Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: PENNOD 1

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

PENNOD 1LL+CCYFYNGIADAU SY’N YMWNEUD Â BENTHYCIADAU CYNHALIEATH A GRANTIAU

Gofyniad i’r taliad gael ei wneud i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladuLL+C

92.—(1Os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol gwneud taliadau o fenthyciad cynhaliaeth neu grant drwy drosglwyddo’r taliadau i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, cânt ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys ddarparu manylion unrhyw gyfrif o’r fath yn y Deyrnas Unedig y caniateir i daliadau gael eu gwneud iddo.

(2Os yw’r amod hwnnw wedi ei osod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o’r benthyciad neu’r grant hyd nes bod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 92 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Cymorth wedi ei ostwng am gyfnodau a dreulir yn y carcharLL+C

93.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—

(a)y mae grant (ac eithrio grant myfyriwr anabl) neu fenthyciad cynhaliaeth yn daladwy iddo mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd, a

(b)sy’n dod yn garcharor yn ystod y flwyddyn academaidd.

[F1(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy wedi ei ostwng yn ôl nifer y diwrnodau yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor.]

(3Ond caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw’r gostyngiad i’w wneud os ydynt yn meddwl ei bod yn briodol o dan yr amgylchiadau, gan roi sylw penodol i—

(a)y caledi ariannol a all gael ei achosi i’r myfyriwr drwy ostwng swm y benthyciad neu’r grant sy’n daladwy;

(b)pa un a fyddai’r gostyngiad yn effeithio ar allu’r myfyriwr i barhau â’r cwrs presennol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 93 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Cymorth wedi ei ostwng am gyfnodau eraill o absenoldebLL+C

94.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—

(a)y mae grant (ac eithrio grant myfyriwr anabl) neu fenthyciad cynhaliaeth yn daladwy iddo mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd, a

(b)sy’n peidio ag ymgymryd â’r cwrs presennol am unrhyw gyfnod yn ystod y flwyddyn academaidd (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel bod yn absennol).

[F2(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant wedi ei ostwng yn ôl nifer y diwrnodau yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn absennol o’i gwrs.]

(3Ond caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw’r gostyngiad i’w wneud os ydynt yn meddwl ei bod yn briodol o dan yr amgylchiadau, gan roi sylw penodol i—

(a)y rhesymau dros absenoldeb y myfyriwr cymwys,

(b)hyd yr absenoldeb, ac

(c)unrhyw galedi ariannol a all gael ei achosi drwy ostwng swm y benthyciad neu’r grant sy’n daladwy.

(4Nid yw myfyriwr cymwys i’w drin fel pe bai’n absennol at ddibenion y rheoliad hwn o dan yr amgylchiadau a ganlyn—

(a)pan fo’r absenoldeb oherwydd salwch ac am gyfnod nad yw’n hwy na 60 diwrnod;

(b)pan fo’r cwrs presennol yn gwrs gradd cywasgedig, unrhyw ran o’r flwyddyn academaidd pan nad yw’n ofynnol i’r myfyriwr fod yn bresennol yn y sefydliad;

(c)pan fo gan y myfyriwr anabledd ond na fo’n gallu bod yn bresennol yn y sefydliad am reswm sy’n ymwneud â’r anabledd hwnnw;

(d)pan fo’r myfyriwr ar gyfnod astudio neu ar gyfnod lleoliad gwaith yn ystod blwyddyn Erasmus;

(e)pan fo’r absenoldeb am fod y myfyriwr cymwys yn dod yn garcharor (gweler rheoliad 93).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 94 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Taliadau pan fo’r cyfnod cymhwystra yn dod i ben neu’n cael ei derfynuLL+C

95.[F3(1) Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu, mae unrhyw swm o’r benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd wedi ei ostwng yn ôl nifer y diwrnodau yn y flwyddyn academaidd pan fo cymhwystra wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu.]

(2Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod talu sy’n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ddod i ben neu gael ei derfynu.

(3Mae paragraffau (4) i (8) yn gymwys pan fo—

(a)swm o grant yn daladwy i fyfyriwr cymwys (“P”) mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd, a

(b)cyfnod cymhwystra P yn dod i ben neu’n cael ei derfynu ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r cwrs yn dechrau arno mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu—

(a)swm y grant a fyddai, pe na bai cymhwystra P wedi dod i ben nac wedi cael ei derfynu, yn daladwy i P mewn cysylltiad â’r cyfnod talu pan ddaeth cyfnod cymhwystra P i ben neu pan gafodd ei derfynu (y “swm llawn”), a

(b)cyfran y swm llawn a fyddai’n daladwy i P mewn cysylltiad â’r cyfnod sy’n dechrau ar ddechrau’r cyfnod talu hwnnw ac sy’n gorffen pan ddaeth cymhwystra P i ben neu pan gafodd ei derfynu (y “swm rhannol”).

(5Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd y camau a grybwyllir ym mharagraff (6)—

(a)pan fônt wedi gwneud taliad i P o swm o grant mewn cysylltiad â’r cyfnod talu pan ddaeth cyfnod cymhwystra P i ben neu pan gafodd ei derfynu,

(b)pan fo’r taliad wedi ei wneud cyn i gyfnod cymhwystra P ddod i ben neu gael ei derfynu, ac

(c)pan fo’r swm a delir yn fwy na’r swm rhannol.

(6Nod y camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) yw naill ai—

(a)gostwng swm y grant sy’n daladwy i P yn ôl y swm dros ben y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(c) (ac yn unol â hynny, trin y swm dros ben fel gordaliad), neu

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol, estyn cyfnod cymhwystra P mewn cysylltiad â’r grant hyd ddiwedd y cyfnod talu (ac yn unol â hynny, mae’r swm llawn yn daladwy).

(7Pan—

(a)bo Gweinidogion Cymru wedi gwneud taliad i P, neu y maent i fod i wneud taliad iddo, o swm o grant mewn cysylltiad â’r cyfnod talu pan ddaeth cyfnod cymhwystra P i ben neu pan gafodd ei derfynu, a

(b)bo’r taliad—

(i)wedi ei wneud neu i fod i gael ei wneud ar ôl i gyfnod cymhwystra P ddod i ben neu gael ei derfynu, neu

(ii)wedi ei wneud cyn hynny ac nad yw’n fwy na’r swm rhannol,

swm y grant sy’n daladwy yw’r swm rhannol oni bai bod paragraff (8) yn gymwys.

(8O dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7), o ran Gweinidogion Cymru—

(a)cânt benderfynu bod cyfnod cymhwystra P yn cael ei estyn i ddiwedd y cyfnod talu o dan sylw (ac yn unol â hynny, mae swm llawn y grant yn daladwy) os ydynt yn meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny, a

(b)rhaid iddynt benderfynu felly os yw swm y grant o dan sylw yn swm grant myfyriwr anabl a delir mewn cysylltiad â gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol.

(9Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfnod talu” yw cyfnod (pa un a yw’n flwyddyn academaidd gyfan neu chwarter o flwyddyn academaidd) y mae fenthyciad cynhaliaeth neu grant yn daladwy, neu y byddai’n daladwy, mewn cysylltiad ag ef oni bai am y ffaith bod cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 95 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?