Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliad 98

ATODLEN 4Grant myfyriwr ôl-raddedig anabl

Grant myfyriwr ôl-raddedig anabl

1.—(1Mae grant myfyriwr ôl-raddedig anabl yn grant sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys sydd ag anabledd er mwyn ei gynorthwyo gyda gwariant ychwanegol mewn cysylltiad â chostau byw y mae’n ofynnol i’r myfyriwr fynd iddynt mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig oherwydd anabledd y myfyriwr.

(2Yn yr Atodlen hon, ystyr “cwrs ôl-radd presennol” yw’r cwrs y mae person yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad ag ef o dan baragraff 17.

Cyrsiau ôl-radd dynodedig

2.—(1Yn yr Atodlen hon (ac at ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998), mae cwrs yn gwrs ôl-radd dynodedig os yw’n bodloni pob un o’r amodau a ganlyn—

Amod 1

Fel arfer mae gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu uwch yn ofynnol ar gyfer cael mynediad i’r cwrs.

Amod 2

Nid yw’r cwrs yn gwrs rhyngosod.

Amod 3

Hyd y cwrs yw o leiaf un flwyddyn academaidd.

Amod 4

Mae’r cwrs wedi ei ddarparu gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus.

Amod 5

Mae o leiaf hanner yr addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs wedi ei ddarparu yn y Deyrnas Unedig.

Amod 6

Nid yw’r cwrs yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon neu’n gwrs a ddilynir fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 7(2)).

(2At ddibenion Amod 4—

(a)mae cwrs wedi ei ddarparu gan sefydliad os yw’n darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi ymrwymo i gytundeb â’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs ai peidio;

(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg cyfansoddol neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn sefydliad addysgol cydnabyddedig os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn sefydliad addysgol cydnabyddedig;

(c)ni fernir bod sefydliad yn sefydliad addysgol cydnabyddedig dim ond oherwydd ei fod yn sefydliad cysylltiedig o fewn ystyr “connected institution” yn adran 65(3B) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 sy’n cael, oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad arall, y cyfan neu ran o unrhyw grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill a ddarperir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i’r sefydliad arall hwnnw yn unol ag adran 65(3A)(1) o’r Ddeddf honno.

Dynodi cyrsiau ôl-radd eraill

3.—(1Caiff Gweinidogion Cymru bennu bod cwrs ôl-radd i’w drin yn gwrs ôl-radd dynodedig er gwaethaf y ffaith na fyddai fel arall yn gwrs ôl-radd dynodedig, oni bai am y pennu.

(2Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu pennu cwrs ôl-radd o dan is-baragraff (1).

Myfyrwyr ôl-raddedig cymwys

4.—(1Mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig y mae’r person yn ymgymryd ag ef—

(a)os oes gan y person anabledd; a

(b)naill ai—

(i)os yw’r person yn dod o fewn un o’r categorïau o bersonau a nodir yn Atodlen 2 ac nad yw unrhyw un neu ragor o’r eithriadau a nodir ym mharagraff 5 o’r Atodlen hon yn gymwys i’r person, neu

(ii)os yw amgylchiadau’r person yn dod o fewn un o’r achosion a nodir ym mharagraff 6.

(2Dim ond mewn cysylltiad ag un cwrs ôl-radd dynodedig y caiff person fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ar unrhyw un adeg.

5.—(1Nid yw person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys os yw unrhyw un neu ragor o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys—

Eithriad 1

Ar unrhyw un adeg, mae P hefyd yn cymhwyso i gael cymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn rhinwedd y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998 oni bai bod y cwrs yn un y mae gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu gymhwyster uwch yn ofyniad mynediad arferol ar ei gyfer.

Eithriad 2

Mewn cysylltiad â P yn ymgymryd â’r cwrs ôl-radd dynodedig, rhoddwyd i P neu talwyd iddo—

(a)bwrsari gofal iechyd,

(b)lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007,

(c)lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan y Cyngor Ymchwil, neu

(d)lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wnaed—

(i)gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs,

(ii)o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(2), neu

(iii)o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(3),

sy’n cynnwys unrhyw daliad at ddiben talu am wariant ychwanegol yr aeth P iddo oherwydd ei anabledd.

