Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 2

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 28/01/2021

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/12/2020.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Rheoliad 9(1)(a)

ATODLEN 2LL+CCategorïau o fyfyrwyr cymwys

Categori 1 – Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas UnedigLL+C

1.—(1Person—

(a)sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(i)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac eithrio am y rheswm ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol, a

(ii)yn preswylio fel arfer yng Nghymru,

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(c)na fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (b), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 9(2)).

(2Person—

[F1(a)sydd naill ai—

(i)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd ennill yr hawl i breswylio’n barhaol, neu

(ii)yn dod o fewn Erthygl 18(2) neu (3) o’r cytundeb ymadael â’r UE, Erthygl 17(2) neu (3) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE neu Erthygl 16(2) neu (3) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, ond dim ond pan fyddai’r person hwnnw wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â hawl y person hwnnw i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;]

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F2Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

Categori 2 – Ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoeddLL+C

2.—(1Person—

(a)sy’n ffoadur,

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r person gael ei gydnabod yn ffoadur, ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i ffoadur,

(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches,

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig, a

(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sy’n blentyn i ffoadur neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur,

(b)ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches, a oedd yn blentyn i’r ffoadur neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad hwnnw,

(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches,

(d)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig, ac

(e)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

[F3Categori 2A - Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoeddLL+C

2A.(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth—

(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)(i)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a

(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Person—

(a)(i)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, a

(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth,

(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros,

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(4) Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” (“leave application date”) yw’r dyddiad y gwnaeth person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth gais i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo,

(b)ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”) yw person—

(i)y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo, a

(ii)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person.]

Categori 3 – Personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoeddLL+C

3.—(1Person—

(a)sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros,

(b)[F4a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros,]

(i)y cais am loches, neu

(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed cais am loches,

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu sy’n blentyn i briod neu i bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros,

(b)[F5a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw,]

(i)y cais am loches, neu

(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed cais am loches,

o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person hwnnw neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw,

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(4Yn y paragraff hwn, ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw person (“P”)—

[F6(a)sydd—

(i)wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn cymhwyso i gael ei gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny,

(ii)heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny,

[F7(iia)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;]

(iii)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo,

(iv)wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn cymhwyso i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat [F8neu deuluol] o dan y rheolau mewnfudo, fod P wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol,]

(c)nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben, neu y mae’r cyfnod hwnnw wedi ei adnewyddu ac nad yw’r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben, neu y mae apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002) mewn cysylltiad â’i ganiatâd i ddod i mewn neu i aros, a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i P gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros.

[F9(5) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.]

[F10Categori 3A – Personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67LL+C

3A.(1) Person—

(a)sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67,

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67,

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Yn y paragraff hwn—

ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” (“leave application date”) yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig.

ystyr “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”) yw person—

(a)

y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo, a

(b)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person.]

Diwygiadau Testunol

F10Atod. 2 para. 3A wedi ei fewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) of the amending S.I.) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 56

Categori 4 – Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoeddLL+C

4.—(1Person—

(a)sy’n un o’r canlynol—

(i)gweithiwr mudol AEE neu berson hunangyflogedig AEE, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(ii)gweithiwr cyflogedig Swisaidd neu berson hunangyflogedig Swisaidd, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(iii)aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii), sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(iv)gweithiwr trawsffiniol AEE neu berson hunangyflogedig trawsffiniol AEE;

(v)person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu berson hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd;

(vi)aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v), a

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F11Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F12Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(c)sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar symudiad rhydd ar gyfer gweithwyr yn yr Undeb, fel y’i hestynnir gan Gytundeb yr AEE(1).

[F13(2A) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan is-baragraff (2) yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.]

(3Yn is-baragraff (1)—

ystyr “aelod o deulu” (“family member”) yw—

(a)

mewn perthynas â gweithiwr trawsffiniol AEE, gweithiwr mudol AEE, person hunangyflogedig trawsffiniol AEE neu berson hunangyflogedig AEE—

(i)

priod y person neu ei bartner sifil,

(ii)

disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person sydd o dan 21 oed neu sy’n 21 oed neu drosodd ac sy’n ddibynyddion y person neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person, neu

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y person neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y person;

(b)

mewn perthynas â pherson cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd, person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu berson hunangyflogedig Swisaidd—

(i)

priod y person neu ei bartner sifil, neu

(ii)

plentyn y person neu blentyn priod neu bartner sifil y person;

ystyr “gweithiwr mudol AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn AEE sy’n weithiwr, ac eithrio gweithiwr trawsffiniol AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gweithiwr trawsffiniol AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn AEE sydd—

(a)

yn weithiwr yng Nghymru, a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE F14... ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson cyflogedig, ac eithrio person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

(a)

yn berson cyflogedig yng Nghymru, a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE F14... ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person hunangyflogedig AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn AEE sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig trawsffiniol AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunangyflogedig trawsffiniol AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn AEE sydd—

(a)

yn berson hunangyflogedig yng Nghymru, a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE F14... ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

(a)

yn berson hunangyflogedig yng Nghymru, a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE, F14..., ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos.

(4At ddibenion is-baragraff (3)—

ystyr “gweithiwr” yw “worker” o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;

ystyr “gwladolyn AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth AEE F15...;

ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw—

(a)

mewn perthynas â gwladolyn AEE, person sy’n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd, neu

(b)

mewn perthynas â gwladolyn Swisaidd, person sy’n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir.

Categori 5 – Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arallLL+C

5.—(1Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig,

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn ymadael â’r Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio [F16cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu],

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod y mae’r cwrs yn dechrau,

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F17Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(e)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (d), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F18Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (d).

(2At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw is-baragraff (3) neu (4) yn gymwys i’r person.

(3Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson sydd—

(a)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig,

(b)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir), neu

(c)yn berson [F19yr oedd ganddo’r hawl] i breswylio’n barhaol,

sydd wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

(4Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson (“P”)—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig [F20ac yr oedd ganddo’r hawl] i breswylio’n barhaol,a

(b)[F21sydd wedi mynd] i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir y mae P yn wladolyn ohoni neu y mae’r person y mae P yn aelod o deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn ohoni.

(5At ddibenion is-baragraff (4), mae P yn aelod o deulu person arall (“Q”) os yw P—

(a)yn briod neu’n bartner sifil i Q,

(b)yn ddisgynnydd uniongyrchol Q neu’n ddisgynnydd uniongyrchol priod neu bartner sifil Q a bod P—

(i)o dan 21 oed, neu

(ii)yn 21 oed neu drosodd ac yn ddibynnydd Q neu’n ddibynnydd priod neu bartner sifil Q, neu

(c)pan fo Q yn wladolyn UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38, yn berthynas uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol Q neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil Q.

[F22(6) At ddibenion y paragraff hwn, roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.]

Categori 6 – Gwladolion UELL+C

6.—(1Person—

[F23(a)sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(i)yn wladolyn UE,

(ii)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio, neu

(iii)yn aelod o deulu person yn is-baragraff (i) neu (ii),]

(b)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F24Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F25Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 9(2)).

[F26(1A) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan is-baragraff (1) yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.]

(2Person—

(a)sy’n wladolyn UE F27... ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F28Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(3Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o’r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad yn is-baragraff (1)(a) neu (2)(a) fel gofyniad sydd wedi ei fodloni.

[F29(4) At ddibenion is-baragraff (1)(a), mae gwladolyn o’r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw wedi preswylio yn Gibraltar neu wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.]

(5At ddibenion is-baragraff (1)(a), mae person (“P”) yn aelod o deulu person arall (“Q”) os yw—

(a)P yn briod neu’n bartner sifil i Q,

(b)P yn ddisgynnydd uniongyrchol Q neu’n ddisgynnydd uniongyrchol priod neu bartner sifil Q a bod P—

(i)o dan 21 oed, neu

(ii)yn 21 oed neu drosodd ac yn ddibynnydd Q neu’n ddibynnydd priod neu bartner sifil Q, neu

(c)mewn achos pan fo Q yn wladolyn UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38, P yn berthynas uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol Q neu yn llinell esgynnol priod neu bartner sifil Q.

[F30Categori 7 – Plant gwladolion SwisaiddLL+C

7.(1) Person—

(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Categori 8 – Plant gweithwyr TwrcaiddLL+C

8.—(1Person—

(a)sy’n blentyn i weithiwr Twrcaidd,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F31Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Yn y paragraff hwn, ystyr “gweithiwr Twrcaidd” yw gwladolyn Twrcaidd—

(a)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, a

(b)sy’n cael, neu sydd wedi cael, ei gyflogi’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Preswylio fel arfer – darpariaeth ychwanegolLL+C

9.—(1At ddibenion yr Atodlen hon, mae person sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu’r Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o’r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd—

(a)â’r cwrs presennol, neu

(b)gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, â chwrs yr ymgymerodd y person ag ef yn union cyn ymgymryd â’r cwrs presennol,

i’w ystyried yn berson sy’n preswylio fel arfer yn y lle y mae’r person wedi symud ohono.

(2At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“P”) i’w drin fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F32Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE, y Swistir a Thwrci pe bai P wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—

(a)P,

(b)priod neu bartner sifil P,

(c)rhiant P, neu

(d)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn P neu briod neu bartner sifil plentyn P,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth sy’n ffurfio’r [F32Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE, y Swistir a Thwrci.

(3At ddibenion is-baragraff (2), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth sy’n ffurfio’r [F32Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE, y Swistir a Thwrci yn cynnwys—

(a)yn achos aelodau o’r lluoedd arfog, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath;

(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r [F32Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath;

(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r [F32Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath.

(4At ddibenion yr Atodlen hon, mae myfyriwr cymwys sy’n garcharor i’w ystyried fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y rhan o’r Deyrnas Unedig lle yr oedd y carcharor yn preswylio cyn cael ei ddedfrydu.

(5At ddibenion yr Atodlen hon, mae ardal [F33ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar]

(a)nad oedd gynt yn rhan o’r UE neu’r AEE, ond

(b)sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn dod yn rhan o’r naill neu’r llall, neu o’r ddwy, o’r tiriogaethau hyn,

i’w hystyried fel pe bai bob amser wedi bod yn rhan o’r AEE.

Darpariaeth bellach ar breswylio fel arfer: personau sy’n ymadael â gofalLL+C

10.—(1Caiff person sy’n ymadael â gofal ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol hyd yn oed os yw’r person sy’n ymadael â gofal, ar y diwrnod hwnnw—

(a)yn derbyn gofal y tu allan i Gymru (mewn achos pan fo rheoliad 49(c)(i) yn gymwys i’r myfyriwr), neu

(b)yn preswylio y tu allan i Gymru o dan orchymyn gwarcheidiaeth arbennig (mewn achos pan fo rheoliad 49(c)(ii) yn gymwys i’r myfyriwr),

o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol Cymreig.

(2Ym mharagraff (1)—

ystyr “awdurdod lleol Cymreig” (“Welsh local authority”) yw awdurdod lleol o fewn yr ystyr a roddir gan adran 197(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

mae i “derbyn gofal” (“looked after”) yr ystyr a roddir yn adran 74 o’r Ddeddf honno;

mae i “person sy’n ymadael â gofal” (“care leaver”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 49 o’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

DehongliLL+C

11.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “AEE” (“EEA”) yw’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, sef y diriogaeth a ffurfir gan Wladwriaethau’r AEE;

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ddyddiedig 29 Ebrill 2004 ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o’u teuluoedd i symud a phreswylio’n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau(2);

[F34mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;]

[F34mae i “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE” yr ystyr a roddir i “EEA EFTA separation agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;]

ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw’r Cytundeb rhwng yr UE a’i Aelod-wladwriaethau, o’r naill ran, a Chydffederasiwn y Swistir, o’r rhan arall, ar Symudiad Rhydd Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(3) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabyddir gan lywodraeth Ei Mawrhydi yn ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy’n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yn Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(4) fel y’i hestynnwyd gan ei Brotocol 1967(5);

[F35ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw, mewn perthynas â pherson (“A”), hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad sy’n codi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ond dim ond pan fyddai A, pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â phenderfynu hawl A i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi ennill hawl o’r fath o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;]

[F36ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron Senedd y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971;]

[F34mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;]

mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal am blentyn ac mae “plentyn” (“child”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(6);

ystyr “Ynysoedd” (“Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

(1)

OJ Rhif L141, 27.05.2011, t. 1.

(2)

OJ Rhif L158, 30.04.2004, tt.77-123.

(3)

Gorch. 4904 ac OJ Rhif Ll 14, 30.04.02, t. 6.

(4)

Gorchmn. 9171.

(5)

Gorchmn. 3906, daeth y Protocol i rym ar 4 Hydref 1967.

(6)

1971 p. 77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill