xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 37
1. Cofnod syʼn dangos mewn cysylltiad â phob plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth—
(a)dyddiad lleoliʼr plentyn;
(b)cynllun gofal a chymorth y plentyn;
(c)y cytundeb gofal maeth mewn cysylltiad âʼr plentyn;
(d)enw a chyfeiriad y rhieni maeth;
(e)y dyddiad y daeth lleoliad y plentyn yno i ben;
(f)cyfeiriad y plentyn cyn y lleoliad;
(g)cyfeiriad y plentyn wrth iddo ymadael âʼr lleoliad;
(h)y ddarpariaeth statudol y mae neu yr oedd gofal maeth yn cael ei ddarparu iʼr plentyn odani.
2. Cofnod oʼr holl bersonau syʼn gweithio iʼr darparwr awdurdod lleol, a hwnnwʼn gofnod y mae rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn mewn cysylltiad â pherson syʼn dod o fewn rheoliad 29(1)—
(a)enw llawn a chyfeiriad cartref;
(b)dyddiad geni;
(c)rhyw;
(d)cymwysterau syʼn berthnasol i, a phrofiad o wneud, gwaith syʼn ymwneud â phlant;
(e)copi o dystysgrif geni a phasbort (os oes ganddo un) mewn cysylltiad â’r person;
(f)copi o bob geirda a geir mewn cysylltiad âʼr person;
(g)pa un a ywʼr person wedi ei gyflogi gan y darparwr awdurdod lleol at ddibenion gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol o dan gontract gwasanaeth, contract ar gyfer gwasanaethau, neu heblaw o dan gontract, neu a yw wedi ei gyflogi gan rywun ac eithrioʼr darparwr awdurdod lleol;
(h)pa un a ywʼr person yn gweithioʼn llawnamser neuʼn rhan-amser, ac, os ywʼn rhan-amser, nifer yr oriau syʼn cael eu gweithio ar gyfartaledd bob wythnos;
(i)y dyddiadau y maeʼr person yn dechrau cael ei gyflogi felly ac yn peidio â chael ei gyflogi felly;
(j)y swydd sydd gan y person yn y gwasanaeth;
(k)cofnodion o gamau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â chyflogaeth y person; ac
(l)cofnod o ddyddiad tystysgrif GDG ddiweddaraf y person ac a gymerwyd unrhyw gamau gweithredu o ganlyniad i gynnwys y dystysgrif.
3. Cofnod o bob damwain ddifrifol ac anaf difrifol syʼn digwydd i blant tra bônt wedi eu lleoli gyda rhieni maeth.
4. Cofnod o’r holl gwynion a wneir o dan y polisi cwyno y mae’r darparwr awdurdod lleol yn ei roi yn ei le, a’r camau gweithredu a gymerir gan y darparwr awdurdod lleol mewn cysylltiad ag unrhyw gwynion o’r fath.
5. Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw atgyfeiriadau diogelu, aʼr canlyniad.
6. Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw achos o ddefnyddio rheolaeth neu ataliaeth gan rieni maeth ar blentyn.