xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

YR ATODLENNI

ATODLEN 3LL+CCyfrifo incwm

RHAN 4LL+CIncwm gweddilliol

PENNOD 1LL+CIncwm gweddilliol myfyriwr cymwys

Cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwysLL+C

10.  At ddibenion cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys o dan Ran 2, cyfrifir incwm gweddilliol y myfyriwr fel a ganlyn—

Incwm trethadwy’r myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfredol

Plws

Incwm sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o dan orchymyn trefniadau pensiwn yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, ar ôl didynnu treth incwm.

Minws

Cyfanred y didyniadau a nodir ym mharagraff 11 (oni bai eu bod eisoes wedi eu didynnu at ddibenion penderfynu ar incwm trethadwy’r myfyriwr).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwysLL+C

11.  At ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, y didyniadau yw—

Didyniad A

Tâl a roddir i’r myfyriwr cymwys yn y flwyddyn academaidd gyfredol am waith a wneir yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd o’r cwrs, ond nid tâl mewn cysylltiad ag—

(a)unrhyw gyfnod o absenoldeb a gymerir gan y myfyriwr, neu

(b)cyfnod arall pan fydd y myfyriwr wedi ei ryddhau o ddyletswydd i fod yn bresennol yn y gwaith,

fel y caiff y myfyriwr ymgymryd â’r cwrs.

Didyniad B

Swm gros unrhyw bremiwm neu swm a delir gan y myfyriwr cymwys yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol mewn perthynas â phensiwn—

(a)y rhoddir rhyddhad mewn cysylltiad ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(1); neu

(b)pan fo incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm [F1Aelod-wladwriaeth] , y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth yn y Deddfau Treth Incwm.

ond nid yw’n cynnwys unrhyw swm a delir fel premiwm o dan bolisi aswiriant bywyd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Incwm myfyriwr cymwys a geir mewn arian cyfred ac eithrio sterlingLL+C

12.—(1Pan fo’r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfred ac eithrio sterling, gwerth yr incwm yw—

(a)swm y sterling y mae’r myfyriwr cymwys yn ei gael ar gyfer yr incwm, neu

(b)pan na fo’r myfyriwr yn troi’r incwm yn sterling, gwerth y sterling y byddai’r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio cyfradd gyfnewid CThEM.

(2Cyfradd gyfnewid CThEM(2) yw’r gyfradd a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer y mis sy’n cyfateb i’r mis y ceir yr incwm ynddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 2LL+CIncwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwys

Personau y mae’r bennod hon yn gymwys iddyntLL+C

13.  Mae’r Bennod hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo incwm gweddilliol person (“P”) pan fo P yn golygu’r canlynol—

(a)pan fo incwm P yn cael ei gyfrifo’n gyfanred o dan Gam 1 ym mharagraff 3(1) at ddiben cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys—

(i)rhiant y myfyriwr cymwys,

(ii)partner y myfyriwr cymwys, neu

(iii)partner rhiant y myfyriwr cymwys,

yn ôl y digwydd;

(b)oedolyn dibynnol myfyriwr cymwys at ddibenion cyfrifo swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy i’r myfyriwr (gweler rheoliad 77).

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwysLL+C

14.  Cyfrifir incwm gweddilliol P fel a ganlyn—

Incwm trethadwy P ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys.

Plws

Incwm sy’n daladwy i P o dan orchymyn trefniadau pensiwn yn ystod y flwyddyn ariannol gymwys ar ôl didynnu treth incwm.

Minws

Cyfanred y didyniadau a nodir ym mharagraff 15 (oni bai eu bod eisoes wedi eu didynnu at ddibenion penderfynu ar incwm trethadwy P).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwysLL+C

15.—(1At ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol P, y didyniadau yw—

Didyniad A

Swm gros unrhyw bremiwm neu swm a delir gan P mewn cysylltiad â phensiwn yn ystod y flwyddyn ariannol gymwys—

(a)y rhoddir rhyddhad mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu

(b)pan fo incwm P yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm [F2Aelod-wladwriaeth] , y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef pe bai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth yn y Deddfau Treth Incwm,

ond nid yw’n cynnwys unrhyw swm a delir fel premiwm o dan bolisi aswiriant bywyd.

Didyniad B

Pan fo paragraff 18 yn gymwys, swm sy’n cyfateb i Ddidyniad A ar yr amod nad yw’r swm hwn yn fwy na’r didyniadau a fyddai’n cael eu gwneud pe bai holl incwm P yn incwm at ddibenion Deddfau Treth Incwm mewn gwirionedd.

