Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 6

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 17/10/2019

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 02/11/2018.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018, ATODLEN 6. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Erthyglau 21(1) i (4) a 23(1)

ATODLEN 6LL+CGwaharddiadau ar gyflwyno deunydd perthnasol i Gymru neu ei symud o fewn Cymru heb basbort planhigion

RHAN ALL+CDeunydd perthnasol na chaniateir iddo gael ei lanio yng Nghymru na’i symud o fewn Cymru onid yw pasbort planhigion yn mynd gydag ef

1.  Planhigion, ac eithrio hadau, Amelanchier Med., Chaenomeles Lindl., Cotoneaster Ehrh., Crataegus L., Cydonia Mill., Eriobotrya Lindl., Malus Mill., Mespilus L., Photinia davidiana (Dcne.) Cardot, Prunus L., ac eithrio Prunus laurocerasus L. neu Prunus lusitanica L., Pyracantha Roem., Pyrus L. neu Sorbus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

2.  Planhigion, ac eithrio hadau, Beta vulgaris L. neu Humulus lupulus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

3.  Planhigion o rywogaethau Solanum L., sy’n ffurfio stolon neu gloron, a fwriedir ar gyfer eu plannu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

4.  Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Choisya Kunth, Fortunella Swingle, Poncirus Raf., Casimiroa La Llave, Clausena Burm. f., Murraya J. Koenig ex L., Vepris Comm., Zanthoxylum L. neu Vitis L.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

5.  Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

6.  Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., gyda dail a phedynclau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

7.  Y planhigion a ganlyn a gynhyrchwyd gan gynhyrchwyr y mae cynhyrchu a gwerthu’r planhigion hynny wedi eu hawdurdodi i bersonau sy’n ymwneud â chynhyrchu planhigion wrth fasnachu neu gynnal busnes, ac eithrio planhigion a baratowyd ac sy’n barod i’w gwerthu i’r defnyddiwr terfynol, ac a gynhyrchwyd ar wahân i gynhyrchion eraill o dan oruchwyliaeth corff cyfrifol swyddogol y wlad sy’n traddodi—LL+C

(a)planhigion, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, o’r genera Abies Mill., Apium graveolens L. Argyranthemum spp., Asparagus officinalis L., Aster spp., Brassica spp., Castanea Mill., Cucumis spp., Dendranthema (DC.) Des Moul., Dianthus L., Exacum spp., Fragaria L., Gerbera Cass., Gypsophilia L, pob rhywogaeth o hybridau Guinea Newydd o Impatiens L., Lactuca spp., Larix Mill., Leucanthemum L., Lupinus L., Pelargonium L’Hérit. ex Ait., Picea A. Dietr., Pinus L., Platanus L., Populus L., Prunus laurocerasus L., Prunus lusitanica L., Pseudotsuga Carr., Quercus L., Rubus L., Spinacia L., Tanacetum L., Tsuga Carr., Ulmus L., Verbena L. neu blanhigion eraill rhywogaethau llysieuol, ac eithrio planhigion o’r teulu Gramineae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, neu fylbiau, cormau, rhisomau, hadau neu gloron;

(b)planhigion Solanaceae, ac eithrio hadau neu’r rheini a bennir ym mharagraff 3, a fwriedir ar gyfer eu plannu;

(c)planhigion Araceae, Marantaceae, Musaceae, Persea spp. neu Strelitziaceae, sydd â gwreiddiau neu sy’n gysylltiedig â chyfrwng tyfu neu yr ymddengys iddynt fod mewn cysylltiad â chyfrwng tyfu;

(d)planhigion Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae diamedr bôn y coesyn yn fwy na 5cm ac sy’n perthyn i’r genera a ganlyn: Brahea Mart, Butia Becc., Chamaerops L., Jubaea Kunth, Livistona R. Br., Phoenix L., Sabal Adans., Syragrus Mart., Trachycarpus H. Wendl., Trithrinax Mart. neu Washingtonia Raf.;

(e)hadau neu fylbiau Allium ascalonicum L., Allium cepa L. neu Allium schoenoprasum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu; planhigion Allium porrum L. a fwriedir ar gyfer eu plannu; neu hadau Medicago sativa L., Helianthus annuus L, Solanum lycopersicum L. neu Phaseolus L.;

(f)bylbiau, cormau, cloron neu risomau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, Camassia Lindl., Chionodoxa Boiss., Crocus flavus Weston “Golden Yellow”, Dahlia spp., Galanthus L., Galtonia candicans (Baker) Decne., cyltifarau bychain y genws Gladiolus Tourn. ex. L. (megis Gladiolus callianthus Marais, Gladiolus colvillei Sweet, Gladiolus nanus hort., Gladiolus ramosus hort. neu Gladiolus tubergenii hort.), Hyacinthus L., Iris L., Ismene Herbert, Lilium spp., Muscari Miller, Narcissus L., Ornithogalum L., Puschkinia Adams, Scilla L., Tigridia Juss. neu Tulipa L.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

8.  Planhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau o fewn ystyr Erthygl 1(2) o Benderfyniad 2002/757/EC sy’n tarddu o UDA.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

9.  Planhigion, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, Viburnum spp., Camellia spp., Rhododendron spp., ac eithrio Rhododendron simsii Planch, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio UDA, neu o’r Undeb Ewropeaidd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 6 para. 9 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

10.  Planhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad 2007/365/EC.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 6 para. 10 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

11.  Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(2) o Benderfyniad 2007/433/EC.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 6 para. 11 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

12.  Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(a) o Benderfyniad 2012/138/EU sy’n tarddu o drydedd wlad lle y gwyddys bod Anoplophora chinensis (Forster) yn bresennol neu sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 6 o’r Penderfyniad hwnnw, neu a gyflwynwyd i ardal o’r fath.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 6 para. 12 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

13.  Cloron Solanum tuberosum L., gan gynnwys y rheini a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o drydedd wlad lle y gwyddys bod Epitrix cucumeris (Harris), Epitrix similaris (Gentner), Epitrix subcrinita (Lec.) neu Epitrix tuberis (Gentner) yn bresennol neu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o Benderfyniad 2012/270/EU.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 6 para. 13 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

14.  Planhigion, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, na allant ond tyfu mewn dŵr neu bridd sydd wedi ei drwytho â dŵr yn barhaol ac sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o Benderfyniad 2012/697/EU.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 6 para. 14 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

15.  Paill byw neu blanhigion a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio hadau, Actinidia Lindl.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 6 para. 15 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

16.  Planhigion tarddiol cyn-sylfaenol fel y’u diffinnir yn Erthygl 1(3) o Gyfarwyddeb Gweithredu’r Comisiwn 2014/98/EU neu ddeunydd cyn-sylfaenol fel y’i diffinnir yn Erthygl 2(5) o Gyfarwyddeb y Cyngor 200/90EC—LL+C

(a)sy’n perthyn i’r rhywogaethau Juglans regia L., Olea europaea L., Prunus amygdalus Batsch, P. amygdalus x P. persica, P. armeniaca L., P. avium (L.) L., P. cerasus L., P. domestica L., P. domestica x P. salicina, P. dulcis (Mill.) D.A. Webb, P. persica (L.) Batsch, neu P. salicina Lindley:

(b)a dyfwyd y tu allan i ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 4 o Benderfyniad (EU) 2015/789; ac

(c)sydd wedi treulio o leiaf ran o’u bywyd y tu allan i gyfleusterau sy’n ddiogel rhag pryfed.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 6 para. 16 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

17.  Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(c) o Benderfyniad (EU) 2015/789 sydd wedi eu tyfu am o leiaf ran o’u bywyd mewn ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 4 o’r Penderfyniad hwnnw neu blanhigion cynhaliol Xylella o fewn ystyr Erthygl 1(b) o’r Penderfyniad hwnnw nad ydynt erioed wedi cael eu tyfu mewn ardal o’r fath.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 6 para. 17 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

18.  Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(a) o Benderfyniad (EU) 2015/893 sy’n tarddu o drydedd wlad lle y gwyddys bod Anoplophora glabripennis (Motschulsky) yn bresennol neu sy’n tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 7 o’r Penderfyniad hwnnw, neu a gyflwynwyd i fan cynhyrchu o’r fath.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 6 para. 18 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

19.  Planhigion Fraxinus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 6 para. 19 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

RHAN BLL+CDeunydd perthnasol na chaniateir ei lanio yng Nghymru na’i symud o fewn Cymru onid yw pasbort planhigion yn mynd gydag ef sy’n ddilys i Gymru fel parth gwarchod

20.  Planhigion, ac eithrio hadau, Platanus L., Prunus L., Quercus spp., ac eithrio Quercus suber, neu Ulmus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 6 para. 20 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

21.  Planhigion, ac eithrio ffrwythau, Castanea Mill.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 6 para. 21 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

22.  Planhigion Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae diamedr bôn y coesyn yn fwy na 5 cm ac sy’n perthyn i’r tacsonau a ganlyn: Areca catechu L., Arenga pinnata (Wurmb) Merr., Bismarckia Hildebr. a H. Wendl., Borassus flabellifer L., Brahea Mart., Butia Becc., Calamus merrillii Becc., Caryota maxima Blume, Caryota cumingii Lodd. ex Mart., Chamaerops L., Cocos nucifera L., Copernicia Mart., Corypha utan Lam., Elaeis guineenis Jacq., Howea forsteriana Becc., Jubae Kunth, Livistona R. Br., Metroxylon sagu Rottb., Phoenix L., Pritchardia Seem. a H. Wendl., Ravenea rivularis Jum. a H. Perrier, Roystonea regia (Kunth) O.F. Cook, Sabal Adans., Syagrus Mart., Trachycarpus H. Wendl., Trithrinax Mart. neu Washingtonia Raf.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 6 para. 22 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

23.  Planhigion Pinus L.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 6 para. 23 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

24.  Hadau Castanea Mill.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 6 para. 24 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

25.  Y planhigion a ganlyn a gynhyrchwyd gan gynhyrchwyr y mae cynhyrchu a gwerthu’r planhigion hynny wedi eu hawdurdodi i bersonau sy’n ymwneud â chynhyrchu planhigion wrth fasnachu neu gynnal busnes, ac eithrio planhigion a baratowyd ac sy’n barod i’w gwerthu i’r defnyddiwr terfynol, ac a gynhyrchwyd ar wahân i gynhyrchion eraill o dan oruchwyliaeth corff cyfrifol swyddogol y wlad sy’n traddodi—LL+C

(a)planhigion, ac eithrio cormau, hadau neu gloron, Begonia L., a fwriedir ar gyfer eu plannu; neu

(b)planhigion, ac eithrio hadau, Dipladenia A.DC., Euphorbia pulcherrima Willd., Ficus L., Hibiscus L., Mandevilla Lindl. neu Nerium oleander L., a fwriedir ar gyfer eu plannu.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 6 para. 25 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill