xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

RHAN 12LL+CCYMHWYSO I GAEL CYMORTH YN YSTOD Y FLWYDDYN ACADEMAIDD

Cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu yn ystod y flwyddyn academaiddLL+C

80.—(1Pan fo un o’r digwyddiadau [a restrir] ym mharagraff (2) yn digwydd o fewn 3 mis i ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr gymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno.

(2Y digwyddiadau yw—

(a)bod y cwrs presennol yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys ar y sail—

[F1(i)bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;]

[F2(ia)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 [F3neu’n berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir] ;]

[F4(ib)bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd Calais;]

F5(ii). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F6(iii)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu a ddisgrifir ym mharagraff 6A(1)(a), 6C(1)(a) neu 6D(a) o Atodlen 2;]

[F7(iv)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 1(2)(a) o Atodlen 2;]

[F8(v)pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, bod y person yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 8(1)(a) o Atodlen 2;]

(vi)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym [F9mharagraff 4A(1)(a) o Atodlen 2 neu, pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, ym] mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 2;

[F10(vii)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 7A(a) o Atodlen 2 neu, pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, ym mharagraff 7(1)(a) o Atodlen 2; neu]

[F11(viii)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6B(1)(a)(ii) o Atodlen 2.]

(3Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 81, mae i’r termau a ganlyn yr un ystyr ag yn Atodlen 2—

“aelod o deulu” (“family member”) F12...;

“ffoadur” (“refugee”);

F13...

F14...

[F15“person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”);]

[F16person sydd â chaniatâd Calais” (“person with Calais leave”);]

“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”);

[F16person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” (“person granted leave to remain as a protected partner”);]

[F17“person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”)]

F18...

[F19“rheolau mewnfudo” (“immigration rules”);]

“rhiant” (“parent”).

Diwygiadau Testunol

F2Rhl. 80(2)(b)(ia) wedi ei fewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 52(a)

F12Geiriau yn rhl. 80(3) wedi eu hepgor (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 125(b)(ii)

F13Geiriau yn rhl. 80(3) wedi eu hepgor (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 125(b)(iv)

F14Geiriau yn rhl. 80(3) wedi eu hepgor (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 125(b)(iii)

F15Geiriau yn rhl. 80(3) wedi eu mewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 52(b)

F18Geiriau yn rhl. 80(3) wedi eu hepgor (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 125(b)(i)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 80 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth neu grantiau yn ystod y flwyddyn academaiddLL+C

81.—(1Pan fo un o’r digwyddiadau ym mharagraff (3) yn digwydd, caiff y myfyriwr cymwys gymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth neu grant.

(2Ond ni fydd swm y benthyciad neu’r grant sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys ond—

[F20(a)yn achos grant, mewn cysylltiad â gweddill diwrnodau y flwyddyn academaidd, ac, yn achos benthyciad cynhaliaeth, mewn cysylltiad â gweddill diwrnodau tymor y flwyddyn academaidd, sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r digwyddiad perthnasol yn digwydd yn y naill achos neu’r llall, a]

(b)yn daladwy, mewn perthynas â benthyciad cynhaliaeth, os yw’n chwarter y byddai’r benthyciad fel arall yn daladwy o dan reoliad 85(6) a (7) mewn cysylltiad ag ef.

(3Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys ar y sail–

[F21(i)bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;]

[F22(ia)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 [F23neu’n berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir];]

[F24(ib)bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd Calais;]

F25(ii). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F26(iii)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 1(2)(a) o Atodlen 2;]

[F27(iv)pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, bod y person yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 8(1)(a) o Atodlen 2;]

(v)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym [F28mharagraff 4A(1)(a) o Atodlen 2 neu, pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, ym] mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 2;

[F29(vi)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 7A(a) o Atodlen 2 neu, pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, ym mharagraff 7(1)(a) o Atodlen 2;]

[F30(vii)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6B(1)(a)(ii) o Atodlen 2.]

Diwygiadau Testunol

F22Rhl. 81(3)(b)(ia) wedi ei fewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 53

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 81 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)