- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Trwyddedu (morol), Cymru
Rheoli Morol, Cymru
Gwnaed
27 Medi 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Hydref 2017
Yn dod i rym
20 Tachwedd 2017
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 98(1) o’r Ddeddf honno.
Yn unol ag adran 98(3) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, mae Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn cydsynio i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Morol (Dirprwyo Swyddogaethau) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 20 Tachwedd 2017.
2.—(1) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009(2) ac mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr awdurdod trwyddedu” i’w darllen yn unol â hynny.
(2) Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth sydd wedi ei heithrio o fewn yr ystyr a roddir i “excepted functions” yn adran 98(6) o’r Ddeddf honno.
3.—(1) Mae’r swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) wedi eu dynodi at ddibenion adran 98(1)(a) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.
(2) Y swyddogaethau yw unrhyw swyddogaeth yr awdurdod trwyddedu o dan—
(a)adran 67A (cyngor a chymorth arall gan Weinidogion Cymru);
(b)adran 72A (ffioedd pellach sydd i’w codi os Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod trwyddedu priodol);
(c)adran 107A (blaendaliadau ar gyfrif ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru);
(d)adran 107B (darpariaethau atodol ynghylch ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru);
(e)Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) 2011(3) fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 2017(4);
(f)Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd) (Cymru) 2017(5).
4. Mae’r swyddogaethau sydd wedi eu dynodi gan erthygl 3, yn hytrach na bod yn arferadwy gan yr awdurdod trwyddedu, neu mewn perthynas ag ef, yn arferadwy gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, neu mewn perthynas ag ef, yn gweithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
27 Medi 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dirprwyo arfer swyddogaethau penodol Gweinidogion Cymru fel awdurdod trwyddedu o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) (“Deddf 2009”) i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru.
Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys i swyddogaethau’r awdurdod trwyddedu (yn bennaf y rhai sy’n ymwneud â gwneud is-ddeddfwriaeth) sy’n swyddogaethau sydd wedi eu heithrio ac na ellir eu dirprwyo yn rhinwedd adran 98(5)(a) o Ddeddf 2009 (erthygl 2(2)).
Mae erthygl 3 yn dynodi swyddogaethau Gweinidogion Cymru fel awdurdod trwyddedu o dan adrannau 67A, 72A, 107A a 107B o Ddeddf 2009.
Mae erthygl 4 yn darparu bod y swyddogaethau dynodedig yn arferadwy gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, neu mewn perthynas ag ef, yn gweithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu (yn hytrach na bod yn arferadwy gan yr awdurdod hwnnw, neu mewn perthynas ag ef). Mae gan yr awdurdod trwyddedu’r pŵer i roi cyfarwyddydau i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau dirprwyedig (gweler adran 100 o Ddeddf 2009, sy’n swyddogaeth sydd wedi ei heithrio).
Mae’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at Orchymyn Trwyddedu Morol (Dirprwyo Swyddogaethau) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/414 (Cy. 50)) a dylid ei ddarllen ar y cyd â’r Gorchymyn hwnnw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
2009 p. 23; diwygiwyd gan Ran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3), mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
Yn rhinwedd adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod trwyddedu priodol mewn cysylltiad ag unrhyw beth a wneir wrth gyflawni gweithgareddau morol trwyddedadwy o ran Cymru a rhanbarth glannau Cymru ac eithrio gweithgareddau y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn awdurdod trwyddedu priodol ar eu cyfer o dan adran 113(4)(a) a (5) o’r Ddeddf honno. Gweler adran 322(1) o’r Ddeddf honno i gael diffiniad o “Welsh inshore region”.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: