Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 9

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 27/03/2020

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 28/03/2019.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018, ATODLEN 9. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Erthygl 2(1)

ATODLEN 9LL+CY gofynion o ran pasbortau planhigion

RHAN ALL+CY gofynion o ran pasbortau planhigion ar gyfer unrhyw ddeunydd perthnasol yn Atodlen 6 neu 7

1.  Caniateir ond dyrannu pasbort planhigion mewn cysylltiad â deunydd perthnasol a fu’n destun arolygiad boddhaol yn y man y’i cynhyrchwyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 9 para. 1 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

2.  Rhaid i basbort planhigion fod ar ffurf—LL+C

(a)label swyddogol sy’n cynnwys o leiaf fanylion y pasbort planhigion a bennir ym mharagraff 4(a) i (e); a

(b)dogfen o fath a ddefnyddir fel arfer at ddibenion masnach sy’n cynnwys holl fanylion y pasbort planhigion a bennir ym mharagraff 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 9 para. 2 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

3.  Ond pan fo’r pasbort planhigion yn ymwneud ag unrhyw ddeunydd perthnasol y cyfeirir ato yn Rhan B, caiff y pasbort planhigion fod ar ffurf label swyddogol sy’n cynnwys manylion y pasbort planhigion a bennir ym mharagraff 4 ac unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol o dan Ran B.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 9 para. 3 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

4.  Mae manylion y pasbort planhigion fel a ganlyn—LL+C

(a)y teitl “EU-plant passport”;

(b)y cod ar gyfer yr Aelod-wladwriaeth lle y dyroddwyd y pasbort planhigion;

(c)enw neu god corff swyddogol cyfrifol yr Aelod-wladwriaeth lle y dyroddwyd y pasbort planhigion;

(d)rhif cofrestru’r cynhyrchydd, y mewnforiwr neu berson arall sydd wedi ei awdurdodi i ddyroddi’r pasbort planhigion neu’r sawl y dyroddwyd y pasbort planhigion iddynt;

(e)rhif wythnos y dyddiad yr atodwyd y pasbort planhigion i’r deunydd perthnasol, neu rif cyfresol neu rif swp sy’n fodd o adnabod y deunydd hwnnw;

(f)enw botanegol Lladin y deunydd perthnasol y mae’r pasbort planhigion yn ymwneud ag ef;

(g)nifer y deunydd perthnasol y mae’r pasbort planhigion yn ymwneud â hwy (nifer y planhigion, y cynhyrchion planhigion, cyfaint neu bwysau);

(h)pan fo’r deunydd perthnasol yn bodloni’r gofynion ar gyfer parth gwarchod, y nod “ZP” a’r cod ar gyfer y parth gwarchod;

(i)yn achos pasbort planhigion amnewid, y nod “RP” a, phan fo’n briodol, god ar gyfer y cynhyrchydd neu’r mewnforiwr a awdurdodwyd i ddyroddi’r pasbort planhigion gwreiddiol neu’r sawl y dyroddwyd y pasbort planhigion iddynt;

(j)yn achos deunydd perthnasol sy’n tarddu o drydedd wlad, enw’r wlad y mae’r deunydd yn tarddu ohoni neu (os yw’n briodol), y wlad y traddodwyd y deunydd ohoni i Gymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 9 para. 4 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

5.  O ran label swyddogol—LL+C

(a)ni chaiff fod wedi ei ddefnyddio’n flaenorol;

(b)rhaid iddo fod wedi ei wneud o ddeunydd sy’n addas at ei ddiben; ac

(c)yn achos label gludiog, rhaid iddo fod ar ffurf a gymeradwyir at ddefnydd fel label swyddogol gan—

(i)yn achos pasbortau planhigion a ddyroddir yng Nghymru, Gweinidogion Cymru;

(ii)yn achos pasbortau planhigion a ddyroddir mewn mannau eraill yn yr Undeb Ewropeaidd, y corff swyddogol cyfrifol sydd â chyfrifoldeb mewn perthynas â dyroddi pasbortau planhigion yn y rhan berthnasol o’r Undeb Ewropeaidd.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 9 para. 5 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

6.—(1Rhaid i’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys mewn pasbort planhigion—LL+C

(a)bod mewn o leiaf un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd;

(b)bod wedi ei hargraffu, ac eithrio pan na fo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny.

(2Pan fo’r wybodaeth wedi ei hargraffu, rhaid iddi fod wedi ei hargraffu mewn priflythrennau.

