xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 1087 (Cy. 227)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2018

Gwnaed

15 Hydref 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

16 Hydref 2018

Yn dod i rym

1 Ionawr 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 60, 75 a 93 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a darpariaeth atodol

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2018 a daw i rym ar 1 Ionawr 2019.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i adeiladau eglwysig yng Nghymru sydd am y tro yn cael eu defnyddio at ddibenion eglwysig.

(3Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i gael cydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth ar gyfer gwaith a gychwynnwyd, neu ar gyfer gwaith yr ymrwymwyd i gontract mewn cysylltiad ag ef, cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;

mae i “yr Eglwys Fethodistaidd” yr ystyr a roddir i “the Methodist Church” fel y’i diffinnir yn adran 2(1) o Ddeddf yr Eglwys Fethodistaidd 1976(3); ac

ystyr “esemptiad eglwysig adeiladau rhestredig” (“listed buildings ecclesiastical exemption”) yw’r esemptiad rhag darpariaethau adrannau 3A, 4, 7 i 9, 47, 54 a 59 o Ddeddf 1990(4) y darperir ar ei gyfer yn adran 60(1) i (3) o Ddeddf 1990(5).

Eithrio esemptiad eglwysig adeiladau rhestredig

3.  Mae esemptiad eglwysig adeiladau rhestredig wedi ei eithrio mewn cysylltiad â phob adeilad eglwysig ar wahân i’r achosion hynny sy’n dod o fewn erthygl 4.

Adeiladau sy’n cadw esemptiad eglwysig adeiladau rhestredig

4.—(1Yn yr erthygl hon, ystyr “adeilad eglwys” (“church building”) yw adeilad a ddefnyddir yn bennaf fel man addoli, ac at ddibenion y diffiniad hwn mae—

(a)unrhyw wrthrych neu strwythur sy’n sownd wrth yr adeilad hwnnw; a

(b)unrhyw wrthrych neu strwythur o fewn cwrtil adeilad eglwys, er nad yw’n sownd wrth yr adeilad hwnnw, sy’n ffurfio rhan o’r tir,

yn cael ei drin fel pe bai’n rhan o adeilad yr eglwys.

(2Mae esemptiad eglwysig adeiladau rhestredig wedi ei gadw ar gyfer yr adeiladau a ganlyn i’r graddau a nodir ym mharagraff (3)—

(a)adeiladau eglwys yr Eglwys yng Nghymru sydd wedi eu breinio yng Nghorff Cynrychioliadol yr Eglwys yng Nghymru(6) neu unrhyw gorff cynrychioliadol a ymgorfforwyd o dan adran 13(2) o Ddeddf yr Eglwys yng Nghymru 1914(7);

(b)adeiladau eglwys o fewn awdurdodaeth hawleb Eglwys Loegr;

(c)adeiladau eglwys sy’n cael eu dal ar ymddiriedolaeth gan ymddiriedolwyr esgobaethol un o esgobaethau’r Eglwys Gatholig;

(d)adeiladau eglwys sy’n eiddo i’r Eglwys Fethodistaidd, neu sy’n cael eu dal ar ymddiriedolaeth ar ei chyfer, neu at ei dibenion, neu unrhyw sefydliad cyfundebol neu leol i’r Eglwys Fethodistaidd;

(e)adeiladau eglwys sy’n cael eu dal ar ymddiriedolaeth ar gyfer Eglwys sy’n aelod o Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr neu Undeb Bedyddwyr Cymru gan naill ai—

(i)the Baptist Union Corporation Limited (pa un ai’n unigol neu ar y cyd â pherson arall neu bersonau eraill); neu

(ii)the Welsh Baptist Union Corporation Limited (pa un ai’n unigol neu ar y cyd â pherson arall neu bersonau eraill).

(3Mae esemptiad eglwysig adeilad rhestredig yn gyfyngedig mewn cysylltiad ag adeiladau eglwys sy’n dod o fewn is-baragraffau (a) ac (c) i (e) o baragraff (2) i waith a gynhelir—

(a)gan neu ar ran eglwys neu gorff, neu ran gyfansoddol o eglwys neu gorff, y cyfeirir ati neu ato yn yr is-baragraffau hynny; neu

(b)gan neu ar ran corff llywodraethu neu ymddiriedolwyr y sefydliad hwnnw pan fo’r adeiladau eglwys o dan sylw ar unrhyw fangre sy’n ffurfio rhan o brifysgol, coleg, ysgol, ysbyty, sefydliad cyhoeddus neu sefydliad elusennol.

Eithrio esemptiad cydsyniad ardal gadwraeth

5.  Mae’r esemptiad rhag darpariaethau adran 74 o Ddeddf 1990(8) y darperir ar ei gyfer yn adran 75(1)(b) o Ddeddf 1990 wedi ei eithrio yn achos pob adeilad eglwysig gan gynnwys—

(a)unrhyw wrthrych neu strwythur sy’n sownd wrth yr adeilad hwnnw; a

(b)unrhyw wrthrych neu strwythur o fewn cwrtil adeilad, er nad yw’n sownd wrth yr adeilad hwnnw, sy’n ffurfio rhan o’r tir.

Darpariaethau trosiannol: gwrthrychau a strwythurau o fewn cwrtil

6.  Nid yw erthygl 4 yn gymwys pan fo cais am gydsyniad adeilad rhestredig mewn perthynas ag unrhyw wrthrych neu strwythur o fewn cwrtil adeilad eglwys, er nad yw’n sownd wrth yr adeilad hwnnw, sy’n ffurfio rhan o’r tir, yn cael ei wneud cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Dirymu Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1994

7.  Mae Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1994(9) wedi ei ddirymu.

Dafydd Elis Thomas

Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

15 Hydref 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1994 ar gyfer Cymru.

Mae adran 60(1) a (2) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (“Deddf 1990”) yn darparu nad yw adeiladau eglwysig sydd am y tro yn cael eu defnyddio at ddibenion eglwysig yn ddarostyngedig i adrannau 3A, 4, 7 i 9, 47, 54 a 59 o Ddeddf 1990. Mae hyn wedi ei ddiffinio yn erthygl 2 fel esemptiad eglwysig adeiladau rhestredig. Mae’r adrannau hynny yn ymwneud â rheoli adeiladau rhestredig, gan gynnwys: hysbysiadau diogelu adeilad; cyfyngiadau ar waith dymchwel, addasu neu estyn; caffael yn orfodol adeiladau y mae angen eu hatgyweirio; gwaith cadwraeth brys gan awdurdod lleol a Gweinidogion Cymru; a throseddau mewn perthynas â difrod bwriadol.

Mae adran 75 o Ddeddf 1990 yn darparu nad yw adeiladau eglwysig sydd am y tro yn cael eu defnyddio at ddibenion eglwysig yn ddarostyngedig i adran 74 o Ddeddf 1990. Mae adran 74 yn ymwneud â rheoli dymchwel adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth. Hwn yw’r esemptiad eglwysig cydsyniad ardal gadwraeth.

Mae’r Gorchymyn hwn yn dileu’r esemptiad eglwysig adeiladau rhestredig yn achos pob adeilad eglwysig ac eithrio ar gyfer yr achosion hynny sy’n dod o fewn erthygl 4. O dan erthygl 4 cedwir yr esemptiad mewn cysylltiad ag adeiladau eglwys yr Eglwys yng Nghymru, Eglwys Loegr, yr Eglwys Gatholig, yr Eglwys Fethodistaidd, Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr ac Undeb Bedyddwyr Cymru ar yr amod mai’r prif ddefnydd a wneir o’r adeilad o dan sylw yw fel man addoli, ac yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau a nodir yn yr erthygl honno.

Mae adeilad eglwys yn cynnwys—

(a)unrhyw wrthrych neu strwythur sy’n sownd wrth adeilad yr eglwys;

(b)unrhyw wrthrych neu strwythur o fewn cwrtil adeilad eglwys, er nad yw’n sownd wrth yr adeilad hwnnw, sy’n ffurfio rhan o’r tir.

(Dyma’r sefyllfa erbyn hyn ni waeth pa un a yw’r gwrthrych neu strwythur hwnnw yn rhestredig yn ei hawl ei hun ai peidio.)

Mae erthygl 6 yn darparu os yw cais am gydsyniad adeilad rhestredig mewn perthynas ag unrhyw wrthrych neu strwythur o fewn cwrtil adeilad eglwys, er nad yw’n sownd wrth yr adeilad hwnnw, sy’n ffurfio rhan o’r tir (fel y’i diffinir yn erthygl 4(1)(b)), eisoes wedi ei wneud cyn y dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym, yna ni fydd y Gorchymyn hwn yn gymwys i’r cais hwnnw a bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn parhau i benderfynu ar y cais hwnnw.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn dileu’r esemptiad eglwysig cydsyniad ardal gadwraeth o ran pob adeilad eglwysig.

Mae erthygl 1(3) yn darparu nad yw colli’r esemptiad eglwysig yn effeithio ar unrhyw waith sydd wedi cychwyn, neu unrhyw waith yr ymrwymwyd i gontract mewn cysylltiad ag ef, cyn i’r Gorchymyn ddod i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Gwasanaethau’r Amgylchedd Hanesyddol (Cadw), Llywodraeth Cymru, Plas Carew, Caerdydd, CF15 7QQ ac mae ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.

(1)

1990 p. 9. Diwygiwyd adran 60(2) gan adran 26(9) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (dccc 4) (“Deddf 2016”). Mae diwygiadau eraill i adran 60 a diwygiadau i adran 75 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn. Diwygiwyd adran 93(5) gan adran 40(7) o Ddeddf 2016; diwygiwyd adran 93(6) gan adran 40(8) o Ddeddf 2016. Mae diwygiadau eraill i adran 93 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 60, 75 a 93 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, ac mae’r swyddogaethau hynny yn swyddogaethau perthnasol y Cynulliad fel y’u diffinnir ym mharagraff 30(2).

(4)

Mewnosodwyd adran 3A gan adran 25(3) o Ddeddf 2016. Diwygiwyd adran 4(2) gan adran 26(5) o Ddeddf 2016. Mae diwygiadau i adrannau 7 i 9, 47, 54 a 59 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(5)

Mae diwygiadau i adran 60(3) nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(6)

Gweler Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor Siarter Corffori Corff Cynrychioliadol yr Eglwys yng Nghymru 1919 (O.S. 1919/564).

(8)

Diwygiwyd adran 74(1) gan adran 63 o Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 (p. 24) (“Deddf 2013”) a pharagraff 12(2) o Atodlen 17 iddi. Diwygiwyd adran 74(3) gan erthygl 3 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2773 (Cy. 280)) a pharagraff 20 o’r Atodlen iddo, a chan adran 63 o Ddeddf 2013 a pharagraff 12(4) o Atodlen 17 iddi. Mae diwygiadau eraill i adran 74 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.