Eithriad 3

Mae P wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu benthyciad myfyriwr.

Eithriad 4

Mae P wedi cyrraedd 18 oed ac nid yw wedi dilysu cytundeb am fenthyciad myfyriwr a wnaed gyda P pan oedd P o dan 18 oed.

Eithriad 5

Mae Gweinidogion Cymru yn meddwl bod ymddygiad P o’r fath fel nad yw P yn addas i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl.

Eithriad 6

Mae P yn garcharor.

Ond caiff P fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys er ei fod yn garcharor—

(a)os yw cais P am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd y mae P yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar ynddi, neu

(b)os yw P wedi cael ei awdurdodi gan Lywodraethwr neu Gyfarwyddwr y carchar neu gan awdurdod priodol arall i astudio’r cwrs ôl-radd dynodedig a bod dyddiad rhyddhau cynharaf P o fewn 6 mlynedd i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Eithriad 7

Mae P yn fyfyriwr Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.

(2Yn Eithriadau 3 a 4, ystyr “benthyciad myfyriwr” yw benthyciad a wneir o dan—

(a)Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990;

(b)Deddf Addysg (Yr Alban) 1980;

(c)Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990;

(d)Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998;

(e)rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r Deddfau neu’r Gorchmynion hynny;

(f)rheoliadau a wneir o dan Ddeddf 1998.

Myfyrwyr ôl-raddedig cymwys sy’n parhau ar gwrs

6.—(1Mae person (“P”)—

(a)sydd ag anabledd, a

(b)y mae ei amgylchiadau yn dod o fewn un o’r achosion a ganlyn,

yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys (yn unol â hynny, nid oes angen i P ddod o fewn unrhyw un o’r categorïau o fyfyrwyr cymwys a nodir yn Atodlen 2 ac nid yw’r eithriadau a nodir ym mharagraff 5 yn gymwys i P).

(2Yr achosion yw—

Achos 1

(a)roedd P yn cymhwyso fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, a

(b)roedd P yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ôl-radd presennol.

Achos 2

(a)roedd P yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig (y “cwrs cynharach”) ac eithrio’r cwrs ôl-radd presennol,

(b)mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs cynharach wedi cael ei drosglwyddo i’r cwrs ôl-radd presennol (gweler paragraff 15),ac

(c)roedd P yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cynharach.

Cyfnod cymhwystra

7.—(1Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig tan ddiwedd cyfnod cymhwystra’r myfyriwr oni bai bod ei statws wedi ei derfynu yn unol â pharagraff 9, 10, 12 neu 13.

(2Daw cyfnod cymhwystra myfyriwr i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs ôl-radd dynodedig ynddi.

Cyrsiau rhan-amser – dim cymhwystra am flynyddoedd o astudio dwysedd isel

8.  Pan fo’r cwrs ôl-radd presennol yn gwrs rhan-amser, nid yw’r myfyriwr ôl-radd cymwys yn gymwys i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn honno yn llai na 25% (gweler paragraff 5 o Atodlen 1 o ran sut i gyfrifo’r dwysedd astudio ar gyfer blwyddyn academaidd).

Terfynu cymhwystra yn gynnar

9.  Mae cyfnod cymhwystra myfyriwr ôl-raddedig cymwys (“P”) yn terfynu ar ddiwedd y diwrnod—

(a)pan fydd P yn tynnu’n ôl o’i gwrs ôl-radd dynodedig ac nad yw Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys o dan baragraff 15,

(b)pan fydd P yn cefnu ar ei gwrs ôl-radd dynodedig neu’n cael ei ddiarddel ohono, neu

(c)pan fydd P yn dod yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn rhinwedd y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998 oni bai bod y cwrs yn un y mae gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu gymhwyster uwch yn ofyniad mynediad arferol ar ei gyfer.

