Gofynion gwybodaeth a chytundebau ar gyfer ad-daluLL+C
10.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i fyfyriwr Oxbridge cymwys am unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth sy’n ofynnol ganddynt at ddibenion—
(a)penderfynu ar gymhwystra i gael benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge, neu
(b)adennill benthyciad.
(2) Caniateir i gais o dan is-baragraff (1) gynnwys gofyn i fyfyriwr Oxbridge cymwys am gael gweld—
(a)ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae’r myfyriwr hwnnw yn wladolyn ohoni,
(b)ei gerdyn adnabod cenedlaethol dilys, neu
(c)ei dystysgrif geni.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am wybodaeth neu ddogfennaeth o dan is-baragraff (1), cânt gadw yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge hyd nes bod y myfyriwr yn darparu’r hyn y gofynnwyd amdano neu’n rhoi esboniad boddhaol am beidio â chydymffurfio â’r cais.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol ar unrhyw adeg i fyfyriwr Oxbridge cymwys ymrwymo i gytundeb i ad-dalu benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge drwy ddull penodol.
(5) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am gytundeb ynghylch y dull o ad-dalu, cânt gadw yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge hyd nes bod y myfyriwr yn darparu’r hyn y gofynnwyd amdano.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 5 para. 10 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)