- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gwnaed
11 Medi 2017
Yn dod i rym
5 Hydref 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 18(1) a 204(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) a pharagraff 5 o Atodlen 3 iddi, ar ôl cwblhau’r ymgynghoriad a ragnodir o dan adran 18(3) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) (Diwygio) 2017 a daw i rym ar 5 Hydref 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y prif Orchymyn” (“the principal Order”) yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993(2).
2. Yn erthygl 1(2) o’r prif Orchymyn, yn y lle priodol mewnosoder—
““Wales Infected Blood Support Scheme” means a scheme for financial support and advisory services provided to, or in respect of, persons infected with Hepatitis C, HIV or both as a result of receiving infected blood or blood products during the course of treatment provided by the health service in Wales.”
3. Mae erthygl 3(2) o’r prif Orchymyn wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a)yn is-baragraff (d), yn yr ail le y mae’n ymddangos hepgorer “and”;
(b)yn is-baragraff (e), yn lle “.” rhodder “; and”; ac
(c)ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—
“(f)to manage and administer the Wales Infected Blood Support Scheme in accordance with directions issued by the Welsh Ministers.”
Vaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
11 Medi 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio ymhellach Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993 er mwyn diwygio swyddogaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre.
Mae Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993 wedi ei ddiwygio er mwyn rhoi i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre y swyddogaeth o reoli a gweinyddu Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig (yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru) i ddarparu cymorth ariannol a gwasanaethau cynghori i bersonau, neu mewn cysylltiad â phersonau, sydd wedi eu heintio â hepatitis C a/neu HIV o ganlyniad i gael gwaed neu gynhyrchion gwaed heintiedig yn ystod triniaeth gan y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru.
O.S. 1993/2838 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 1999/826, O.S. 2002/442 (Cy. 57), O.S. 2002/2199 (Cy. 219), O.S. 2009/2059 (Cy. 178) ac O.S. 2012/1262 (Cy. 157).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: