Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

Cyrsiau dynodedig – eithriadauLL+C

7.—(1Yr eithriadau yw—

Eithriad 1

Cwrs a ddilynir fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.

Eithriad 2

Cwrs sy’n dod o fewn paragraff (g) neu (h) o Amod 1 o reoliad 6(1) os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu i’r cwrs gael ei ddarparu i un o ddisgyblion yr ysgol.

(2At ddibenion Eithriad 1, ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” yw—

(a)cynllun a sefydlir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004(1) neu o dan reoliad 8 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012(2), sy’n caniatáu i berson ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn ennill statws athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig tra bo’n cael ei gyflogi i addysgu mewn ysgol a gynhelir, ysgol annibynnol neu sefydliad arall ac eithrio uned cyfeirio disgyblion;

(b)cynllun a sefydlir gan yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n caniatáu i berson ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn ennill statws athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig tra bo’n cael ei gyflogi i addysgu mewn ysgol, coleg dinas, Academi, ysgol annibynnol neu sefydliad arall ac eithrio uned cyfeirio disgyblion.

(3At ddibenion Eithriad 2, ystyr “ysgol a gynhelir” yw—

(a)ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol,

(b)ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig, neu

(c)ysgol feithrin a gynhelir.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 7 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)