xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
66.—(1) Mae grant at deithio ar gael i fyfyriwr cymwys os yw’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—
Amod 1
Mae’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser.
Amod 2
Am o leiaf hanner unrhyw chwarter o’r flwyddyn academaidd o dan sylw, mae’r myfyriwr cymwys yn bresennol, fel rhan o’r cwrs, mewn—
(a)sefydliad tramor (gan gynnwys Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis), neu
(b)lleoliad gwaith tramor yn ystod blwyddyn Erasmus,
(cyfeirir at bresenoldeb o’r fath yn y rheoliad hwn fel “y lleoliad” ac at chwarter o’r fath fel “chwarter cymhwysol”).
Amod 3
Mae’r myfyriwr yn mynd i—
(a)costau teithio, neu
(b)unrhyw wariant a grybwyllir ym mharagraff (3),
at ddiben y lleoliad.
(2) Swm y grant at deithio sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r swm y penderfynir arno gan Weinidogion Cymru yn unol â’r fformiwla a ganlyn—
(X − Y) + Z
Pan—
X yw swm cyfanredol y costau teithio rhesymol y mae’n ofynnol i’r myfyriwr cymwys fynd iddynt ym mhob chwarter cymhwysol at ddibenion y lleoliad;
Y yw—
Z yw swm cyfanredol unrhyw wariant yr eir iddo ym mhob chwarter cymhwysol a bennir ym mharagraff (3).
Y canlyniad yw swm y grant at deithio sy’n daladwy (ac os yw’r canlyniad yn cyfateb i ddim neu i swm negyddol, nid yw grant at deithio yn daladwy).
(3) Y gwariant a grybwyllir ym mharagraffau (1) a (2) yw—
(a)gwariant y mae’n rhesymol i’r myfyriwr cymwys fynd iddo wrth yswirio rhag atebolrwydd am gost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i’r Deyrnas Unedig am unrhyw salwch neu anaf personol y mae’n ei ddal neu’n ei ddioddef yn ystod y lleoliad;
(b)cost unrhyw fisa y mae’n ofynnol i’r myfyriwr ei chael er mwyn bod yn bresennol yn y lleoliad;
(c)costau meddygol y mae’n rhesymol i’r myfyriwr fynd iddynt er mwyn cyflawni amod mandadol i fynd i’r diriogaeth, y wlad neu’r wladwriaeth lle y mae’r lleoliad.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 66(2) wedi eu hamnewid (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 12(a)
F2Geiriau yn rhl. 66(2) wedi eu hamnewid (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 12(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 66 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)