RHAN AMesurau arbennig ar gyfer rheoli Pydredd coch tatws
Deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrychau sy’n halogedig neu’n halogedig o bosibl â Phydredd coch tatws
2. Ni chaiff unrhyw berson blannu yn fwriadol, neu beri neu ganiatáu yn fwriadol i gael eu plannu—
(a)unrhyw ddeunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau; neu
(b)unrhyw ddeunydd sy’n halogedig o bosibl sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau.
3. Caiff hysbysiad ei gwneud yn ofynnol—
(a)bod deunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn destun unrhyw fesur sy’n cydymffurfio â phwynt 1 o Atodiad VI i Gyfarwyddeb 98/57/EC;
(b)bod deunydd sy’n halogedig o bosibl sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn cael ei ddefnyddio neu ei waredu yn unol â phwynt 2 o Atodiad VI i Gyfarwyddeb 98/57/EC;
(c)bod gwrthrych halogedig neu wrthrych sy’n halogedig o bosibl yn cael ei—
(i)gwaredu drwy ei ddinistrio; neu
(ii)glanhau a’i ddiheintio er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws.
4. Ni chaniateir trin unrhyw beth a lanheir ac a ddiheintir yn unol â pharagraff 3(c)(ii) yn halogedig mwyach at ddibenion Cyfarwyddeb 98/57/EC.
Mesurau y caniateir eu gwneud yn ofynnol mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig
5. Caiff arolygydd gyflwyno’r hysbysiadau a ganlyn mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig sydd mewn parth a ddarnodir gan arolygydd o dan erthygl 39(4)—
(a)yn achos cae halogedig neu uned gynhyrchu cnwd dan orchudd halogedig, hysbysiad sy’n cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu neu hysbysiad sy’n cynnwys yr ail set o fesurau dileu;
(b)yn achos cae nad yw’n halogedig a, phan fo’r arolygydd wedi ei fodloni bod y risg o blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd coch tatws wedi ei dileu, hysbysiad sy’n cynnwys y drydedd set o fesurau dileu.
6. Y set gyntaf o fesurau dileu yw—
(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae neu’r uned o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am o leiaf bedair blynedd dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu unrhyw blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol ac unrhyw blanhigion eraill, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, sy’n cynnal Pydredd coch tatws;
(b)gwaharddiad ar blannu unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn y cae neu’r uned yn ystod y cyfnod hwnnw—
(i)cloron, planhigion neu wir hadau tatws;
(ii)planhigion tomatos neu hadau tomatos;
(iii)gan ystyried bioleg Pydredd coch tatws, planhigion cynhaliol eraill neu blanhigion o’r rhywogaeth Brassica lle ceir risg bod Pydredd coch tatws yn goroesi;
(iv)cnydau lle ceir risg o ledaenu Pydredd coch tatws;
(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta y caniateir eu plannu yn y cae neu’r uned yn ystod y tymor cnydio tatws cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, ar yr amod y canfuwyd bod y cae neu’r uned yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomato gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n cynnal Pydredd coch tatws, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, am o leiaf y ddwy flwyddyn dyfu olynol cyn plannu; a
(d)gofyniad bod rhaid cymhwyso cylch cylchdroi priodol yn y tymhorau cnydio tatws neu domatos dilynol, a rhaid i’r cylch hwnnw fod yn ddwy flynedd o leiaf pan fo tatws i’w plannu i gynhyrchu hadau.
7. Yr ail set o fesurau dileu yw—
(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae neu’r uned o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am bum mlynedd dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, sy’n cynnal Pydredd coch tatws;
(b)gofyniad—
(i)yn ystod tair blwyddyn gyntaf y blynyddoedd tyfu hynny, bod y cae neu’r uned yn cael ei gadw neu ei chadw—
(aa)yn fraenar;
(bb)gyda chnydau grawnfwyd, os yw’r arolygydd wedi ei fodloni nad oes unrhyw risg o ledaenu Pydredd coch tatws;
(cc)yn dir pori parhaus gan dorri’r borfa yn fyr neu bori’r tir yn ddwys yn fynych; neu
(dd)fel glaswellt ar gyfer cynhyrchu hadau;
(ii)mai dim ond planhigion nad ydynt yn cynnal Pydredd coch tatws ac nad oes unrhyw risg y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu y caniateir eu plannu yn y cae neu’r uned; a
(iii)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta y caniateir eu plannu yn ystod y tymor cnydio tatws neu domatos cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw.
8. Y drydedd set o fesurau dileu yw—
(a)gofyniad mai dim ond y planhigion tatws a’r planhigion tomatos a ganlyn y caniateir eu plannu yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am y flwyddyn dyfu gyntaf—
(i)tatws hadyd ardystiedig ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta;
(ii)planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC, ar gyfer cynhyrchu ffrwythau;
(b)gofyniad mai dim ond y tatws a ganlyn y caniateir eu plannu yn y flwyddyn dyfu ddilynol gyntaf os yw tatws i’w plannu i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn y flwyddyn honno—
(i)tatws hadyd ardystiedig;
(ii)tatws hadyd a brofwyd yn swyddogol ar gyfer absenoldeb Pydredd coch tatws ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n halogedig;
(c)gofyniad mai dim ond y planhigion tomatos a ganlyn y caniateir eu plannu yn y flwyddyn dyfu ddilynol gyntaf os yw planhigion tomatos i’w plannu i gynhyrchu planhigion neu ffrwythau yn y flwyddyn honno—
(i)planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC;
(ii)os ydynt wedi eu lluosogi yn llystyfol, planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n halogedig;
(d)yn achos tatws, gofyniad mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd dan reolaeth swyddogol o datws hadyd ardystiedig y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod yr ail flwyddyn dyfu ddilynol ac unrhyw flwyddyn dyfu ddilynol i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta;
(e)yn achos tomatos, gofyniad mai dim ond planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC neu, os ydynt wedi eu lluosogi yn llystyfol, planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod yr ail flwyddyn dyfu ddilynol ac unrhyw flwyddyn dyfu ddilynol ar gyfer cynhyrchu planhigion neu ffrwythau; ac
(f)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad hyd at ddiwedd y flwyddyn dyfu a bennir yn yr hysbysiad er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, ac unrhyw blanhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd coch tatws.
9. Caiff hysbysiad mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig—
(a)ei gwneud yn ofynnol, am gyfnod penodedig, bod rhaid i’r holl beiriannau a chyfleusterau storio yn y man cynhyrchu a ddefnyddir i gynhyrchu tatws neu domatos gael eu glanhau a, phan fo’n briodol, eu diheintio er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws;
(b)gwahardd unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu neu bennu sut y mae’n rhaid cynnal unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu at ddiben atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.
10. Caiff y mesurau y caniateir eu pennu mewn hysbysiad o dan baragraff 5 neu 9 gael eu cynnwys mewn hysbysiad gyda mesurau priodol eraill.
Mesurau ychwanegol sy’n gymwys mewn perthynas ag unedau cynhyrchu cnwd dan orchudd
11. Pan fo’n bosibl amnewid yr holl gyfrwng tyfu mewn uned gynhyrchu cnwd dan orchudd halogedig, ni chaiff unrhyw berson blannu yn yr uned unrhyw gloron, planhigion tatws na gwir hadau tatws, planhigion tomatos na hadau tomatos na phlanhigion eraill sy’n cynnal Pydredd coch tatws heb awdurdodiad ysgrifenedig arolygydd.
12. Ni chaiff arolygydd roi awdurdodiad o dan baragraff 11 oni bai—
(a)y cydymffurfiwyd â’r holl fesurau i ddileu Pydredd coch tatws a bennir mewn hysbysiad mewn perthynas â’r man cynhyrchu lle y mae’r uned wedi ei lleoli;
(b)bod y cyfrwng tyfu yn yr uned wedi ei newid yn llwyr; ac
(c)bod yr uned a’r holl gyfarpar a ddefnyddir yn yr uned wedi eu glanhau a’u diheintio i ddileu Pydredd coch tatws a symud ymaith yr holl ddeunydd planhigion cynhaliol.
13. Caiff awdurdodiad o dan baragraff 11—
(a)mewn perthynas â chynhyrchu tatws, bennu mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu gloron bychain neu ficro-blanhigion sy’n deillio o ffynonellau a brofwyd yn swyddogol y caniateir eu defnyddio yn y broses gynhyrchu;
(b)mewn perthynas â chynhyrchu tomatos, bennu mai dim ond hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC neu, os cânt eu lluosogi yn llystyfol, blanhigion tomatos a gynhyrchwyd o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC ac a dyfir o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu defnyddio yn y broses gynhyrchu;
(c)gwahardd unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu;
(d)pennu sut y mae’n rhaid cynnal unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu at ddiben atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.