Adennill benthyciadau cynhaliaeth sydd wedi cael eu gordaluLL+C
[F191. Pan fo benthyciad cynhaliaeth wedi cael ei ordalu caiff Gweinidogion Cymru adennill y gordaliad—
(a)drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw fenthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(b)drwy ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr cymwys ad-dalu’r gordaliad yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(c)drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.]
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 91 wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/708), rhl. 10
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 91 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)