xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
24.—(1) Os yw myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs llawnamser wedi cael gradd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig (“person â gradd anrhydedd”), nid yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu, grant sylfaenol, grant cynhaliaeth neu fenthyciad cynhaliaeth o dan y Rheoliadau hyn oni bai bod y myfyriwr—
(a)yn dod o fewn un o’r Achosion a nodir ym mharagraff (2), a
(b)ym mhob Achos, yn bodloni’r amodau cymhwyso penodol sy’n ymwneud â’r cymorth o dan sylw.
(2) Yr Achosion yw—
Caiff person â gradd anrhydedd gymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn os yw’r cwrs presennol yn—
(a)cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon nad yw’n para’n hwy na dwy flynedd, ac nid yw’r person graddedig yn athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig, neu’n
(b)cwrs mynediad graddedig carlam.
Caiff person â gradd anrhydedd gymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth os yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn gymwys—
(a)mae’r cwrs presennol yn arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg neu bensaer;
(b)mae’r person graddedig i gael unrhyw daliad o dan—
(i)bwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person graddedig, neu
(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person graddedig mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn academaidd o’r cwrs presennol;
(c)mae’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon.
Er gwaethaf paragraff (1)—
(a)os ystyrir bod y cwrs presennol yn gwrs sengl yn rhinwedd rheoliad 6(3) a (4), a
(b)os yw’r cwrs yn arwain at roi gradd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig i’r myfyriwr cymwys cyn y radd derfynol neu’r cymhwyster cyfatebol,
nid yw rhoi’r radd anrhydedd honno yn rhwystro’r myfyriwr rhag cymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r cwrs sengl hwnnw.
Mae rheoliad 26 yn gymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 24 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
25.—(1) Os yw myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs rhan-amser wedi cael gradd gyntaf o sefydliad yn y Deyrnas Unedig (“person graddedig”), nid yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio grant myfyriwr anabl oni bai bod y myfyriwr yn dod o fewn un o’r Achosion a nodir ym mharagraff (2).
(2) Yr Achosion yw—
O ran y radd gyntaf—
(a)nid gradd anrhydedd ydoedd; a
(b)fe’i dyfarnwyd i’r person graddedig ar ôl iddo gwblhau’r modiwlau, yr arholiadau neu’r mathau eraill o asesiad a oedd yn ofynnol ar gyfer y radd gyntaf honno,
ac mae’r person graddedig yn ymgymryd â’r cwrs presennol er mwyn cael gradd anrhydedd ar ôl cwblhau’r modiwlau, yr arholiadau neu’r mathau eraill o asesiad sy’n ofynnol (pa un a yw’r person graddedig yn parhau i wneud y cwrs yn yr un sefydliad a ddyfarnodd y radd gyntaf iddo ai peidio).
Mae’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon nad yw’n para’n hwy na phedair blynedd ac nid yw’r person graddedig yn athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig.
Mae’r cwrs presennol yn arwain at radd anrhydedd ac—
(a) yn ymwneud ag astudio hanes a gramadeg y Gymraeg a’r defnydd ohoni,
(b) yn gwrs y mae ei god a’i label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu rhestru yn Atodlen 5A, neu
( c)wedi ei restru yn y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch yn un o grwpiau’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin yng Ngholofn 1 o Dabl A1 ac eithrio ar gyfer y pynciau hynny y mae eu cod a’u label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu pennu yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2.
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Grwpiau’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin | Cod a label Pynciau a eithrir |
Pynciau perthynol i feddygaeth (CAH02) | |
Y gwyddorau biolegol a’r gwyddorau chwaraeon (CAH03) | |
Seicoleg (CAH04) | |
Milfeddygaeth (CAH05) | |
Amaethyddiaeth, bwyd ac astudiaethau cysylltiedig (CAH06) | |
Y gwyddorau ffisegol (CAH07) | (100392) Gwyddoniaeth gymhwysol (100390) Gwyddoniaeth gyffredinol (100391) Y gwyddorau naturiol |
Y gwyddorau mathemategol (CAH09) | |
Peirianneg a thechnoleg (CAH10) | |
Cyfrifiadura (CAH11) ] |
(c)yn gwrs y mae ei god a’i label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu rhestru yn Atodlen 5A.
Mae rheoliad 26 yn gymwys.
[F2(3) Yn Achos 3, ystyr “Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin” yw fersiwn 1.3.3 o’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin sydd wedi ei chymeradwyo gan Grŵp Llywio Tirwedd Ddata yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch ac ystyr “y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch” yw’r Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch a gynhelir gan Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau a’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 25(2) wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 45(a)
F2Rhl. 25(3) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 45(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 25 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
26.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)pan fo person â gradd anrhydedd o fewn ystyr rheoliad 24 neu berson graddedig o fewn ystyr rheoliad 25 (“G”) wedi darparu’r holl wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â gradd anrhydedd neu, yn ôl y digwydd, radd gyntaf, a ddyfarnwyd i’r person o’r blaen, a
(b)pan fo G yn cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru sy’n datgan yn anghywir fod G yn cymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, caiff G gymhwyso i gael y cymorth a bennir yn yr hysbysiad am y cyfnod hwnnw y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol.
(3) Ond nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys os yw’r hysbysiad yn anghywir oherwydd bod yr wybodaeth a ddarparwyd gan G yn sylweddol anghywir.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 26 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
27.—(1) Nid yw myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs rhan-amser yn cymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio grant myfyriwr anabl os yw’r myfyriwr—
(a)wedi ymgymryd ag un neu ragor o gyrsiau rhan-amser am gyfnod cyfanredol o—
(i)8 mlynedd academaidd o leiaf (pan ddechreuodd y cwrs hwnnw neu’r cwrs cynharaf o’r cyrsiau hynny cyn 1 Medi 2014), neu
(ii)16 o flynyddoedd academaidd o leiaf (pan ddechreuodd y cwrs hwnnw neu’r cwrs cynharaf o’r cyrsiau hynny ar neu ar ôl 1 Medi 2014), a
(b)wedi cael cymorth perthnasol mewn cysylltiad ag o leiaf 8 neu, yn ôl y digwydd, 16 o’r blynyddoedd academaidd hynny o’r cwrs rhan-amser neu’r cyrsiau rhan-amser.
(2) Ym mharagraff (1)(b), ystyr “cymorth perthnasol” yw—
(a)benthyciad, grant mewn cysylltiad â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall a wneir mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd—
(i)o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998, neu
(ii)o dan reoliadau a wneir o dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(1);
(b)benthyciad a wneir mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o dan reoliadau a wneir o dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(2).
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 27 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
O.S. 1998/1760 (G.I. 14), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
1980 p. 44; mewnosodwyd adran 73B gan adran 29(2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30) ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg (Gwaddol Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr) (Yr Alban) 2001 (dsa 6), Atodlen 6 i Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), adran 34(1) o Ddeddf Methdaliad a Diwydrwydd etc. (Yr Alban) 2007 (dsa 3) ac Atodlen 8 i Ddeddf Methdaliad (Yr Alban) 2016 (dsa 21).