Swm y benthyciad cynhaliaeth:myfyrwyr rhan-amserLL+C
58.—(1) Pan fo cwrs presennol myfyriwr cymwys yn gwrs rhan-amser (“myfyriwr rhan-amser”), cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr fel a ganlyn—
Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i’r myfyriwr (gweler Tabl 10).
Minws
Swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 47.
(2) Yn Nhabl 10, mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae uchafswm y benthyciad cynhaliaeth yng Ngholofn 2 ar gael mewn perthynas â hi.
Tabl 10
[F1Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Blwyddyn academaidd | Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr rhan-amser |
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019 | £5,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio |
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020 | £5,815 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio |
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021 | £6,245 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio |
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021 | £6,640 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio] |
[F2(3) Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 58A.]
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 58 Amnewidiwyd Tabl 10 (gyda chais yn unol â rheoliad 1(2) o O.S.) diwygio gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 30
F2Rhl. 58(3) wedi ei fewnosod (1.8.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2018 (O.S. 2018/813), rhlau. 1(2), 5
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 58 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)