RHAN 6LL+CBENTHYCIADAU AT FFIOEDD DYSGU
Benthyciad at ffioedd dysguLL+C
38. Benthyciad sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys ar gyfer talu ffioedd dysgu mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw benthyciad at ffioedd dysgu.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 38 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
Amodau cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysguLL+C
39.—(1) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol oni bai bod un o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys—
Eithriad 1
Pan na fo’r cwrs presennol yn gwrs mynediad graddedig carlam, mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn Erasmus o gwrs a ddarperir gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon.
Eithriad 2
Pan na fo’r cwrs presennol yn gwrs mynediad graddedig carlam, mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—
(a)bwrsari gofal iechyd, neu
(b)lwfans gofal iechyd yr Alban,
a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).
Eithriad 3
Pan fo’r cwrs presennol yn gwrs rhan-amser neu’n gwrs mynediad graddedig carlam, mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn Erasmus o’r cwrs a ddarperir gan sefydliad yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig.
Eithriad 4
Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Ond nid yw’r Eithriad hwn yn gymwys pan—
(a)bo’r myfyriwr (“M”) neu berthynas agos i M yn aelod o’r lluoedd arfog,
(b)na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf, ac
(c)na fo M yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw oherwydd bod M neu’r berthynas agos yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 39 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
Swm benthyciad at ffioedd dysguLL+C
40.—(1) Ni chaiff swm benthyciad at ffioedd dysgu mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd fod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
(a)y ffioedd dysgu sy’n daladwy gan y myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno, neu
(b)uchafswm y benthyciad.
(2) Cyfrifir uchafswm y benthyciad yn unol â Thabl 2 pan fo—
(a)Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae uchafsymiau’r benthyciad yng Ngholofn 5 yn daladwy mewn perthynas â hi;
(b)Colofn 2 yn pennu’r categori o fyfyriwr y mae uchafsymiau’r benthyciad yng Ngholofn 5 yn gymwys iddo (gweler paragraff (3));
(c)Colofn 3 yn pennu’r math o ddarparwr cwrs, pan—
(i)ystyr “darparwr arferol” yw darparwr sy’n dod o fewn Amod 4 o reoliad 6(1);
(ii)ystyr “sefydliad preifat” yw sefydliad, nad yw’n sefydliad addysgol cydnabyddedig, sy’n darparu cwrs a bennir yn gwrs dynodedig gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8;
(d)Colofn 4 yn pennu lleoliad y sefydliad sy’n darparu’r cwrs;
(e)Colofn 5 yn pennu uchafswm y benthyciad sy’n gymwys mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1, 2, 3 a 4.
(3) Y categorïau o fyfyrwyr a nodir yng Ngholofn 2 yw—
Categori 1
Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig nad yw’n dod o fewn Categori 2, 3, 4 [F1, 5 neu 6].
Categori 2
Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â’r flwyddyn academaidd olaf o gwrs llawnamser y mae’n ofynnol bod yn bresennol arno fel arfer am lai na 15 wythnos er mwyn ei gwblhau.
Categori 3
Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod a ddarperir gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig pan—
(a)bo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yr ymgymerir â hwy yn y sefydliad yn ystod y flwyddyn academaidd honno yn llai na 10 wythnos; neu
(b)bo swm cyfanredol y cyfnodau a dreulir yn ymgymryd â’r cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol (nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad), gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser, yn fwy na 30 wythnos.
Categori 4
Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs a ddarperir gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig pan—
(a)bo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yr ymgymerir â hwy yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd honno yn llai na 10 wythnos, neu
(b)bo swm cyfanredol y cyfnodau a dreulir yn ymgymryd â’r cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol (nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig) gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser, yn fwy na 30 wythnos,
F2...
Categori 5
Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs mynediad graddedig carlam.
[F3Categori 6
Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn Erasmus ar gwrs llawnamser a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.]
Tabl 2
Colofn 1 Blwyddyn academaidd | Colofn 2 Categori o fyfyriwr | Colofn 3 Math o ddarparwr cwrs | Colofn 4 Lleoliad y darparwr cwrs | Colofn 5 Uchafswm y benthyciad |
---|---|---|---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | 1 | Darparwr arferol | Cymru | £9,000: cwrs llawnamser £2,625: cwrs rhan-amser |
Mannau eraill yn y DU | £9,250: cwrs llawnamser £6,935:cwrs rhan-amser | |||
Sefydliad preifat | Cymru | £6,165: cwrs llawnamser £2,625 :cwrs rhan-amser | ||
Mannau eraill yn y DU | £6,165: cwrs llawnamser £4,625: cwrs rhan-amser | |||
2 | Darparwr arferol | Cymru | £4,500 | |
Mannau eraill yn y DU | £4,625 | |||
Sefydliad preifat | Cymru a Mannau eraill yn y DU | £3,080 | ||
3 | Darparwr arferol | Cymru | £1,800 | |
Lloegr | £1,850 | |||
Yr Alban a Gogledd Iwerddon | £4,625 | |||
Sefydliad preifat | Cymru a Lloegr | £1,230 | ||
Yr Alban a Gogledd Iwerddon | £3,080 | |||
4 | Darparwr arferol | Cymru | £1,350 | |
Lloegr F4... | £1,385 | |||
[F5Yr Alban a] Gogledd Iwerddon | £4,625 | |||
Sefydliad preifat | Cymru, Lloegr a’r Alban | £920 | ||
Gogledd Iwerddon | £3,080 | |||
5 | Darparwr arferol | Cymru a Mannau eraill yn y DU | £5,535 | |
[F6Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | 6 | Darparwr arferol | Cymru | £1,350 |
Lloegr a’r Alban | £1,385] |
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 40(3) wedi eu hamnewid (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 8(a)(i)
F2Geiriau yn rhl. 40(3) wedi eu hepgor (30.7.2018) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 8(a)(ii)
F3Geiriau yn rhl. 40(3) wedi eu mewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 8(a)(iii)
F4Geiriau yn rhl. 40(3) Table 2 wedi eu hepgor (30.7.2018) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 8(b)(i)
F5Geiriau yn rhl. 40(3) Table 2 wedi eu mewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 8(b)(ii)
F6Geiriau yn rhl. 40(3) Table 2 wedi eu mewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 8(b)(iii)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 40 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
Gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy’n llai na’r uchafswmLL+C
41. Caiff myfyriwr cymwys wneud cais o dan reoliad 32 i fenthyg rhan o’r benthyciad at ffioedd dysgu sydd ar gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 41 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
Cais pellach am fenthyciad at ffioedd dysgu hyd at yr uchafswmLL+C
42. Pan—
(a)bo myfyriwr cymwys yn gwneud cais am ran o’r benthyciad at ffioedd dysgu o dan reoliad 41, neu
(b)bo swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd dysgu yn cael ei roi ar gael i fyfyriwr cymwys yn dilyn trosglwyddiad ac ailasesiad a wneir o dan Adran 5 o Bennod 2 o Ran 4,
caiff y myfyriwr wneud cais pellach o dan reoliad 32 am y balans sy’n weddill o’r benthyciad at ffioedd dysgu sydd ar gael mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 42 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)