- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
8.—(1) Mae Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 20, cyn paragraff (1), mewnosoder—
“(A1) Pan fo gweithredwr cyfrifol wedi cael hysbysiad oddi wrth yr awdurdod gorfodi o dan reoliad 18, rhaid iddo, yn ddi-oed, canfod mesurau adfer posibl yn unol ag Atodlen 4, a chyflwyno’r mesurau hynny yn ysgrifenedig i’r awdurdod gorfodi i’w cymeradwyo ganddo.”
(3) Yn Atodlen 1, yn lle paragraff 5 rhodder—
“5.—(1) Nid yw difrod i rywogaeth a warchodir neu gynefin naturiol a difrod i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys difrod a achosir gan weithred a awdurdodir yn benodol gan yr awdurdodau perthnasol yn unol ag—
(a)Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 1994(2);
(b)Rheoliadau Gweithgarwch Petrolewm Alltraeth (Cadwraeth Cynefinoedd) 2001(3);
(c)Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(4);
(d)Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017(5);
(e)Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017(6).
(2) Nid yw difrod i safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys, yn achos safle nad yw’n safle Ewropeaidd, difrod a achosir gan weithred a awdurdodir yn benodol gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(7).
(3) Yn is-baragraff (2), mae i “safle Ewropeaidd” yr un ystyr ag a roddir i “European site” yn rheoliad 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.”
O.S. 2009/995 (Cy. 81), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
1994/2716, a ddiwygiwyd gan baragraff 233(1) o Atodlen 22 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25); O.S. 1996/525; 1997/3055; 2000/192 a 1973; 2003/2155; 2005/3389; 2006/1282; 2007/1843 a 3538; 2008/2172; 2009/6, 1307, 2438 a 3160; a pharagraff 4(1) o Atodlen 11 i Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23); ac a ddirymwyd (o ran Cymru a Lloegr) gan O.S. 2010/490.
O.S. 2001/1754, a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/77 a 1842; a 2010/1513.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys