xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

YR ATODLENNI

ATODLEN 1LL+CDehongli

Ystyr blwyddyn ErasmusLL+C

4.—(1Yn y Rheoliadau hyn, mae “blwyddyn Erasmus” yn flwyddyn academaidd [F1, pa un a ddechreuodd y flwyddyn academaidd honno cyn y diwrnod ymadael ai peidio,] pan fydd myfyriwr—

(a)yn cymryd rhan yn y cynllun ERASMUS fel rhan o gwrs a ddarperir yn gyfan gwbl gan sefydliad addysgol cydnabyddedig, a

(b)yn bodloni amod A, B neu C yn is-baragraff (2).

(2Yr amodau yw—

Amod A

(a)Darperir y cwrs gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon; a

(b)mae’r myfyriwr yn cwblhau pob cyfnod astudio neu leoliad gwaith o dan y cynllun y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Amod B

(a)Darperir y cwrs gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban,

(b)mae o leiaf un cyfnod astudio neu leoliad gwaith o dan y cynllun wedi ei gwblhau mewn sefydliad neu weithle y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd, ac

(c)[F2yn ddarostyngedig i baragraff (d)] yn ystod y flwyddyn academaidd honno, mae cyfnod cyfanredol unrhyw un neu ragor o gyfnodau astudio llawnamser yn y sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban yn llai na 10 wythnos [F3,]

[F4(d)mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019, ni fydd unrhyw un neu ragor o gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban ar ôl y diwrnod ymadael yn cael eu cyfrif at ddibenion paragraff (c).]

Amod C

(a)Darperir y cwrs gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban,

(b)mae o leiaf un cyfnod astudio neu leoliad gwaith o dan y cynllun wedi ei gwblhau mewn sefydliad neu weithle y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd, ac

(c)yn ystod y flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol o’r cwrs, mae cyfnod cyfanredol unrhyw un neu ragor o gyfnodau a dreulir yn ei gwblhau (nad ydynt yn gyfnodau astudio llawnamser yn y sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban), gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn fwy na 30 wythnos.

(3Yn is-baragraff (1), ystyr “cynllun ERASMUS” yw cynllun gweithredu’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol(1).

(1)

Mae ERASMUS yn rhan o SOCRATES, rhaglen weithredu’r Undeb Ewropeaidd; OJ Rhif L28, 3.2.2000, t.1.