xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2Gofynion cyffredinol ar gyfer darparwyr awdurdodau lleol

Gofyniad i ddarparuʼr gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau

10.—(1Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod y polisïau aʼr gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle ar gyfer y gwasanaeth—

(a)diogelu (gweler rheoliad 20),

(b)defnyddio rheolaeth neu ataliaeth yn briodol (gweler rheoliad 21),

(c)bwlio (gweler rheoliad 24),

(d)absenoldeb (gweler rheoliad 25),

(e)meddyginiaeth (gweler rheoliad 26 (mynediad i wasanaethau iechyd)),

(f)cefnogi a datblygu staff (gweler rheoliad 30),

(g)disgyblu staff (gweler rheoliad 32),

(h)cwynion (gweler rheoliad 39),

(i)chwythuʼr chwiban (gweler rheoliad 40),

(j)cymorth ar gyfer rhieni maeth o ran sut i helpu plant i reoli eu harian (gweler rheoliad 45).

(2Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol hefyd gael unrhyw bolisïau a gweithdrefnau eraill yn eu lle syʼn rhesymol angenrheidiol i gefnogi nodau ac amcanion y gwasanaeth a nodir yn y datganiad o ddiben.

(3Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod cynnwys y polisïau aʼr gweithdrefnau y maeʼn ofynnol iddynt fod yn eu lle yn rhinwedd paragraffau (1) a (2)—

(a)yn briodol i anghenion plant y darperir gofal a chymorth ar eu cyfer,

(b)yn gyson âʼr datganiad o ddiben, ac

(c)yn cael eu cadwʼn gyfredol.

(4Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’i bolisïau a’i weithdrefnau.

(5Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod cynnwys y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol iddynt fod yn eu lle o dan baragraff (1)(a), (b), (g) ac (i) yn ystyried anghenion unrhyw blant eraill y gall y lleoliad sy’n cael ei wneud effeithio arnynt.