Terfynu o ganlyniad i gamymddygiad neu fethu â darparu gwybodaeth gywir

10.—(1Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cyfnod cymhwystra myfyriwr ôl-raddedig cymwys os ydynt wedi eu bodloni bod ymddygiad y myfyriwr o’r fath fel nad yw’r myfyriwr yn addas mwyach i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl.

(2Mae is-baragraff (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr cymwys—

(a)wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan yr Atodlen hon i ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth, neu

(b)wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth a oedd yn sylweddol anghywir.

(3Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)terfynu cyfnod cymhwystra’r myfyriwr;

(b)penderfynu nad yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl neu swm o grant o’r fath y maent yn meddwl ei fod yn briodol.

Adfer cymhwystra ar ôl iddo gael ei derfynu

11.—(1Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr yn terfynu o dan baragraff 9 neu 10 yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs ôl-radd presennol ynddi, caiff Gweinidogion Cymru adfer cyfnod cymhwystra’r myfyriwr am unrhyw gyfnod y maent yn meddwl ei fod yn briodol.

(2Ond ni chaniateir i gyfnod cymhwystra sydd wedi ei adfer estyn y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs ôl-radd dynodedig ynddi.

Ffoaduriaid y mae eu caniatâd i aros wedi dod i ben

12.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 2 (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—

(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu

(ii)mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan baragraff 15, a

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo statws ffoadur—

(i)P, neu

(ii)y person yr oedd ei statws fel ffoadur yn golygu bod P yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 2,

wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi.

(3Yn y paragraff hwn, mae i “ffoadur” yr ystyr a roddir gan baragraff 11 o Atodlen 2.

Personau eraill y mae eu caniatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben

13.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 3 (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—

(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu

(ii)mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—

(i)P, neu

(ii)y person, oherwydd bod ganddo ganiatâd i ddod i mewn neu i aros, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 3,

aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi.

Dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

14.—(1Pan fo un o’r digwyddiadau ym mharagraff (3) yn digwydd, caiff y myfyriwr ddod yn gymwys i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl.

(2Ond ni fydd swm y grant sy’n daladwy i’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys ond mewn cysylltiad â’r chwarter neu’r chwarteri o’r flwyddyn academaidd sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd.

(3Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs ôl-radd dynodedig;

(b)bod y myfyriwr yn dod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ar y sail–

(i)bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(ii)bod y myfyriwr yn wladolyn o wladwriaeth sy’n ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(iii)bod y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio’n barhaol;

(iv)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(v)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 2;

(vi)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

(4Yn is-baragraff (3) mae i’r termau a ganlyn yr un ystyr ag yn Atodlen 2—

“ffoadur” (“refugee”);

“gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”);

“hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”);

“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”);

“plentyn” (“child”);

“rhiant” (“parent”).

Trosglwyddo rhwng cyrsiau ôl-radd

15.—(1Pan fo myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn trosglwyddo o gwrs ôl-radd dynodedig i gwrs ôl-radd dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i’r cwrs arall—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr i wneud hynny,

(b)os ydynt wedi eu bodloni bod un o’r seiliau trosglwyddo yn gymwys (gweler is-baragraff (2)), ac

(c)os nad yw cyfnod cymhwystra’r myfyriwr wedi dod i ben nac wedi cael ei derfynu.

(2Y seiliau trosglwyddo yw—

Y sail gyntaf

Mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn peidio ag ymgymryd ag un cwrs ôl-radd dynodedig ac yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig arall yn yr un sefydliad.

Yr ail sail

Mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig mewn sefydliad arall.

Effaith y trosglwyddo

16.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws myfyriwr ôl-raddedig cymwys (“P”) o dan baragraff 15—

(a)cânt ailasesu swm y grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sy’n daladwy i P ar ôl y trosglwyddo;

(b)ond os na wneir ailasesiad, mae gan P hawlogaeth, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae P yn trosglwyddo iddo, i gael gweddill y grant myfyriwr ôl-raddedig anabl yr asesodd Gweinidogion Cymru fod gan P hawlogaeth i’w gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y trosglwyddodd P ohono.

(2Pan fo myfyriwr ôl-raddedig cymwys (“P”) yn trosglwyddo—

(a)ar ôl i Weinidogion Cymru asesu hawlogaeth P i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y trosglwyddodd P ohono, ond

(b)cyn i P gwblhau’r flwyddyn honno,

ni chaiff P wneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno mewn cysylltiad â’r cwrs y mae P wedi trosglwyddo iddo.

Ceisiadau a phenderfyniadau

17.—(1Nid yw person yn cymhwyso i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn perthynas â blwyddyn academaidd oni bai bod y person yn gwneud cais am y grant mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.

(2Rhaid i gais o dan is-baragraff (1)—

(a)bod ar y ffurf honno a chynnwys yr wybodaeth honno a bennir gan Weinidogion Cymru,

(b)cynnwys unrhyw ddogfennaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru, ac

(c)cyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

18.—(1Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn meddwl eu bod yn angenrheidiol er mwyn gwneud penderfyniad ar gais.

(2Caiff y camau hynny gynnwys ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth bellach.

(3Caiff Gweinidogion Cymru wneud penderfyniad dros dro ar gais (gweler paragraff 21 ar gyfer darpariaeth ynghylch taliadau a wneir ar sail penderfyniad dros dro).

(4Caniateir i benderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru ar ôl i benderfyniad dros dro gael ei wneud—

(a)cadarnhau’r penderfyniad dros dro, neu

(b)rhoi penderfyniad gwahanol yn ei le.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am benderfyniad (gan gynnwys penderfyniad dros dro) ar gais.

(6Rhaid i’r hysbysiad ddatgan—

(a)a yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y ceisydd yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys,

(b)os felly, a yw’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cymhwyso i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd,

(c)os yw’r myfyriwr yn cymhwyso i’w gael, y swm sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd,

(d)dadansoddiad sy’n pennu symiau’r grant sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob un o’r dibenion a grybwyllir ym mharagraff 20(2), ac

(e)yn achos penderfyniad dros dro, y ffaith bod y penderfyniad yn un dros dro a chanlyniadau’r ffaith honno.

Gofynion ar fyfyrwyr ôl-radd cymwys i ddarparu gwybodaeth

19.—(1Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais i wneud hynny, rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru iddynt ei chael at ddibenion yr Atodlen hon.

(2Pan fo digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff (3) yn digwydd mewn cysylltiad â myfyriwr ôl-raddedig cymwys, rhaid i’r myfyriwr hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y digwyddiad.

(3Y digwyddiadau yw—

(a)bod y myfyriwr yn tynnu’n ôl o’r cwrs ôl-radd presennol, yn cefnu arno neu’n cael ei ddiarddel ohono;

(b)bod y myfyriwr yn trosglwyddo i gwrs ôl-radd arall (pa un ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol);

(c)bod y myfyriwr fel arall yn peidio ag ymgymryd â’r cwrs ôl-radd presennol ac nad yw’n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu na chaniateir iddo barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;

(d)bod y myfyriwr yn absennol o’r cwrs ôl-radd presennol—

(i)am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch, neu

(ii)am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;

(e)bod y mis ar gyfer dechrau ar y cwrs ôl-radd presennol neu ei gwblhau yn newid;

(f)bod y manylion a ganlyn, sef—

(i)cyfeiriad cartref y myfyriwr neu ei gyfeiriad yn ystod y tymor,

(ii)rhif ffôn cartref y myfyriwr neu ei rif ffôn yn ystod y tymor, neu

(iii)cyfeiriad e-bost cartref y myfyriwr neu ei gyfeiriad e-bost yn ystod y tymor,

yn newid.

(4Rhaid darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei darparu i Weinidogion Cymru o dan yr Atodlen hon ar y ffurf honno a bennir gan Weinidogion Cymru.

(5Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod rhaid llofnodi—

(a)cais o dan baragraff 17;

(b)unrhyw ddogfennaeth arall a ddarperir iddynt o dan yr Atodlen hon,

yn y modd (gan gynnwys ar ffurf electronig) a bennir ganddynt.