Didyniad C

£1,130, pan fo P—

(a)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfredol ond hefyd yn rhiant myfyriwr cymwys, neu

(b)wedi cael dyfarndal statudol mewn cysylltiad â’r un cyfnod.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Blynyddoedd ariannol cymwys: cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwysLL+C

16.—(1Mae’r paragraff hwn yn pennu’r flwyddyn ariannol gymwys at ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol P.

(2Oni bai bod is-baragraffau (3) neu (5) yn gymwys, y flwyddyn ariannol gymwys yw BF-1.

[F3(3) Y flwyddyn ariannol gymwys yw BG os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)pan fo P yn un o ddau berson y cyfrifir cyfanred eu hincymau gweddilliol o dan baragraff (b)(i) neu (ii) o Restr A ym mharagraff 3(1), fod cyfanred incymau gweddilliol P a’r person arall ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai na chyfanred incymau gweddilliol P a’r person arall ar gyfer BF-1, neu

(b)mewn unrhyw achos arall, fod incwm gweddilliol P ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm gweddilliol P ar gyfer BF-1.]

(4Mae is-baragraff (5) yn gymwys os y flwyddyn ariannol a oedd yn dechrau yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd flaenorol oedd y flwyddyn ariannol gymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd flaenorol.

[F4(5) Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)y flwyddyn ariannol gymwys yw BG os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(i)pan fo P yn un o ddau berson y cyfrifir cyfanred eu hincymau gweddilliol o dan baragraff (b)(i) neu (ii) o Restr A ym mharagraff 3(1), fod cyfanred incymau gweddilliol P a’r person arall ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai na chyfanred incymau gweddilliol P a’r person arall ar gyfer BF, neu

(ii)mewn unrhyw achos arall, fod incwm gweddilliol P ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm gweddilliol P ar gyfer BF;

(b)fel arall, y flwyddyn ariannol gymwys yw BF.]

Incwm o fusnes neu broffesiwnLL+C

17.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan—

(a)y flwyddyn ariannol gymwys at ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol P yw BF-1, a

(b)bo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm P yn deillio’n gyfan gwbl neu’n bennaf o elw busnes neu broffesiwn a gynhelir gan P.

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, incwm gweddilliol P yw ei incwm ar gyfer y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy’n dod i ben yn BF-1 y cedwir cyfrifon mewn cysylltiad ag ef sy’n ymwneud â busnes neu broffesiwn P.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Trin incwm nas trinnir fel incwm at ddibenion treth incwmLL+C

18.—(1Mae is-baragraff (3) yn gymwys pan fo P yn cael unrhyw incwm nad yw, am unrhyw un neu ragor o’r rhesymau a nodir yn is-baragraff (2), yn ffurfio rhan o incwm P at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm [F5Aelod-wladwriaeth] .

(2Y rhesymau yw—

Rheswm 1

(a)nid yw P yn preswylio nac wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu

(b)cyfrifiennir incwm P at ddibenion deddfwriaeth treth incwm [F5Aelod-wladwriaeth] ac nid yw P yn preswylio nac wedi ymgartrefu yn yr Aelod-wladwriaeth honno.

Rheswm 2

(a)nid yw incwm P yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu

(b)nid yw incwm P yn codi yn yr Aelod-wladwriaeth y cyfrifiennir incwm P ynddi at ddibenion deddfwriaeth treth incwm y Wladwriaeth honno.

Rheswm 3

Mae’r incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae’r incwm ohoni neu ohono yn esempt rhag treth.

(3Mae incwm trethadwy P i’w gymryd i gynnwys yr incwm a ddisgrifir yn is-baragraff (1) fel pe bai’n rhan o incwm P at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm [F5Aelod-wladwriaeth] , yn ôl y digwydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Incwm P mewn arian cyfred ac eithrio sterlingLL+C

19.—(1Pan fo incwm P wedi ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm [F6Aelod-wladwriaeth] , mae incwm gweddilliol P i’w gyfrifo yn unol a’r Rhan hon yn arian cyfred yr Aelod-wladwriaeth honno ac i’w gymryd fel gwerth sterling yr incwm hwnnw a benderfynir yn unol â chyfradd berthnasol CThEM.

(2Cyfradd berthnasol CThEM yw’r gyfradd gyfnewid ar gyfartaledd a ddyroddir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer y flwyddyn galendr sy’n dod i ben yn union cyn diwedd BF-1.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 3 para. 19 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

(1)

2004 p. 12; diwygiwyd adran 188 gan Ddeddf Cyllid 2007 (p. 11), adrannau 68 a 114 ac Atodlenni 18, 19 a 27, Deddf Cyllid 2013 (p. 29), adran 52 a Deddf Cyllid 2014 (p. 26), Atodlen 7.