(3Pan na fo’r wybodaeth wedi ei hargraffu, rhaid iddi fod wedi ei nodi mewn teipysgrif neu ei hysgrifennu mewn priflythrennau.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 9 para. 6 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

7.  Caiff dogfen ychwanegol o fath y cyfeirir ato ym mharagraff 2(b) gynnwys yr wybodaeth ychwanegol a bennir ym mharagraff 8 ar yr amod ei fod yn amlwg ar wahân i fanylion y pasbort planhigion sydd wedi eu cynnwys yn y ddogfen.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 9 para. 7 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

8.  Yr wybodaeth ychwanegol yw unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol at ddiben labelu’r deunydd perthnasol y mae’n ymwneud ag ef ac a nodir yn—LL+C

(a)Erthygl 2(1) o Gyfarwyddeb y Comisiwn 1999/66/EC sy’n nodi’r gofynion o ran y label neu ddogfen arall a gaiff ei llunio gan y cyflenwr yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 98/56/EC(1);

[F1(b)Erthygl 5(2) Gyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/96/EU ar y gofynion ar gyfer labelu, selio a phecynnu deunydd lluosogi ffrwythau a phlanhigion ffrwythau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu ffrwythau sydd o fewn cwmpas Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC;]

(c)Erthygl 6(1) o Gyfarwyddeb y Comisiwn 93/61/EEC sy’n nodi’r atodlenni sy’n nodi’r amodau sydd i’w bodloni gan ddeunydd lluosogi a phlannu llysiau, ac eithrio hadau, yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 92/33/EEC(2).

Diwygiadau Testunol

F1Atod. 9 Rhn. A para. 8(b) wedi eu hamnewid (28.3.2019) gan Rheoliadau Materion Gwledig, yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/463), rhlau. 1(3), 27

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 9 para. 8 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

RHAN BLL+CY gofynion o ran pasbortau planhigion a ganiateir ar gyfer deunydd perthnasol penodol yn Atodlen 6 neu 7

9.  Rhaid i label swyddogol sy’n basbort planhigion neu’n rhan o basbort planhigion ac sy’n ymwneud ag unrhyw ddeunydd perthnasol a bennir yn y Rhan hon gydymffurfio â’r gofynion a ganlyn mewn perthynas â’r deunydd hwnnw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 9 para. 9 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

10.  Rhaid i label swyddogol mewn cysylltiad â chloron Solanum tuberosum L. a fwriedir ar gyfer eu plannu—LL+C

(a)cydymffurfio â gofynion Erthygl 13(1)(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC ar farchnata tatws hadyd(3);

(b)cynnwys y teitl “EU-plant passport”; ac

(c)pan fwriedir y cloron ar gyfer eu traddodi i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd, ddarparu tystiolaeth eu bod wedi eu harchwilio yn swyddogol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion yn eitem 18.1 o Adran II o Atodiad IV Rhan A.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 9 para. 10 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

11.  Rhaid i label swyddogol mewn cysylltiad â hadau Helianthus annuus L.—LL+C

(a)cydymffurfio â gofynion Erthygl 12(1)(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr(4);

(b)cynnwys y teitl “EU-plant passport”; a

(c)pan fwriedir yr hadau ar gyfer eu traddodi i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd, ddarparu tystiolaeth eu bod wedi eu harchwilio yn swyddogol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion yn eitem 26 o Adran II o Atodiad IV Rhan A.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 9 para. 11 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

12.  Rhaid i label swyddogol mewn cysylltiad â hadau Solanum lycopersicum L.—LL+C

(a)cydymffurfio â gofynion Erthygl 28(1)(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau(5);

(b)cynnwys y teitl “EU-plant passport”; ac

(c)pan fwriedir yr hadau ar gyfer eu traddodi i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd, ddarparu tystiolaeth eu bod wedi eu harchwilio yn swyddogol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion yn eitem 27 neu 29 o Adran II o Atodiad IV Rhan A.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 9 para. 12 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

13.  Rhaid i label swyddogol mewn cysylltiad â hadau Medicago sativa L.—LL+C

(a)cydymffurfio â gofynion Erthygl 10(1)(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant(6);

(b)cynnwys y teitl “EU-plant passport”; ac

(c)pan fwriedir yr hadau ar gyfer eu traddodi i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd, ddarparu tystiolaeth eu bod wedi eu harchwilio yn swyddogol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion yn eitemau 28.1 a 28.2 o Adran II o Atodiad IV Rhan A.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 9 para. 13 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

(1)

OJ Rhif L 164, 30.6.1999, t. 76.

(2)

OJ Rhif L 250, 7.10.1993, t. 19.

(3)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 60, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(4)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 74, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/68/EU (OJ Rhif L 195, 24.7.2002, t. 32); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw yr un ohonynt yn berthnasol.

(5)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 33, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(6)

OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2298, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 96/72/EC (OJ Rhif L 304, 27.11.1996, t. 10); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw yr un ohonynt yn berthnasol.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill