xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

RHAN 13LL+CTALIADAU, GORDALIADAU AC ADENNILL

PENNOD 3LL+CTALU BETHYCIADAU CYNHALIAETH A GRANTIAU

Talu benthyciadau cynhaliaeth a grantiauLL+C

85.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru dalu swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant i fyfyriwr cymwys pan fo’n daladwy i’r myfyriwr.

(2Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r swm hwnnw mewn rhandaliadau neu mewn un cyfandaliad.

(3Yn ddarostyngedig i [F1baragraff (5)], mae grant yn daladwy mewn cysylltiad â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

F2(4. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(5Mae grant at deithio sy’n daladwy o dan reoliad 66 yn daladwy mewn cysylltiad â phob un o’r chwarteri cymhwysol (o fewn ystyr y rheoliad hwnnw).

(6Mae benthyciad cynhaliaeth yn daladwy mewn cysylltiad â thri chwarter y flwyddyn academaidd.

(7Nid yw unrhyw fenthyciad cynhaliaeth yn daladwy—

(a)yn achos cwrs gradd cywasgedig, mewn cysylltiad â’r chwarter a enwir gan Weinidogion Cymru;

(b)mewn unrhyw achos arall, mewn cysylltiad â’r chwarter y mae’r hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd ynddo.

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn rhl. 85(3) wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 10(a)

F2Rhl. 85(4) wedi ei hepgor (gyda chais yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. diwygio) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 10(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 85 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Myfyrwyr sy’n byw mewn mwy nag un lleoliadLL+C

86.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y lleoliad y mae myfyriwr cymwys yn byw ynddo yn ystod pob chwarter y mae grant cynhaliaeth neu fenthyciad cynhaliaeth yn daladwy i’r myfyriwr mewn cysylltiad ag ef (gweler paragraff 3 o Atodlen 1).

(2Pan fo myfyriwr cymwys yn byw mewn mwy nag un categori o leoliad yn ystod chwarter, mae’r myfyriwr cymwys yn cael ei drin fel pe bai’n byw yn y lleoliad y mae’n byw ynddo am y cyfnod hwyaf.

(3Pan fo myfyriwr cymwys yn byw mewn mwy nag un categori o leoliad am gyfnod cyfartal yn ystod chwarter, mae’r myfyriwr cymwys yn cael ei drin fel pe bai’n byw yn y lleoliad y mae’r gyfradd uchaf o fenthyciad cynhaliaeth neu grant cynhaliaeth yn daladwy mewn perthynas ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 86 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Cadarnhad o bresenoldebLL+C

87.—(1Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o dan reoliad 85 oni bai eu bod wedi cael cadarnhad ysgrifenedig gan yr awdurdod academaidd bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs dynodedig ar gyfer y flwyddyn academaidd.

(2Rhaid i’r cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) fod yn gadarnhad—

(a)bod y myfyriwr cymwys wedi ymrestru ar y cwrs ar gyfer y flwyddyn academaidd, mewn achos pan fo’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â’r cwrs—

(i)ac eithrio am y tro cyntaf,

(ii)am y tro cyntaf os yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo i’r cwrs o gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad, neu

(iii)am y tro cyntaf os oes gan y myfyriwr anabledd, neu

(b)bod y myfyriwr cymwys wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd ac wedi dechrau ymgymryd â’r cwrs, mewn achos—

(i)pan fo’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â’r cwrs am y tro cyntaf, a

(ii)pan na fo’r myfyriwr wedi trosglwyddo i’r cwrs o gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad.

(3Ond caniateir gwneud taliad cyn i Weinidogion Cymru gael y cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)—

(a)os yw’r taliad yn swm o grant myfyriwr anabl, neu

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau eithriadol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 87 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Penderfynu ar y swm sy’n daladwy ar ôl i daliad gael ei wneudLL+C

88.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad ar swm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth neu grant sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys (boed hynny o ganlyniad i ddiwygio penderfyniad dros dro neu fel arall) ar ôl i daliad o unrhyw swm o’r benthyciad cynhaliaeth neu’r grant gael ei wneud.

(2Os yw’r penderfyniad yn cynyddu swm y benthyciad neu’r grant sy’n daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r swm ychwanegol yn y rhandaliadau hynny, neu mewn un cyfandaliad, y maent yn meddwl ei bod yn briodol.

(3Os yw’r penderfyniad yn gostwng swm unrhyw grant sy’n daladwy—

(a)didynnir swm y gostyngiad o weddill y grant sydd eto i gael ei dalu;

(b)os yw’r gostyngiad yn fwy na gweddill y grant hwnnw sydd eto i gael ei dalu—

(i)gostyngir gweddill y swm hwnnw sydd eto i gael ei dalu i ddim,

(ii)mae gweddill y gostyngiad, os oes un, i’w ddidynnu o weddill unrhyw grant arall sydd eto i gael ei dalu, a

(iii)os oes unrhyw swm o’r gostyngiad sy’n weddill o hyd, mae i’w drin fel gordaliad.

(4Os yw’r penderfyniad yn gostwng swm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy (“y cyfanswm newydd sy’n daladwy”)—

(a)pan fo’r cyfanswm newydd sy’n daladwy yn fwy na swm y benthyciad cynhaliaeth y mae’r myfyriwr wedi gwneud cais amdano, mae unrhyw swm ychwanegol y caiff y myfyriwr wneud cais amdano wedi ei ostwng yn unol â hynny;

(b)pan fo’r cyfanswm newydd sy’n daladwy yn llai na’r swm y mae’r myfyriwr wedi gwneud cais amdano, ni chaiff y myfyriwr wneud cais am unrhyw swm ychwanegol o fenthyciad cynhaliaeth;

(c)pan fo’r cyfanswm newydd sy’n daladwy yn llai na gweddill y benthyciad cynhaliaeth sydd eto i gael ei dalu—

(i)gostyngir gweddill y swm sydd eto i gael ei dalu i ddim, a

(ii)mae’r rhan honno o’r swm sydd eisoes wedi cael ei dalu sy’n fwy na’r cyfanswm newydd sy’n daladwy, os oes un, i’w thrin fel gordaliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 88 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)