xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
46.—(1) Mae Tabl 4 yn nodi uchafsymiau’r grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs llawnamser (“myfyriwr llawnamser”) pan fo—
(a)Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r grant cynhaliaeth a bennir yng Ngholofn 3 yn daladwy mewn perthynas â hi;
(b)Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);
(c)Colofn 3 yn pennu uchafswm y grant sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.
(2) Pan—
(a)na fo incwm aelwyd y myfyriwr yn fwy na £18,370, neu
(b)bo’r myfyriwr yn berson sy’n ymadael â gofal,
swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy yw uchafswm y grant sydd ar gael mewn cysylltiad â lleoliad y myfyriwr.
(3) Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr yn fwy na £18,370 ond yn llai na £59,200, swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yw uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael wedi ei ostwng £1 am bob—
(a)£6.937 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370 pan fo’r myfyriwr yn byw gartref;
(b)£4.475 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370 pan fo’r myfyriwr yn byw oddi cartref, ac yn astudio yn Llundain;
(c)£5.750 o incwm aelwyd [F1sy’n fwy na £18,370] pan fo’r myfyriwr yn byw oddi cartref, ac yn astudio yn rhywle arall.
(4) Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr llawnamser yn £59,200 neu ragor, swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy yw £0.
Colofn 1 Blwyddyn academaidd | Colofn 2 Lleoliad y myfyriwr llawnamser | Colofn 3 Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr llawnamser |
---|---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | Byw gartref | £5,885 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £9,124 | |
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £7,100 |
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 46(3)(c) wedi eu mewnosod (1.8.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2018 (O.S. 2018/813), rhlau. 1(2), 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 46 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
47.—(1) Mae Tabl 5 yn nodi uchafsymiau’r grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs rhan-amser (“myfyriwr rhan-amser”) pan fo—
(a)Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r grant cynhaliaeth a bennir yng Ngholofn 2 yn daladwy mewn perthynas â hi;
(b)Colofn 2 yn pennu uchafswm y grant sydd ar gael mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfatebol yng Ngholofn 1.
(2) Os—
(a)nad yw incwm aelwyd myfyriwr rhan-amser yn fwy na £25,000, neu
(b)yw’r myfyriwr yn berson sy’n ymadael â gofal,
swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yw’r uchafswm sydd ar gael wedi ei luosi â dwysedd astudio’r cwrs presennol.
(3) Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr rhan-amser yn fwy na £25,000 ond yn llai na £59,200, cyfrifir swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy fel a ganlyn—
Cam 1
Gostwng uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael £1 am bob £6.84 o incwm aelwyd sy’n fwy na £25,000.
Cam 2
Lluosi canlyniad Cam 1 â dwysedd astudio’r cwrs presennol.
Y canlyniad yw swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy.
(4) Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr rhan-amser yn [F2£59,200 neu ragor] , swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy yw £0.
Colofn 1 Blwyddyn academaidd | Colofn 2 Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr rhan-amser |
---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | £5,000 |
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn rhl. 47(4) wedi eu hamnewid (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 9
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 47 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
48. Gweler Rhan 2 o Atodlen 3 am ddarpariaeth ynghylch cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 48 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
49. Mae myfyriwr cymwys yn “person sy’n ymadael â gofal”—
(a)os yw’r myfyriwr o dan 25 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol,
(b)os yw’r myfyriwr yn gategori o berson ifanc, neu wedi bod yn gategori o berson ifanc, a ddiffinnir yn adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), neu yn rhinwedd yr adran honno, ac
(c)os, rhwng pen-blwydd y myfyriwr yn 14 oed a diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
(i)oedd y myfyriwr yn derbyn gofal, wedi ei faethu neu wedi ei letya (o fewn ystyr adrannau 74 a 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) am gyfnod cyfanredol o 13 wythnos neu ragor, neu
(ii)oedd y myfyriwr yn berson yr oedd gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig (o fewn yr ystyr a roddir i “special guardianship order” gan adran 14A o Ddeddf Plant 1989)(2) mewn grym mewn cysylltiad ag ef am gyfnod o 13 wythnos neu ragor.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 49 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
1989 p. 41; mewnosodwyd adran 14A gan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38) ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) a Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23).