Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 22/02/2024.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
4.—(1) Person—
(a)sy’n un o’r canlynol—
(i)gweithiwr mudol AEE neu berson hunangyflogedig AEE, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(ii)gweithiwr cyflogedig Swisaidd neu berson hunangyflogedig Swisaidd, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(iii)aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii), sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(iv)gweithiwr trawsffiniol AEE neu berson hunangyflogedig trawsffiniol AEE;
(v)person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu berson hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd;
(vi)aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v), a
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F1Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F2Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac
(c)sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar symudiad rhydd ar gyfer gweithwyr yn yr Undeb, fel y’i hestynnir gan Gytundeb yr AEE(1).
[F3(2A) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan is-baragraff (2) yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.]
(3) Yn is-baragraff (1)—
ystyr “aelod o deulu” (“family member”) yw—
mewn perthynas â gweithiwr trawsffiniol AEE, gweithiwr mudol AEE, person hunangyflogedig trawsffiniol AEE neu berson hunangyflogedig AEE—
priod y person neu ei bartner sifil,
disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person sydd o dan 21 oed neu sy’n 21 oed neu drosodd ac sy’n ddibynyddion y person neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person, neu
perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y person neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y person;
mewn perthynas â pherson cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd, person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu berson hunangyflogedig Swisaidd—
priod y person neu ei bartner sifil, neu
plentyn y person neu blentyn priod neu bartner sifil y person;
ystyr “gweithiwr mudol AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn AEE sy’n weithiwr, ac eithrio gweithiwr trawsffiniol AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “gweithiwr trawsffiniol AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn AEE sydd—
yn weithiwr yng Nghymru, a
yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE F4... ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson cyflogedig, ac eithrio person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—
yn berson cyflogedig yng Nghymru, a
yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE F4... ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “person hunangyflogedig AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn AEE sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig trawsffiniol AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person hunangyflogedig trawsffiniol AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn AEE sydd—
yn berson hunangyflogedig yng Nghymru, a
yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE F4... ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—
yn berson hunangyflogedig yng Nghymru, a
yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE, F4..., ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos.
(4) At ddibenion is-baragraff (3)—
ystyr “gweithiwr” yw “worker” o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;
ystyr “gwladolyn AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth AEE F5...;
ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw—
mewn perthynas â gwladolyn AEE, person sy’n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd, neu
mewn perthynas â gwladolyn Swisaidd, person sy’n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 2 para. 4(1)(b) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 31(3)(a)
F2Geiriau yn Atod. 2 para. 4(2)(b) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 31(3)(a)
F3Atod. 2 para. 4(2A) wedi ei fewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 31(3)(b)
F4Geiriau yn Atod. 2 para. 4(3) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 31(3)(c)
F5Geiriau yn Atod. 2 para. 4(4) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 31(3)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
OJ Rhif L141, 27.05.2011, t. 1.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys