Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

Uchafswm y grant gofal plantLL+C

76.—(1Swm y grant gofal plant sy’n daladwy yw 85% o ffioedd gofal plant rhagnodedig wythnosol y myfyriwr cymwys, hyd at yr uchafswm wythnosol—

(a)a bennir yn Nhabl 13, neu

(b)pan fo paragraff (4) yn gymwys, a bennir yn y paragraff hwnnw.

(2Yn Nhabl 13—

(a)mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae uchafswm wythnosol y grant gofal plant yng Ngholofn 3 yn daladwy mewn perthynas â hi;

(b)mae Colofn 2 yn pennu nifer y plant dibynnol y mae’r symiau a bennir yng Ngholofn 3 yn ymwneud â hwy;

(c)mae Colofn 3 yn pennu uchafswm wythnosol y grant gofal plant sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2, pan fo’r cais am grant gofal plant yn nodi darparwr gofal plant.

Tabl 13
[F1Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Blwyddyn academaiddNifer y plant dibynnolUchafswm wythnosol
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2020Un plentyn dibynnol£161.50
Mwy nag un plentyn dibynnol£274.55
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021Un plentyn dibynnol£174.22
Mwy nag un plentyn dibynnol£298.69
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021Un plentyn dibynnol£179.62
Mwy nag un plentyn dibynnol£307.95]

(3Pan fo gan y myfyriwr cymwys fwy nag un plentyn dibynnol, y swm a bennir yn y cofnod priodol yng Ngholofn 3 yw’r uchafswm wythnosol sy’n daladwy, ni waeth faint o blant sy’n cael gofal plant.

(4Pan na fo cais y myfyriwr cymwys am grant gofal plant yn nodi’r darparwr gofal plant, caiff Gweinidogion Cymru gyfyngu—

(a)ar swm y grant gofal plant a delir i’r myfyriwr i 85% o’r ffioedd gofal plant rhagnodedig hyd at uchafswm wythnosol o [F2£138.31;]

(b)ar y taliad o’r grant gofal plant i un chwarter o’r flwyddyn academaidd.

(5At ddibenion cyfrifo swm grant gofal plant, mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul.

(6Os eir i ffioedd gofal plant rhagnodedig mewn cysylltiad ag wythnos sy’n dod yn rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant gofal plant yn daladwy mewn cysylltiad â hi ac yn rhannol y tu allan i’r flwyddyn academaidd honno, cyfrifir yr uchafswm wythnosol drwy gymhwyso’r fformiwla a ganlyn—

Pan—

  • A yw’r uchafswm wythnosol sy’n gymwys, a

  • B yw nifer y diwrnodau yn yr wythnos honno sy’n dod o fewn y flwyddyn academaidd.

Diwygiadau Testunol

F1Rhl. 76 Amnewidiwyd Tabl 13 (gyda chais yn unol â rheoliad 1(2) o O.S.I. sy'n diwygio) gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 34(a)

F2Sum in Rhl. 76(4)(a) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 34(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 76 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)