(6Mae’r cyfeiriad at fyfyriwr ôl-raddedig cymwys yn is-baragraff (1) i’w drin fel pe bai’n cynnwys person sy’n gwneud cais o dan baragraff 17 hyd yn oed os penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais yw nad yw’r person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys.

(7Gweler paragraff 10 am ddarpariaeth ynghylch canlyniadau methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan y paragraff hwn.

Swm grant myfyriwr ôl-raddedig anabl

20.—(1Swm y grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sy’n daladwy i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£10,590, neu

(b)swm y gwariant cymwys y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn ofynnol i’r myfyriwr fynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs ôl-radd presennol oherwydd anabledd y myfyriwr.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(b), ystyr “gwariant cymwys” yw gwariant at unrhyw un neu ragor o’r dibenion canlynol—

(a)gwariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(b)gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;

(c)gwariant yr eir iddo—

(i)o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad, a

(ii)o fewn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o’r cwrs ôl-radd presennol, am unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor (gan gynnwys Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis).

Talu

21.—(1Mae grant myfyriwr ôl-raddedig anabl yn daladwy mewn cysylltiad â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

(2Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn unrhyw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y maent yn meddwl eu bod yn briodol.

(3Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn meddwl bod hynny’n briodol, dalu unrhyw swm o’r grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sy’n daladwy at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol mewn un taliad mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfan.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad dros dro ar gais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad sy’n seiliedig ar y penderfyniad hwnnw.

(5Os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol gwneud taliadau drwy drosglwyddo’r taliadau i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, cânt ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ddarparu manylion unrhyw gyfrif o’r fath yn y Deyrnas Unedig y caniateir i daliadau gael eu gwneud iddo.

(6Os yw’r gofyniad hwnnw wedi ei osod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o’r grant myfyriwr ôl-raddedig anabl hyd nes bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cydymffurfio.

Gordaliadau

22.—(1Pan fo myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael taliad o’r grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sy’n fwy na’r swm y mae hawlogaeth ganddo i’w gael, rhaid i’r myfyriwr ad-dalu’r swm dros ben os yw Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.

(2Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at fyfyriwr ôl-raddedig cymwys i’w trin fel pe baent yn cynnwys person sydd wedi cael swm o’r grant myfyriwr ôl-raddedig anabl ond nad yw, neu nad yw mwyach, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o grant myfyriwr ôl-raddedig anabl oni bai eu bod yn meddwl nad yw’n briodol gwneud hynny.

(4Mae taliad o grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sydd wedi ei wneud cyn y diwrnod y mae’r cwrs yn dechrau arno yn ordaliad os yw’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn tynnu’n ôl o’r cwrs cyn y diwrnod hwnnw.

(5Mae taliad o grant myfyriwr ôl-raddedig anabl yn ordaliad os yw’r naill neu’r llall o’r achosion a ganlyn yn gymwys—

Achos 1

Mae swm o’r grant wedi ei dalu at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol, ond nid yw’r offer wedi eu danfon at y myfyriwr ôl-raddedig cymwys cyn i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr ddod i ben neu gael ei derfynu.

Achos 2

Mae swm o’r grant at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol yn cael ei dalu ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys ddod i ben neu gael ei derfynu.

(6Caniateir adennill gordaliad o grant myfyriwr ôl-raddedig anabl drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw grant sy’n daladwy i’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998.

(7Pan—

(a)bo gordaliad o grant myfyriwr ôl-raddedig anabl, a

(b)bo unrhyw swm o’r grant wedi ei dalu at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol,

caiff Gweinidogion Cymru dderbyn offer arbenigol yn ôl fel modd i adennill y cyfan neu ran o’r gordaliad.

(8Nid yw is-baragraffau (6) a (7) yn rhwystro Gweinidogion Cymru rhag adennill gordaliad drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.

(1)

1992 p. 13; mewnosodwyd is-adrannau (3A) a (3B) o adran 65 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.

(2)

2000 p. 14. Diwygiwyd adran 67(4) gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal (Cymru) 2016 (dccc 2), Atodlen 3, Rhan 2, paragraffau 40 a 43.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill