PENNOD 1CYRSIAU DYNODEDIG
Cyrsiau dynodedig
5. Yn y Rheoliadau hyn (ac at ddibenion adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (“Deddf 1998”)) mae cwrs yn gwrs dynodedig—
(a)os yw’n bodloni pob un o’r amodau yn rheoliad 6(1), a
(b)os nad yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r eithriadau yn rheoliad 7(1).
Cyrsiau dynodedig – amodau
6.—(1) Yr amodau yw—
Amod 1
Mae’r cwrs yn un o’r canlynol—
(a)cwrs gradd gyntaf;
(b)cwrs ar gyfer y Diploma Addysg Uwch;
(c)cwrs ar gyfer Diploma Cenedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch y canlynol—
(i)y Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg, neu
(ii)Awdurdod Cymwysterau’r Alban;
(d)cwrs ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch;
(e)cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;
(f)cwrs o hyfforddiant pellach i weithwyr ieuenctid a chymunedol;
(g)cwrs i baratoi at arholiad proffesiynol o safon sy’n uwch na’r canlynol—
(i)arholiad safon uwch ar gyfer y Dystysgrif Addysg Gyffredinol neu arholiad lefel uwch ar gyfer Tystysgrif Addysg yr Alban; neu
(ii)arholiad ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol neu Ddiploma Cenedlaethol y naill neu’r llall o’r cyrff a grybwyllir ym mharagraff (c),
cyhyd ag nad yw gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) fel arfer yn ofynnol ar gyfer mynediad i’r cwrs;
(h)cwrs—
(i)sy’n darparu addysg (pa un a yw i baratoi at arholiad ai peidio) y mae ei safon yn uwch na safon cwrs a grybwyllir ym mharagraff (g) ond nad yw’n uwch na safon cwrs gradd gyntaf, a
(ii)nad yw gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) fel arfer yn ofynnol ar gyfer mynediad iddo.
Amod 2
Mae’r cwrs naill ai’n—
(a)cwrs llawnamser,
(b)cwrs rhyngosod, neu’n
(c)cwrs rhan-amser.
Amod 3
Hyd y cwrs yw o leiaf un flwyddyn academaidd.
Amod 4
Pan fo’r cwrs yn gwrs llawnamser, mae’n cael ei ddarparu gan—
(a)sefydliad addysgol cydnabyddedig (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig),
(b)elusen o fewn yr ystyr a roddir i “charity” gan adran 1 o Ddeddf Elusennau 2011(1) ar ran sefydliad rheoleiddiedig Cymreig, neu
(c)sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus ar ran sefydliad rheoleiddiedig Seisnig.
Pan fo’r cwrs yn gwrs rhan-amser, mae’n cael ei ddarparu gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig).
Amod 5
Mae o leiaf hanner yr addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs yn cael ei ddarparu yn y Deyrnas Unedig.
Amod 6
Mae’r cwrs yn arwain at ddyfarndal sydd wedi ei roi neu sydd i gael ei roi gan gorff sy’n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(2) oni bai bod y cwrs yn dod o fewn paragraff (c) neu (e) o Amod 1.
(2) At ddibenion Amod 4—
(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’n darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi ymrwymo i gytundeb â’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs ai peidio;
(b)bernir bod prifysgol, ac unrhyw goleg cyfansoddol mewn prifysgol, neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg mewn prifysgol, yn sefydliad addysgol cydnabyddedig os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu’r sefydliad cyfansoddol yn sefydliad addysgol cydnabyddedig;
(c)ni fernir bod sefydliad yn sefydliad addysgol cydnabyddedig dim ond oherwydd ei fod yn sefydliad cysylltiedig o fewn ystyr “connected institution” yn adran 65(3B) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 sy’n cael, oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad arall, y cyfan neu ran o unrhyw grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill a ddarperir i’r sefydliad arall hwnnw yn unol ag adran 65(3A) o’r Ddeddf honno(3).
(3) Yn y rheoliad hwn, os yw paragraff (4) yn gymwys i gwrs, ystyrir ei fod yn gwrs sengl ar gyfer gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) hyd yn oed os yw’r cwrs yn arwain at roi gradd neu gymhwyster arall cyn y radd (neu’r cymhwyster cyfatebol) (pa un a yw rhan o’r cwrs yn opsiynol ai peidio).
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gwrs—
(a)nad yw ei safon yn uwch na safon gradd gyntaf, a
(b)sy’n arwain at gymhwyster fel meddyg, deintydd, milfeddyg, pensaer, pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.
Cyrsiau dynodedig – eithriadau
7.—(1) Yr eithriadau yw—
Eithriad 1
Cwrs a ddilynir fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.
Eithriad 2
Cwrs sy’n dod o fewn paragraff (g) neu (h) o Amod 1 o reoliad 6(1) os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu i’r cwrs gael ei ddarparu i un o ddisgyblion yr ysgol.
(2) At ddibenion Eithriad 1, ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” yw—
(a)cynllun a sefydlir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004(4) neu o dan reoliad 8 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012(5), sy’n caniatáu i berson ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn ennill statws athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig tra bo’n cael ei gyflogi i addysgu mewn ysgol a gynhelir, ysgol annibynnol neu sefydliad arall ac eithrio uned cyfeirio disgyblion;
(b)cynllun a sefydlir gan yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n caniatáu i berson ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn ennill statws athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig tra bo’n cael ei gyflogi i addysgu mewn ysgol, coleg dinas, Academi, ysgol annibynnol neu sefydliad arall ac eithrio uned cyfeirio disgyblion.
(3) At ddibenion Eithriad 2, ystyr “ysgol a gynhelir” yw—
(a)ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol,
(b)ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig, neu
(c)ysgol feithrin a gynhelir.
Dynodi cyrsiau eraill
8.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru bennu bod cwrs i’w drin fel pe bai’n gwrs dynodedig er gwaethaf y ffaith na fyddai fel arall yn gwrs dynodedig, oni bai am y dynodiad(6).
(2) Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu dynodiad cwrs a wneir o dan baragraff (1).
1988 p. 40; diwygiwyd adran 214(2) gan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), adran 93 ac Atodlen 8.
1992 p. 13; mewnosodwyd is-adrannau (3B) a (3A) o adran 65 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.
O.S. 2004/1729 (Cy. 173), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2007/2811 (Cy. 238), O.S. 2008/215 (Cy. 26) ac O.S. 2010/1142 (Cy. 101). Dirymwyd O.S. 2004/1729, gydag arbedion, gan O.S. 2012/724 (Cy. 96).
Gweler http://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/ymarferwyr/gwybodaeth-polisi/cyrsiau-dynodedig.aspx i gael rhestr o gyrsiau dynodedig sydd wedi eu pennu, wedi eu hatal dros dro neu wedi eu dirymu gan Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn.