xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 9Y gofynion o ran pasbortau planhigion

RHAN BY gofynion o ran pasbortau planhigion a ganiateir ar gyfer deunydd perthnasol penodol yn Atodlen 6 neu 7

9.  Rhaid i label swyddogol sy’n basbort planhigion neu’n rhan o basbort planhigion ac sy’n ymwneud ag unrhyw ddeunydd perthnasol a bennir yn y Rhan hon gydymffurfio â’r gofynion a ganlyn mewn perthynas â’r deunydd hwnnw.

10.  Rhaid i label swyddogol mewn cysylltiad â chloron Solanum tuberosum L. a fwriedir ar gyfer eu plannu—

(a)cydymffurfio â gofynion Erthygl 13(1)(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC ar farchnata tatws hadyd(1);

(b)cynnwys y teitl “EU-plant passport”; ac

(c)pan fwriedir y cloron ar gyfer eu traddodi i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd, ddarparu tystiolaeth eu bod wedi eu harchwilio yn swyddogol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion yn eitem 18.1 o Adran II o Atodiad IV Rhan A.

11.  Rhaid i label swyddogol mewn cysylltiad â hadau Helianthus annuus L.—

(a)cydymffurfio â gofynion Erthygl 12(1)(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr(2);

(b)cynnwys y teitl “EU-plant passport”; a

(c)pan fwriedir yr hadau ar gyfer eu traddodi i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd, ddarparu tystiolaeth eu bod wedi eu harchwilio yn swyddogol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion yn eitem 26 o Adran II o Atodiad IV Rhan A.

12.  Rhaid i label swyddogol mewn cysylltiad â hadau Solanum lycopersicum L.—

(a)cydymffurfio â gofynion Erthygl 28(1)(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau(3);

(b)cynnwys y teitl “EU-plant passport”; ac

(c)pan fwriedir yr hadau ar gyfer eu traddodi i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd, ddarparu tystiolaeth eu bod wedi eu harchwilio yn swyddogol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion yn eitem 27 neu 29 o Adran II o Atodiad IV Rhan A.

13.  Rhaid i label swyddogol mewn cysylltiad â hadau Medicago sativa L.—

(a)cydymffurfio â gofynion Erthygl 10(1)(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant(4);

(b)cynnwys y teitl “EU-plant passport”; ac

(c)pan fwriedir yr hadau ar gyfer eu traddodi i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd, ddarparu tystiolaeth eu bod wedi eu harchwilio yn swyddogol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion yn eitemau 28.1 a 28.2 o Adran II o Atodiad IV Rhan A.

(1)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 60, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(2)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 74, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/68/EU (OJ Rhif L 195, 24.7.2002, t. 32); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw yr un ohonynt yn berthnasol.

(3)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 33, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(4)

OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2298, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 96/72/EC (OJ Rhif L 304, 27.11.1996, t. 10); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw yr un ohonynt yn berthnasol.