xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
80.—(1) Pan fo un o’r digwyddiadau [a restrir] ym mharagraff (2) yn digwydd o fewn 3 mis i ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr gymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno.
(2) Y digwyddiadau yw—
(a)bod y cwrs presennol yn dod yn gwrs dynodedig;
(b)bod y myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys ar y sail—
(i)bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n [F1dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n] dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(ii)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu gwladolyn o’r wladwriaeth honno;
(iii)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu gwladolyn o’r UE;
(iv)bod y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio’n barhaol;
(v)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
(vi)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 2;
(vii)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.
(3) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 81, mae i’r termau a ganlyn yr un ystyr ag yn Atodlen 2—
“aelod o deulu” (“family member”) (o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 6(5) o Atodlen 2);
“ffoadur” (“refugee”);
“gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”);
“hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”);
“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”);
[F2“person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”)]
“plentyn” (“child”);
“rhiant” (“parent”).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 80(2)(b)(i) wedi eu mewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 13(a)
F2Geiriau yn rhl. 80(3) wedi eu mewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 13(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 80 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)