- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
89.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o fenthyciad at ffioedd dysgu oddi wrth yr awdurdod academaidd.
(2) Pan fo myfyriwr cymwys wedi cael swm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth neu grant sy’n fwy na’r swm y mae gan y myfyriwr hawlogaeth i’w gael o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i’r myfyriwr ad-dalu’r swm dros ben os yw Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.
(3) Yn y Bennod hon, mae cyfeiriadau at fyfyriwr cymwys i’w trin fel pe baent yn cynnwys person sydd wedi cael cymorth ond nad yw’n fyfyriwr cymwys neu nad yw’n fyfyriwr cymwys mwyach.
90.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o grant oni bai eu bod yn meddwl nad yw’n briodol gwneud hynny.
(2) Mae taliad o grant sydd wedi ei wneud cyn y diwrnod y mae’r cwrs yn dechrau arno mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd o dan sylw yn ordaliad os yw’r myfyriwr cymwys yn tynnu’n ôl o’r cwrs cyn y diwrnod hwnnw.
(3) Mae taliad o grant myfyriwr anabl yn ordaliad os yw’r naill neu’r llall o’r achosion a ganlyn yn gymwys—
Achos 1
Mae swm o’r grant wedi cael ei dalu at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol ond nid yw’r offer wedi eu danfon at y myfyriwr cymwys cyn i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr ddod i ben neu gael ei derfynu.
Achos 2
Mae swm o’r grant at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol yn cael ei dalu ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys ddod i ben neu gael ei derfynu.
(4) Caniateir adennill gordaliad o grant drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw grant sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998.
(5) Pan—
(a)bo gordaliad o grant myfyriwr anabl, a
(b)bo unrhyw swm o’r grant wedi ei dalu at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol,
caiff Gweinidogion Cymru dderbyn offer arbenigol yn ôl fel modd i adennill y cyfan neu ran o’r gordaliad.
(6) Nid yw paragraffau (4) a (5) yn rhwystro Gweinidogion Cymru rhag adennill gordaliad drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.
91.—(1) Pan fo benthyciad cynhaliaeth wedi cael ei ordalu am unrhyw un neu ragor o’r rhesymau a grybwyllir ym mharagraff (2), caiff Gweinidogion Cymru adennill y gordaliad—
(a)drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw fenthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998, neu
(b)drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.
(2) Y rhesymau yw—
(a)methodd y myfyriwr â darparu gwybodaeth yn brydlon a all fod wedi effeithio ar ba un a oedd y myfyriwr yn cymhwyso i gael y benthyciad neu swm y benthyciad sy’n daladwy;
(b)darparodd y myfyriwr yr wybodaeth ond roedd yr wybodaeth yn sylweddol anghywir;
(c)methodd y myfyriwr â darparu gwybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn berthnasol yng nghyd-destun adennill y benthyciad.
(3) Pan fo benthyciad cynhaliaeth wedi cael ei ordalu am unrhyw reswm arall, ni chaiff Gweinidogion Cymru adennill y gordaliad ond drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw fenthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys