Rhagolygol
RHAN 2LL+CGofynion cyffredinol ar gyfer darparwyr awdurdodau lleol
Gofynion mewn perthynas â darparu gwasanaeth maethu’r awdurdod lleolLL+C
3. Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddarparu â gofal, cymhwysedd a sgìl digonol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 3 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
Cynnwys y datganiad o ddibenLL+C
4. Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol lunio datganiad o ddiben sy’n cynnwys yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 1.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 4 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
Gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddibenLL+C
5.—(1) Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r datganiad o ddiben.
(2) Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol—
(a)cadw’r datganiad o ddiben o dan adolygiad, a
(b)pan fo’n briodol, ddiwygio’r datganiad o ddiben.
(3) Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (4) am unrhyw ddiwygiad sydd i’w wneud i’r datganiad o ddiben o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y mae i gymryd effaith.
(4) Y personau y mae rhaid iddynt gael eu hysbysu am unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben yn unol â pharagraff (3) yw—
(a)Gweinidogion Cymru,
(b)unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr awdurdod lleol, oni bai na fyddai’n briodol gwneud hynny o ystyried oedran y plentyn a’i ddealltwriaeth,
(c)rhieni unrhyw blentyn o’r fath,
(d)rhieni maeth a darpar rieni maeth,
(e)personau sy’n gweithio at ddibenion gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol.
(5) Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol ddarparu’r datganiad o ddiben cyfredol i unrhyw berson ar gais, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant plentyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 5 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
Gofynion mewn perthynas â monitro a gwellaLL+C
6.—(1) Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.
(2) Rhaid i’r trefniadau hynny gynnwys trefniadau ar gyfer ceisio safbwyntiau—
(a)unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr awdurdod lleol,
(b)rhieni unrhyw blentyn o’r fath, oni bai bod hyn yn amhriodol neu’n anghyson â llesiant y plentyn,
(c)rhieni maeth,
(d)personau sy’n gweithio at ddibenion gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol, ac
(e)unrhyw awdurdod ardal,
ar ansawdd y gwasanaeth.
(3) Wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gwasanaeth, rhaid i’r darparwr awdurdod lleol ystyried safbwyntiau’r personau hynny yr ymgynghorir â hwy yn unol â pharagraff (2).
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 6 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
Gofyniad i benodi rheolwr awdurdod lleolLL+C
7.—(1) Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol benodi un o’i swyddogion i fod yn gyfrifol am reoli’r gwasanaeth.
(2) Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i Weinidogion Cymru—
(a)o enw’r person a benodir yn rheolwr,
(b)o’r dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith,
(c)os bydd y person sydd wedi ei benodi’n rheolwr yn peidio â rheoli gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 7 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
Gofynion o ran addasrwydd ar gyfer penodi rheolwrLL+C
8.—(1) Ni chaiff y darparwr awdurdod lleol benodi person i reoli’r gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 29(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r person hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 8 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
Gofynion eraill mewn perthynas â’r rheolwrLL+C
9.—(1) Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod y person sydd wedi ei benodi’n rheolwr—
(a)yn cael ei gefnogi i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol, a
(b)yn ymgymryd â hyfforddiant priodol.
(2) Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod y rheolwr yn cydymffurfio â gofynion Rhan 11 (dyletswyddau rheolwyr awdurdodau lleol).
(3) Os bydd gan y darparwr awdurdod lleol reswm dros gredu nad yw’r rheolwr wedi cydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliadau yn Rhan 11, rhaid i’r darparwr gymryd unrhyw gamau gweithredu sy’n angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r gofyniad.
(4) Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol ar unrhyw adeg pan nad oes rheolwr sydd wedi ei benodi neu pan yw’r rheolwr yn absennol o’r gwasanaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 9 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
Gofyniad i ddarparuʼr gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnauLL+C
10.—(1) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod y polisïau aʼr gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle ar gyfer y gwasanaeth—
(a)diogelu (gweler rheoliad 20),
(b)defnyddio rheolaeth neu ataliaeth yn briodol (gweler rheoliad 21),
(c)bwlio (gweler rheoliad 24),
(d)absenoldeb (gweler rheoliad 25),
(e)meddyginiaeth (gweler rheoliad 26 (mynediad i wasanaethau iechyd)),
(f)cefnogi a datblygu staff (gweler rheoliad 30),
(g)disgyblu staff (gweler rheoliad 32),
(h)cwynion (gweler rheoliad 39),
(i)chwythuʼr chwiban (gweler rheoliad 40),
(j)cymorth ar gyfer rhieni maeth o ran sut i helpu plant i reoli eu harian (gweler rheoliad 45).
(2) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol hefyd gael unrhyw bolisïau a gweithdrefnau eraill yn eu lle syʼn rhesymol angenrheidiol i gefnogi nodau ac amcanion y gwasanaeth a nodir yn y datganiad o ddiben.
(3) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod cynnwys y polisïau aʼr gweithdrefnau y maeʼn ofynnol iddynt fod yn eu lle yn rhinwedd paragraffau (1) a (2)—
(a)yn briodol i anghenion plant y darperir gofal a chymorth ar eu cyfer,
(b)yn gyson âʼr datganiad o ddiben, ac
(c)yn cael eu cadwʼn gyfredol.
(4) Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’i bolisïau a’i weithdrefnau.
(5) Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod cynnwys y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol iddynt fod yn eu lle o dan baragraff (1)(a), (b), (g) ac (i) yn ystyried anghenion unrhyw blant eraill y gall y lleoliad sy’n cael ei wneud effeithio arnynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 10 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
Dyletswydd gonestrwyddLL+C
11. Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol weithredu mewn ffordd agored a gonest gydag—
(a)unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli ganddo,
(b)rhieni unrhyw blentyn o’r fath,
(c)rhieni maeth a darpar rieni maeth,
(d)yn achos plentyn sydd wedi ei leoli gydag awdurdod ardal, yr awdurdod ardal hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 11 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)