PENNOD 1CYFLWYNIAD
Grantiau ar gyfer dibynyddion
68.—(1) Mae’r canlynol yn grantiau sy’n cael eu rhoi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chostau sy’n gysylltiedig â dibynyddion penodol y myfyriwr ar gyfer blwyddyn academaidd—
(a)grant oedolion dibynnol (gweler Pennod 2);
(b)grant dysgu ar gyfer rhieni (gweler Pennod 3);
(c)grant gofal plant (gweler Pennod 4).
(2) Yn y Rheoliadau hyn, cyfeirir at y grantiau hynny gyda’i gilydd fel “grantiau ar gyfer dibynyddion”.
Amodau cymhwyso i gael grantiau ar gyfer dibynyddion
69.—(1) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael unrhyw grant penodol ar gyfer dibynyddion mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol—
(a)os yw’r myfyriwr yn bodloni’r amodau cymhwyso ar gyfer y grant hwnnw,
(b)os nad yw’r myfyriwr yn dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r eithriadau ym mharagraff (2), ac
(c)os yw cwrs presennol y myfyriwr yn gwrs rhan-amser, os yw’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd yn 50% o leiaf.
(2) Yr eithriadau yw—
Eithriad 1
Mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor, oni bai—
(a)bod y cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, a
(b)bod y myfyriwr yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar yn y flwyddyn academaidd o dan sylw.
Eithriad 2
Mae’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.
Eithriad 3
Mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—
(a)bwrsari gofal iechyd, neu
(b)lwfans gofal iechyd yr Alban,
a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).
Eithriad 4
Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs mynediad graddedig carlam, ac eithrio blwyddyn gyntaf y cwrs.
Eithriad 5
Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell.
Eithriad 6
Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod pan fo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos (oni bai ei bod yn flwyddyn y mae rheoliad 44(2) yn gymwys iddi).
Eithriad 7
Mae’r person y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn cysylltiad ag ef—
(a)yn fyfyriwr cymwys, a
(b)yn cael dyfarndal statudol.
Dehongli Rhan 11
70.—(1) Yn y Rhan hon—
ystyr “blwyddyn academaidd gyfredol” (“current academic year”) yw blwyddyn academaidd y cwrs presennol y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais am grant ar gyfer dibynyddion mewn cysylltiad â hi;
ystyr “oedolyn dibynnol” (“adult dependant”) yw oedolyn—
sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr cymwys, neu
sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr cymwys ac ar bartner y myfyriwr cymwys gyda’i gilydd,
ond nid plentyn y myfyriwr cymwys, partner y myfyriwr cymwys (gan gynnwys partner y mae’r myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn-bartner y myfyriwr cymwys;
ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”) yw plentyn—
sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr cymwys, neu
sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr cymwys ac ar bartner y myfyriwr cymwys gyda’i gilydd,
gan gynnwys plentyn i bartner y myfyriwr cymwys a phlentyn y mae gan y myfyriwr cymwys gyfrifoldeb rhiant drosto;
ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw person—
sy’n rhiant plentyn dibynnol, a
nad oes ganddo bartner.
(2) Yn y Rhan hon, ystyr unrhyw gyfeiriad at bartner person (“A”) yw–
(a)priod neu bartner sifil A, neu
(b)person sy’n byw fel arfer gydag A fel pe bai’r person yn briod neu’n bartner sifil A.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at incwm person neu bersonau yn gyfeiriad at yr incwm hwnnw fel y’i cyfrifir yn unol â’r darpariaethau priodol yn Atodlen 3.