Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 26/02/2021.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
56.—(1) Pan fo myfyriwr llawnamser yn cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50, cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yn unol â pharagraff (2).
(2) Cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy drwy gymhwyso’r camau a ganlyn—
Nodi swm—
(a)y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 46, a
(b)y grant sylfaenol sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 45.
Nodi swm y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth sydd i’w drin fel taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50.
Nodi swm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr drwy gyfeirio at Dabl 8, pan fo—
(a)Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r cymorth byw yng Ngholofn 3 yn gymwys mewn perthynas â hi;
(b)Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);
(c)Colofn 3 yn pennu symiau cymwys y cymorth byw ar gyfer y cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.
[F2Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Blwyddyn academaidd | Lleoliad y myfyriwr | Swm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr cymorth arbennig |
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019 | Byw gartref | £7,650 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £11,250 | |
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £9,000 | |
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020 | Byw gartref | £7,840 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £11,530 | |
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £9,225 | |
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021 | Byw gartref | £8,335 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £12,260 | |
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £9,810 | |
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021 | Byw gartref | £8,790 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £12,930 | |
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £10,350] |
Pa un bynnag yw’r mwyaf o—
(a)y swm a nodir yng Ngham 3, neu
(b)symiau’r grant a nodir yng Ngham 1 plws isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr fel y’i pennir drwy gyfeirio at Dabl 8A,
yw uchafswm y cymorth byw sydd ar gael i’r myfyriwr.
Cyfrifo uchafswm tybiannol y benthyciad cynhaliaeth drwy ddidynnu swm y taliad cymorth arbennig a nodir yng Ngham 2 o uchafswm y cymorth byw a nodir yng Ngham 4.
Didynnu swm unrhyw grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr nad yw’n cael ei drin fel taliad cymorth arbennig o uchafswm tybiannol y benthyciad cynhaliaeth a gyfrifir yng Ngham 5.
Y canlyniad yw swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr.
(3) Yn Nhabl 8A—
(a)mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae isafsymiau’r benthyciad cynhaliaeth yng Ngholofn 3 yn gymwys mewn perthynas â hi;
(b)mae Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);
(c)mae Colofn 3 yn pennu isafsymiau’r benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy ar gyfer y cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.
[F3Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Blwyddyn academaidd | Lleoliad y myfyriwr | Isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwyy |
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019 | Byw gartref | £3,325 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £5,125 | |
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £4,000 | |
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020 | Byw gartref | £3,420 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £5,265 | |
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £4,110 | |
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021 | Byw gartref | £3,665 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £5,630 | |
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £4,405 | |
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021 | Byw gartref | £3,895 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £5,965 | |
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £4,675] |
(4) Yn y rheoliad hwn, “cymorth byw” yw’r term ar gyfer y taliad cymorth arbennig, y grant cynhaliaeth a’r benthyciad cynhaliaeth ar y cyd.]
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 56 wedi ei amnewid (1.8.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2018 (O.S. 2018/813), rhlau. 1(2), 4
F2Rhl. 56 Amnewidiwyd Tabl 8 (gyda chais yn unol â rheoliad 1(2) o O.S. sy'n diwygio) gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 28(a)
F3Rhl. 56 Amnewidiwyd Tabl 8A (gyda chais yn unol â rheoliad 1(2) o O.S.) diwygio gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 28(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 56 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys