Offerynnau Statudol Cymru
2018 Rhif 1216 (Cy. 249)
Adnoddau Dŵr, Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Y Diwydiannau Da Byw
Anifeiliaid, Cymru
Iechyd Anifeiliaid
Lles Anifeiliaid
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Y Diwydiant Dŵr, Cymru
Dŵr, Cymru
Garddwriaeth, Cymru
Gwastraff, Cymru
Hadau, Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Pysgodfeydd Môr, Cymru
Cadwraeth Pysgod Môr
Rhyddid Gwybodaeth, Cymru
Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018
Gwnaed
20 Tachwedd 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
23 Tachwedd 2018
Yn dod i rym
17 Rhagfyr 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
(a)adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”)(1) a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi, ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliadau 2, 5, 15, 16, 36 and 37;
(b)adran 58B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2), i’r graddau y mae’n ymwneud â rheoliadau 2 a 5;
(c)adrannau 103(1) i (3), (7), 104(4) a (6) o Ddeddf Dŵr 2003(3), i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliad 15;
(d)adrannau 33A a 219(2)(f) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(4), i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliad 16;
(e)adrannau 1 ac 8 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(5), i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliadau 36 a 37.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(6) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf 1972 mewn perthynas ag—
(a)ansawdd dŵr a fwriedir at ddibenion domestig neu i’w ddefnyddio mewn menter cynhyrchu bwyd(7);
(b)mesurau sy’n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff a rheoli pecynnu a gwastraff pecynnu(8);
(c)atal, lleihau a rheoli gwastraff(9);
(d)atal halogi tir ac adfer tir halogedig(10);
(e)rheoli perygl llifogydd(11);
(f)mesurau sy’n ymwneud ag adnoddau dŵr(12);
(g)diogelu dyfroedd rhag llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol(13);
(h)y polisi amaethyddol cyffredin(14);
(i)y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd(15);
(j)mesurau sy’n ymwneud â rheoli a rheoleiddio achosion o ryddhau’n fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, gosod yr organeddau hynny ar y farchnad a’u symud ar draws ffiniau(16);
(k)polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd(17);
(l)y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd(18).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddehongli cyfeiriadau at offerynnau’r UE yn rheoliadau 11, 17(2), 17(3), 18(2)(a), 18(2)(b), 18(3), 23, 37(2)(a) a 37(4) fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.
2006 p. 32. Mewnosodwyd adran 58B gan adran 20(1) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4). Mae wedi ei diddymu yn rhagolygol gan baragraffau 27 a 34 o Atodlen 3 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) o ddyddiad sydd i’w benodi. Mae adran 58B yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth gan ddefnyddio pwerau yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 fel pe baent yn un o Weinidogion y Goron neu’n un o adrannau’r llywodraeth a ddynodwyd gan Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan y ddarpariaeth honno, ar yr amod y byddai deddfwriaeth o’r fath o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel arall. Mae adrannau 107 a 108A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ynghyd â pharagraff 171 o Ran 2 o Atodlen 7A i’r Ddeddf honno, yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud cyfreithiau mewn perthynas â gwybodaeth y caniateir i’r cyhoedd ei gweld a gedwir gan y Cynulliad, Comisiwn y Cynulliad, Llywodraeth Cymru neu unrhyw Awdurdod Cyhoeddus Cymreig, oni bai bod yr wybodaeth wedi ei ddarparu gan un o Weinidogion y Goron neu un o adrannau’r llywodraeth ac yn cael ei chadw’n gyfrinachol. Mae i “Awdurdod Cyhoeddus Cymreig” yr un ystyr ag a roddir i “Welsh Public Authority” yn adran 83 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 36), ond nid yw’n cynnwys awdurdod a gedwir yn ôl o fewn yr ystyr a roddir i “reserved authority” ym mharagraff 8 o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
2003 p. 37. Trosglwyddwyd y pŵer a oedd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud Rheoliadau o dan adran 103(7) i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
1991 p. 57. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 33A a 219(2), i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2(1) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
1981 p. 22. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidogion o dan adrannau 1 ac 8 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn rhinwedd O.S. 2004/3044. Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Yn rhinwedd adran 59(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas ag unrhyw fater, neu at unrhyw ddiben, os ydynt wedi eu dynodi mewn perthynas â’r mater hwnnw neu at y diben hwnnw.
O.S. 2004/3328. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae O.S. 2004/3328 yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.
O.S. 2005/850, y mae diwygiad iddo nad yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae O.S. 2005/850 yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.
O.S. 2007/193, y mae diwygiad iddo nad yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae O.S. 2007/193 yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.
O.S. 2003/2901. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae O.S. 2003/2901 yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.
O.S. 2001/2555. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae O.S. 2001/2555 yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.
O.S. 2008/1792, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2003/2901, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae O.S. 2003/2901 yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.