- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
8.—(1) Mae’r ffioedd a bennir yn y tabl yn Atodlen 5 yn daladwy mewn cysylltiad â’r gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl hwnnw sy’n ymwneud â chais i ardystio tatws hadyd yn unol â rheoliad 10 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016(1).
(2) Mae’r ffioedd a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 5 yn daladwy yn ddarostyngedig i’r isafswm ffioedd (os oes un) a bennir yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw.
(3) Mae’r ffioedd a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 5 mewn cysylltiad ag arolygiad o gnydau sy’n tyfu i’w hardystio yn radd PBTC yr Undeb ac arolygiad o gloron a gynaeafwyd yn daladwy am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) a dreulir yn cynnal yr arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol.
(4) Mae ffi ychwanegol o £14.76 yn daladwy pan fo person yn cyflwyno cais ar bapur (ac nid ar-lein) i ardystio tatws hadyd.
(5) Mae unrhyw ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy gan y ceisydd.
(6) Ym mharagraff (3), ystyr “mangre berthnasol” yw’r fangre lle y mae’r cnydau sy’n tyfu i’w hardystio yn radd PBTC yr Undeb neu’r cloron a gynaeafwyd sydd i’w harolygu wedi eu lleoli.
9.—(1) Mae’r ffi a bennir ym mharagraff (2) yn daladwy mewn cysylltiad â chais i ardystio planhigion ffrwythau a deunyddiau lluosogi planhigion ffrwythau yn unol â rheoliad 9 o Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017(2).
(2) Mae ffi o £72.00 yr awr (neu ran o’r cyfnod hwnnw) yn daladwy mewn cysylltiad â’r amser a dreulir yn cynnal archwiliad swyddogol ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol at ddibenion ardystio’r deunydd.
(3) Mae unrhyw ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy gan y ceisydd.
(4) Ym mharagraff (2), ystyr “mangre berthnasol” yw’r fangre lle y mae’r deunydd sydd i’w ardystio wedi ei leoli.
O.S. 2016/106 (Cy. 52), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys