xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 13LL+CTALIADAU, GORDALIADAU AC ADENNILL

PENNOD 2LL+CTALU BENTHYCIAD AT FFIOEDD DYSGU

Talu benthyciad at ffioedd dysguLL+C

83.—(1Pan fo benthyciad at ffioedd dysgu yn daladwy i fyfyriwr cymwys, rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r swm hwnnw i’r awdurdod academaidd y mae’r myfyriwr yn atebol i wneud taliad iddo.

(2Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r swm hwnnw mewn rhandaliadau neu mewn un cyfandaliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 83 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Gofynion ar gyfer talu’r benthyciad at ffioedd dysguLL+C

84.—(1Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o dan reoliad 83 oni bai eu bod wedi cael gan yr awdurdod academaidd—

(a)cais am daliad mewn cysylltiad â’r myfyriwr cymwys, a

(b)cadarnhad ysgrifenedig bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.

(2Rhaid i’r cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b)—

(a)mewn perthynas â’r taliad cyntaf (neu’r unig daliad) mewn cysylltiad â’r cwrs, gadarnhau bod y myfyriwr wedi ymrestru ar y cwrs presennol ac wedi dechrau ymgymryd ag ef;

(b)mewn perthynas ag unrhyw daliadau dilynol mewn cysylltiad â’r cwrs, gadarnhau bod y myfyriwr yn parhau i fod wedi ymrestru ar y cwrs ac yn parhau i ymgymryd â’r cwrs.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 84 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)