[Categori 4A - Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd sydd â hawliau gwarchodedigLL+C
4A.—(1) Person sydd â hawliau gwarchodedig neu weithiwr trawsffiniol o fewn ystyr “frontier worker” yn rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion (Gweithwyr Trawsffiniol) (Ymadael â’r UE) 2020—
(a)sy’n un o’r canlynol—
(i)gweithiwr mudol AEE neu berson hunangyflogedig AEE, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(ii)person cyflogedig Swisaidd neu berson hunangyflogedig Swisaidd, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(iii)aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii), sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(iv)gweithiwr trawsffiniol AEE neu berson hunangyflogedig trawsffiniol AEE,
(v)person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu berson hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd, neu
(vi)aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v), a
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person sydd â hawliau gwarchodedig—
(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac
(c)sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 5 Ebrill 2011 ar symudiad rhydd ar gyfer gweithwyr o fewn yr Undeb (“y Rheoliad Gweithwyr”), fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
(3) At ddibenion is-baragraff (2)(c), yn Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr—
(a)mae’r cyfeiriad at “national of a Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon, a
(b)mae’r cyfeiriad ar “another Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig, ac mae’r cyfeiriadau at “that State” i’w dehongli yn unol â hynny.
(4) Yn y paragraff hwn, mae disgrifiad o berson yn is-baragraff (1)(a)(i) i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai, pe bai’r person hwnnw yn wladolyn AEE neu’n wladolyn AEE yn unig, yn weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig AEE.]