xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
8.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru dalu benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge y mae myfyriwr Oxbridge cymwys yn cymhwyso i’w gael i’r coleg neu’r neuadd breifat barhaol y mae’r myfyriwr yn atebol i wneud taliad iddo neu iddi.
(2) Rhaid talu’r benthyciad mewn un cyfandaliad.
(3) Ni chaiff Gweinidogion Cymru dalu’r benthyciad—
(a)cyn iddynt gael oddi wrth y coleg neu’r neuadd breifat barhaol—
(i)cais ysgrifenedig am daliad, a
(ii)cadarnhad o bresenoldeb ar y ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru, a
(b)cyn bod y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r benthyciad yn ymwneud â hi wedi dod i ben.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru dalu benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge heb gael cadarnhad o bresenoldeb os ydynt yn meddwl y byddai’n briodol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau eithriadol.
(5) Yn y paragraff hwn, ystyr “cadarnhad o bresenoldeb” yw cadarnhad fel y cyfeirir ato yn rheoliad 87(1).
(6) Ni chaniateir i Weinidogion Cymru wneud taliad o fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs Oxbridge dynodedig—
(a)os yw’r myfyriwr Oxbridge cymwys yn peidio ag ymgymryd â’r cwrs cyn i’r cyfnod o dri mis sy’n dechrau â diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd ddod i ben, a
(b)os yw’r coleg neu’r neuadd breifat barhaol wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig eto yn ystod y flwyddyn academaidd.
(7) Mae paragraffau 9 a 10 yn nodi amgylchiadau eraill pan na chaniateir i daliad o fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge gael ei wneud neu pan ganiateir iddo gael ei gadw’n ôl.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)