Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

Dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaiddLL+C

14.—(1Pan fo un o’r digwyddiadau ym mharagraff (3) yn digwydd, caiff y myfyriwr ddod yn gymwys i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl.

(2Ond ni fydd swm y grant sy’n daladwy i’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys ond mewn cysylltiad â’r [F1flwyddyn academaidd o’r dyddiad y mae’r digwyddiad perthnasol yn digwydd].

(3Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs ôl-radd dynodedig;

(b)bod y myfyriwr yn dod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ar y sail–

[F2(i)bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;]

[F3(ia)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 [F4neu’n berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir];]

[F5(ib)bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd Calais;]

F6(ii). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F7(iii)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 1(2)(a) o Atodlen 2;]

[F8(iv)pan fo paragraff 4(1A)(a) o’r Atodlen hon yn gymwys, bod y person yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 8(1)(a) o Atodlen 2;]

(v)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym [F9mharagraff 4A(1)(a) o Atodlen 2 neu, pan fo paragraff 4(1A)(a) o’r Atodlen hon yn gymwys, ym] mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 2;

[F10(vi)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 7A(a) o Atodlen 2 neu, pan fo paragraff 4(1A)(a) o’r Atodlen hon yn gymwys, ym mharagraff 7(1)(a) o Atodlen 2;]

[F11(vii)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6B(1)(a)(ii) o Atodlen 2.]

(4Yn is-baragraff (3) mae i’r termau a ganlyn yr un ystyr ag yn Atodlen 2—

“ffoadur” (“refugee”);

F12...

F13...

[F14person sydd â chaniatâd Calais” (“person with Calais leave”);]

[F15“person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”);]

“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”);

[F14person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” (“person granted leave to remain as a protected partner”);]

[F16“person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”);]

F17...

[F18“rheolau mewnfudo” (“immigration rules”);]

“rhiant” (“parent”).

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn Atod. 4 para. 14(2) wedi eu hamnewid (gyda chymhwysiad yn unol â rhl. 1(2) yr O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 11(a)

F15Geiriau yn Atod. 4 para. 14(4) wedi eu mewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 57(f)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 14 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)