[Categori 2ZA - Personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoeddLL+C
2ZA.—(1) Person—
(a)y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,
(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person, ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,
(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)(i)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, a
(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,
(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn—
(a)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person gais am ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig sy’n arwain at berson yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;
(b)ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo.]