NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dynodi’r cyrff a restrir yn yr Atodlen at ddiben cynnwys mewn cynnig Cyllidebol yr adnoddau y disgwylir eu defnyddio gan y cyrff hynny.
Mae’r Gorchymyn hwn yn disodli’r dynodiadau blaenorol a wnaed gan Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2016 (O.S. 2016/1096 (Cy. 260)) a Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2017 (O.S. 2017/946 (Cy. 235)) ac felly yn dirymu’r offerynnau hynny.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.