle “mharagraff 1” rhodder “mharagraffau 1 i 17”,

(b)ym mharagraff (2) yn lle “mharagraff 2” rhodder “mharagraffau 18 i 26”,

(c)ar ôl paragraff (2) mewnosoder y paragraff a ganlyn—

(3) Ym mharagraff (2) ac yn Atodlen 8—

mae i “teulu” (“family”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(3) o’r Rheoliadau Partneriaeth(4)..

(4Yn rheoliad 57 (addasiadau i Ran 2), ym mharagraff (4)(b) yn lle “rheoliad (5)” rhodder “rheoliad 7(5)”.

(5Yn Atodlen 8 (ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos C), ar ôl paragraff 17 mewnosoder y canlynol—

18.  Manylion am unrhyw gynllun gofal neu gynllun triniaeth iechyd ar gyfer P.

19.  Manylion am unrhyw gymorth neu wasanaethau a ddarperir ar gyfer P gan unrhyw berson.

20.  Unrhyw newidiadau yng ngallu P i ofalu am blant, ac yn enwedig mewn perthynas ag C, o ganlyniad i’r gwasanaethau gofal iechyd neu ofal cymdeithasol a ddarperir gan unrhyw berson, neu o ganlyniad i unrhyw ffactorau eraill.

21.  Unrhyw newidiadau yn amgylchiadau’r teulu ers yr adolygiad diwethaf.

22.  Unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol y tu allan i’r teulu sy’n berthnasol.

23.  Unrhyw anawsterau y gall y teulu fod wedi eu cael wrth ymwneud â’r tîm integredig cymorth i deuluoedd.

24.  A oes unrhyw wrthdaro rhwng anghenion C ac anghenion P, neu anghenion unrhyw aelod arall o aelwyd P, a sut y gellir datrys hyn.

25.  Yr angen i baratoi i ddod â rhan y tîm integredig cymorth i deuluoedd i ben.

26.  Ym mharagraffau 18 i 25—

Mae “P” i gael ei ddehongli fel pe bai’n gyfeiriad at “rhiant” o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(5) o’r Rheoliadau Partneriaeth..

(2)

O.S. 2015/1989 (Cy. 299). Diwygiwyd y Rheoliadau hyn gan O.S. 2017/491 (Cy. 103).

(3)

Gweler rheoliad 16 o’r Rheoliadau Partneriaeth (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd). Mae adrannau 166 i 169 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau partneriaeth rhwng pob bwrdd iechyd lleol a’r awdurdodau lleol o fewn ardal pob bwrdd iechyd lleol yng Nghymru i sefydlu corff partneriaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol penodedig mewn partneriaeth.

(4)

Gweler adran 197(1) i gael y diffiniad o “teulu” at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4), sy’n gymwys mewn perthynas â chyfeiriadau eraill at “teulu” yn Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill