Swm y benthyciad cynhaliaeth:myfyrwyr llawnamserLL+C
55.—(1) Pan fo cwrs presennol myfyriwr cymwys yn gwrs llawnamser (“myfyriwr llawnamser”), cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr fel a ganlyn—
Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i’r myfyriwr mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd.
Minws
Swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 46.
(2) Mae Tabl 7 yn nodi uchafsymiau’r benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael mewn cysylltiad â myfyriwr llawnamser pan—
(a)bo Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r benthyciad cynhaliaeth a bennir yng Ngholofn 4 yn gymwys mewn perthynas â hi;
(b)bo Colofn 2 yn pennu’r categori o fyfyriwr y mae’r uchafsymiau yng Ngholofn 4 yn gymwys iddo;
(c)bo Colofn 3 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);
(d)bo Colofn 4 yn pennu uchafswm y benthyciad sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1, 2 a 3.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, y categorïau o fyfyriwr yw—
Categori 1
Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd ag—
(a)blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig, neu
(b)blwyddyn gyntaf o gwrs mynediad graddedig carlam
nad yw’n fyfyriwr Categori 2.
Categori 2
Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd ag—
(a)blwyddyn academaidd y mae myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—
(i)bwrsari gofal iechyd, neu
(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban,
a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio), neu
(b)blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod pan fo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser y mae’r myfyriwr yn ymgymryd â hwy yn llai na 10 wythnos (oni bai ei bod yn flwyddyn y mae rheoliad 44(2) yn gymwys iddi).
(4) Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 56.
Tabl 7
[F1Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 | Colofn 4 |
---|---|---|---|
Blwyddyn academaidd | Categori o fyfyriwr | Lleoliad y myfyriwr | Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr llawnamser |
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019 | Categori 1 | Byw gartref | £6,650 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £10,250 | ||
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £8,000 | ||
Categori 2 | Byw gartref | £3,325 | |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £5,125 | ||
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £4,000 | ||
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020 | Categori 1 | Byw gartref | £6,840 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £10,530 | ||
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £8,225 | ||
Categori 2 | Byw gartref | £3,420 | |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £5,265 | ||
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £4,110 | ||
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021 | Categori 1 | Byw gartref | £7,335 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £11,260 | ||
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £8,810 | ||
Categori 2 | Byw gartref | £3,665 | |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £5,630 | ||
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £4,405 | ||
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021 | Categori 1 | Byw gartref | £7,790 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £11,930 | ||
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £9,350 | ||
Categori 2 | Byw gartref | £3,895 | |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £5,965 | ||
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £4,675] |
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 55 Amnewidiwyd Tabl 7 (gyda chais yn unol â rheoliad 1(2) o O.S.) diwygio gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 27
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 55 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)