xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rhagolygol

RHAN 2LL+CGofynion cyffredinol ar gyfer darparwyr awdurdodau lleol

Gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddibenLL+C

5.—(1Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r datganiad o ddiben.

(2Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol—

(a)cadw’r datganiad o ddiben o dan adolygiad, a

(b)pan fo’n briodol, ddiwygio’r datganiad o ddiben.

(3Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (4) am unrhyw ddiwygiad sydd i’w wneud i’r datganiad o ddiben o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y mae i gymryd effaith.

(4Y personau y mae rhaid iddynt gael eu hysbysu am unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben yn unol â pharagraff (3) yw—

(a)Gweinidogion Cymru,

(b)unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr awdurdod lleol, oni bai na fyddai’n briodol gwneud hynny o ystyried oedran y plentyn a’i ddealltwriaeth,

(c)rhieni unrhyw blentyn o’r fath,

(d)rhieni maeth a darpar rieni maeth,

(e)personau sy’n gweithio at ddibenion gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol.

(5Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol ddarparu’r datganiad o ddiben cyfredol i unrhyw berson ar gais, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 5 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)