xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
22.—(1) Mae’r paragraff hwn yn pennu’r flwyddyn ariannol gymwys at ddibenion cyfrifo incwm net plentyn dibynnol myfyriwr cymwys (“Pl”).
(2) Oni bai bod paragraffau (3) neu (5) yn gymwys, y flwyddyn ariannol gymwys yw BF-1.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm net Pl ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm net Pl ar gyfer BF-1, y flwyddyn ariannol gymwys yw BG.
(4) Mae is-baragraff (5) yn gymwys os y flwyddyn ariannol a oedd yn dechrau yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd flaenorol oedd y flwyddyn ariannol gymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd flaenorol.
(5) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae’r flwyddyn ariannol gymwys i’w phenderfynu fel a ganlyn—
(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm net Pl ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm net Pl ar gyfer BF, y flwyddyn ariannol gymwys yw BG;
(b)fel arall, y flwyddyn ariannol gymwys yw BF.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 22 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)